GWEINIDOGION Y DU YN GWEITHREDU MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG
|
|
105 - Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cyllido, Rheoli a Monitro) (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2019 Wedi'u gosod yn Senedd y DU: 13 Chwefror 2019 |
|
Sifftio |
|
Yn destun gwaith sifftio yn Senedd y DU? |
Na |
Y weithdrefn: |
Cadarnhaol |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin |
Dd/B |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
W/C 25/02/19 |
Dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU |
Dd/B |
Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: |
Papur 32 |
Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol (SICM) o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd eu bod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol) |
Nid yw’n ofynnol |
Gweithdrefn graffu |
|
Canlyniad y broses sifftio |
Dd/B |
Y weithdrefn |
Cadarnhaol |
Dyddiad trafod gan y Cydbwyllgor ar Offerynnau Statudol |
Nid yw'n hysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin |
Nid yw'n hysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Nid yw'n hysbys |
Sylwadau
Bwriedir i’r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.
Bwriad y Rheoliadau hyn yw sicrhau y bydd rheoliadau "Llorweddol" Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC) yr UE a ddargedwir yn gweithio’n effeithiol ledled y DU ar ôl i’r DU adael yr UE, gan gynnal sefyllfa fel y mae hi ar hyn o bryd a galluogi taliadau i barhau i ffermwyr neu reolwyr tir.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliad (UE) Rhif 1306/2016 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar 17 Rhagfyr 2013 ar reolaeth ariannol a monitro’r polisi amaethyddol cyffredin. Mae’r Rheoliad yr UE hwn yn nodi’r fframwaith cyffredinol ar gyfer sut mae’r polisi amaethyddol cyffredin (PAC) yn gweithio.
Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud newid canlyniadol i erthygl 11(1) o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (UE) Rhif 639/2014 ar 11 Mawrth 2014 sy’n ategu Rheoliad (UE) Rhif 1307/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu rheolau ar gyfer taliadau uniongyrchol i ffermwyr o dan gynlluniau cymorth o fewn fframwaith y polisi amaethyddol cyffredin. Mae’r diwygiad hwn yn gwneud newid technegol i ddiwygio’r cyfeiriad at gronfeydd Ewropeaidd.
Mae’r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â’r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 15 Chwefror 2019 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.
Mae’r datganiad yn nodi, yn ychwanegol at swyddogaethau sy’n cael eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru yn ddilyffethair, bod dwy swyddogaeth yn cael eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol ac Awdurdodau Datganoledig eraill y gellir eu harfer ar y cyd ganddynt hwy yn unig.
Mae’r datganiad yn nodi ymhellach, bod swyddogaethau a drosglwyddir i’r Ysgrifennydd Gwladol sy’n arferadwy ar y cyd â Gweinidogion Cymru yn gyfystyr â swyddogaethau un o Weinidogion y Goron at ddibenion Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Gallai hyn fod yn ystyriaeth berthnasol yng nghyd-destun cymhwysedd y Cynulliad i ddeddfu yn y meysydd hyn yn y dyfodol.
Mae’r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i’r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith.
Nid yw Cynghorwyr Cyfreithiol o’r farn bod unrhyw faterion sylweddol yn codi o dan baragraff 8 o’r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn.
|