GWEINIDOGION Y DU YN GWEITHREDU MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG 

 

 

107 - Rheoliadau'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin a Dyframaethu (Diwygio etc.) (Ymadael â'r UE) 2019

Wedi'u gosod yn Senedd y DU: 13 Chwefror 2019

Sifftio

Yn destun gwaith sifftio yn Senedd y DU?

Na

Y weithdrefn:

Cadarnhaol

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

Dd/B

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Nid yw’n hysbys

Dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

Dd/B

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Papur 35

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol (SICM) o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd eu bod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Dd/B

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Dd/B

Y weithdrefn:

Cadarnhaol

Dyddiad trafod gan y Cydbwyllgor ar Offerynnau Statudol

Nid yw'n hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

Nid yw'n hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Nid yw'n hysbys

Sylwadau

 

Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, a pharagraff 21(b) o Atodlen 7 i'r Ddeddf.

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau manwl a helaeth i ddeddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd yn ymwneud â Physgodfeydd fel cyfraith UE a ddargedwir i'w galluogi i weithredu'n effeithiol y tu allan i'r UE.  Trosglwyddir swyddogaethau deddfwriaethol ac anneddfwriaethol endidau'r UE i weinyddiaethau pysgodfeydd y DU.

 

Cyfleuir y swyddogaethau hyn yn gyffredinol fel y gall Gweinyddiaethau Datganoledig wneud eu rheoliadau eu hunain pan gaiff y mater ei ddatganoli, a gall yr Ysgrifennydd Gwladol wneud rheoliadau lle cedwir materion yn ôl.  Mewn rhai achosion, mewn meysydd cymhwysedd datganoledig lle y ffafrir dull ar gyfer y DU gyfan, gall yr Ysgrifennydd Gwladol arfer y swyddogaeth ar gyfer y DU gyfan, gyda chydsyniad y Gweinyddiaethau Datganoledig. 

 

Mae'r rheoliadau yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol yn San Steffan.

 

Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn gwneud y sylwadau a ganlyn mewn perthynas â datganiad Llywodraeth Cymru dyddiedig 15 Chwefror 2019 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.

 

Dywed y datganiad:

 

"Mae pysgodfeydd yn faes sydd wedi'i ddatganoli, ac mae gan Cynulliad Cenedlaethol Cymru (y "Cynulliad") gymhwysedd deddfwriaethol eang yn y maes hwn mewn perthynas â Chymru. 

 

Mae'r offeryn yn rhoi swyddogaethau gweinyddol a deddfwriaethol ar Weinidogion Cymru yn ddilyffethair.   Mae'r offeryn hefyd yn rhoi swyddogaethau ar yr Ysgrifennydd Gwladol i arfer swyddogaethau mewn perthynas â Chymru gyda chysyniad Gweinidogion Cymru, ac mewn achosion penodol yn ddilyffethair. 

 

Gallai swyddogaethau a drosglwyddir i'r Ysgrifennydd Gwladol i'w harfer yn gydamserol gyda Gweinidogion Cymru fod yn gyfystyr â swyddogaethau un o Weinidogion y Goron at ddibenion Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae'n bosibl, felly, fod hynny'n ystyriaeth berthnasol yng nghyd-destun cymhwysedd y Cynulliad i ddeddfu yn y meysydd hyn yn y dyfodol.  [Ein pwyslais ni]

 

Gallai swyddogaethau a drosglwyddir [fel eu bod yn arferadwy gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn unig neu â chydsyniad] Gweinidogion Cymru fod yn gyfystyr â swyddogaethau un o Weinidogion y Goron at ddibenion Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Pe bai'r Cynulliad yn cyflwyno Bil yn y dyfodol i geisio dileu neu addasu'r swyddogaethau hyn, gallai hynny olygu y bydd gofyn ymgynghori â Llywodraeth y DU.”  [Ein pwyslais ni]

 

Mae Rheol Sefydlog 30C.3(ii) yn ei gwneud yn ofynnol i'r datganiad ysgrifenedig "nodi unrhyw effaith y caiff yr offeryn statudol ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad a / neu gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru". Mae'r datganiad hwn (ac yn benodol y brawddegau a amlygir uchod) yn awgrymu yn hytrach na nodi'n fanwl.

 

Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ar bwynt tebyg mewn perthynas â Rheoliadau Maeth (Diwygio ac ati) (Ymadael â'r UE) 2019.  Yn ei hymateb dyddiedig 7 Chwefror 2019 i lythyr y Pwyllgor dyddiedig 31 Ionawr 2019, cyfeiriodd y Gweinidog at ei hymateb i gwestiynau a godwyd mewn perthynas â Rheoliadau Hawliau Bridwyr Planhigion (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2018. Yma, dywed y Gweinidog:

 

"[M]ae swyddogion Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad â Swyddfa Cymru am y cyfyngiadau anfwriadol ar gymhwysedd y Cynulliad sydd wedi'u creu gan bwerau a roddwyd mewn OSau sy'n gysylltiedig ag ymadael â'r UE ac mewn deddfwriaeth arall sy'n rhoi effaith i baragraffau 8, 10 ac 11 o Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru. Mae swyddogion yn edrych ar y mater yn fanwl ac yn ystyried sut orau i'w ddatrys.  Bydd Llywodraeth Cymru yn mynd ati'n rheolaidd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad Cenedlaethol, gan gynnwys y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, am hynt y trafodaethau hynny."

 

Mae'r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith ac i ba raddau y byddai'r Rheoliadau hyn yn deddfu polisi newydd mewn meysydd datganoledig.

 

Nid yw Cynghorwyr Cyfreithiol o'r farn bod unrhyw faterion sylweddol yn codi o dan baragraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.