GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG 

 

 

103 - Rheoliadau Cyd-drefnu Nawdd Cymdeithasol (Buddion mewn Nwyddau neu Wasanaethau etc.)

Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 24 Ionawr 2019 

Sifftio

A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU?

Oedd

Gweithdrefn:

Negyddol arfaethedig

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

5 Chwefror 2019

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

yr wythnos yn dechrau

Dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

12 Chwefror 2019

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Papur 22

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Papur 23

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Ddim yn hysbys 

Y weithdrefn

Negyddol neu Gadarnhaol

Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol

Ddim yn hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin

Ddim yn hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Ddim yn hysbys

Sylwadau

 

Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

 

Ar hyn o bryd, mae gan Aelod-wladwriaethau’r UE drefniadau cyfatebol sy’n golygu bod gofal iechyd ar gael i ddinasyddion yr Aelod-wladwriaethau hynny ble bynnag yn yr UE y byddant yn cael mynediad at ofal iechyd.   Os bydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb, ni fydd y trefniadau hyn bellach yn berthnasol i ddinasyddion yr UE yn y DU (ac i'r gwrthwyneb).   

Bydd y Rheoliadau yn dileu cyfeiriadau diangen yng nghyfraith y DU na fyddant bellach yn berthnasol pan fydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.  Byddant hefyd yn caniatáu i'r DU ddarparu diogelwch trosiannol i ddinasyddion yr UE tan 31 Rhagfyr 2020.  Bydd hyn yn berthnasol i ddinasyddion Aelod-wladwriaethau’r EU lle mae cytundeb â Llywodraeth y DU ar drefniant cyfatebol ar gyfer dinasyddion ei gilydd.

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio offerynnau'r UE a ganlyn-

 

Rheoliad (EC) 883/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor dyddiedig 29 Ebrill 2004 ar gyd-drefnu systemau nawdd cymdeithasol;

 

Rheoliad (EC) Rhif 987/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor dyddiedig 16 Medi 2009 sy'n pennu'r weithdrefn ar gyfer gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 883/2004 ar gyd-drefnu systemau nawdd cymdeithasol;

 

Rheoliad (EEC) Rhif 1408/713 dyddiedig 14 Mehefin 1971 ar gymhwyso cynlluniau nawdd cymdeithasol i bersonau a gyflogir, i berson sy'n hunangyflogedig ac i'w teuluoedd sy'n symud o fewn y Gymuned; a

 

Rheoliad (EEC) Rhif 574/72dyddiedig 21 Mawrth 1971 sy'n pennu'r weithdrefn ar gyfer gweithredu Rheoliad 1408/71 ar gymhwyso cynlluniau nawdd cymdeithasol i bersonau a gyflogir, i bersonau sy'n hunangyflogedig ac i'w teuluoedd sy'n symud o fewn y Gymuned.

 

Maent hefyd yn diwygio-

 

Gorchymyn Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG (NHS Business Services Authority) (Sefydlu a Chyfansoddiad) 2005;

 

Rheoliadau Deddf Meinweoedd Dynol 2004 (Cymeradwyaeth Foesegol, Eithriadau rhag Trwyddedu a Chyflenwi Gwybodaeth am Drawsblaniadau) 2006; a

 

Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.

 

O ran yr un diwethaf, bydd diwygiad i adran 131 yn dileu pŵer Gweinidogion Cymru i wneud Rheoliadau i ad-dalu costau teithio i ddinasyddion yr UE (neu i ddinasyddion yr AEE neu'r Swistir) lle'r aed i'r costau hynny at ddibenion cael mynediad at ofal iechyd yng Nghymru.

 

Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 14 Chwefror 2019 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.

 

Mae'r datganiad yn cyfeirio at y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol a osodwyd mewn perthynas â diwygiadau i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.  Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi nad yw'n bwriadu gosod cynnig i gynnal dadl o dan Reol Sefydlog 30A.10.

Mae'r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith ac i ba raddau y byddai'r Rheoliadau hyn yn deddfu polisi newydd mewn meysydd datganoledig.  Nid yw Cynghorwyr Cyfreithiol o'r farn bod unrhyw faterion sylweddol yn codi o dan baragraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.

 

Efallai y bydd yr Aelodau am ystyried a ddylid gosod cynnig cydsyniad yn unol â Rheol Sefydlog 30A.10 mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn, o ystyried nad yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwneud hynny.