Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 55(2)(b) o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2019 Rhif (Cy. )

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Cymwysterau Cymru (Cosbau Ariannol) (Penderfynu ar Drosiant) 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae adran 38(1) o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015 (“y Ddeddf”) yn galluogi Cymwysterau Cymru i osod cosb ariannol ar gorff dyfarnu sydd wedi methu â chydymffurfio ag un o amodau ei gydnabyddiaeth neu amod cymeradwyo y mae ei gymhwyster a gymeradwywyd yn ddarostyngedig iddo.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch sut i benderfynu ar y swm sydd i’w dalu gan y corff dyfarnu at ddibenion adran 38(3) o’r Ddeddf.

Caniateir i swm y gosb ariannol fod beth bynnag y mae Cymwysterau Cymru yn penderfynu ei fod yn briodol o dan holl amgylchiadau’r achos, ond ni chaniateir iddo fod yn fwy na’r swm a amlinellir gan Weinidogion Cymru yn rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn.

Mae rheoliadau 4 a 5 yn penderfynu ar drosiant corff dyfarnu at ddibenion rheoliad 3.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Cwricwlwm ac Asesu yn yr Adran Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus yn Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.


Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 55(2)(b) o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2019 Rhif (Cy. )

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Cymwysterau Cymru (Cosbau Ariannol) (Penderfynu ar Drosiant) 2019

Gwnaed                                                 ***

Yn dod i rym                                           ***

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 38(3) a 55(1) o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015([1]) yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 55(2)(b) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.

Enwi a chychwyn

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymwysterau Cymru (Cosbau Ariannol) (Penderfynu ar Drosiant) 2019.

(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 12 Ebrill 2019.

Dehongli

2.(1)(1) Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “blwyddyn fusnes” (“business year”) yw cyfnod o fwy na 6 mis y mae corff dyfarnu yn cyhoeddi cyfrifon mewn cysylltiad ag ef neu, os nad yw unrhyw gyfrifon o’r fath wedi eu cyhoeddi am y cyfnod, y mae’n llunio cyfrifon mewn cysylltiad ag ef;

ystyr “blwyddyn fusnes flaenorol” (“preceding business year”) yw’r flwyddyn fusnes yn union cyn y dyddiad hysbysu;

mae i “corff dyfarnu” (“awarding body”) yr ystyr a roddir gan adran 57 o Ddeddf 2015;

ystyr “dyddiad hysbysu” (“date of notice”) yw’r dyddiad y mae Cymwysterau Cymru yn rhoi hysbysiad i gorff dyfarnu o dan adran 38(4) o’r Ddeddf o’i fwriad i osod cosb ariannol ar y corff dyfarnu;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cymwysterau Cymru 2015.

Cosb ariannol: swm

3.(1)(1) Ni chaniateir i swm cosb ariannol a osodir ar gorff dyfarnu o dan adran 38 o’r Ddeddf fod yn fwy na 10% o drosiant y corff dyfarnu.

(2) Mae trosiant corff dyfarnu at ddibenion paragraff (1) i’w benderfynu yn unol â rheoliadau 4 a 5.

(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (1), caniateir i’r swm fod beth bynnag y mae Cymwysterau Cymru yn penderfynu ei fod yn briodol o dan holl amgylchiadau’r achos.

Penderfynu ar drosiant at ddibenion rheoliad 3

4.(1)(1) Pan fo’r flwyddyn fusnes flaenorol yn gyfnod o 12 mis, trosiant corff dyfarnu yw trosiant cymwys y corff am y flwyddyn fusnes flaenorol gyfan.

(2) Pan nad oedd y flwyddyn fusnes flaenorol yn hafal i 12 mis, y trosiant yw trosiant cymwys y corff dyfarnu am y flwyddyn fusnes honno wedi ei rannu â nifer y misoedd yn y flwyddyn fusnes honno ac wedi ei luosi â 12.

(3) Pan nad oedd blwyddyn fusnes flaenorol, y trosiant yw’r trosiant cymwys am y 12 mis sy’n dod i ben ar ddiwrnod olaf y mis cyn y mis y mae’r dyddiad hysbysu yn dod ynddo.

(4) Pan fo gan y corff dyfarnu, wrth gymhwyso paragraff (3), drosiant am gyfnod o lai na 12 mis, y trosiant yw’r trosiant cymwys yn y cyfnod hwnnw wedi ei rannu â nifer y misoedd yn y cyfnod hwnnw ac wedi ei luosi â 12.

(5) Yn y rheoliad hwn—

mae i “trosiant cymwys” yr ystyr a roddir yn rheoliad 5.

Trosiant cymwys

5.(1)(1) At ddibenion rheoliad 4, trosiant cymwys corff dyfarnu yw cyfanswm—

(a)     pob swm sy’n dod i’r corff am ddarparu nwyddau a gwasanaethau sy’n dod o fewn gweithgareddau arferol y corff yn y Deyrnas Unedig; a

(b)     pob swm arall a geir gan y corff yng nghwrs gweithgareddau arferol y corff yn y Deyrnas Unedig ar ffurf rhodd, grant, cymhorthdal neu ffi aelodaeth,

ar ôl didynnu gostyngiadau masnach, treth ar waith a threthi eraill yn seiliedig ar y symiau sy’n dod felly neu a geir felly.

(2) Mae’r symiau i’w cyfrifo gan gydymffurfio ag egwyddorion cyfrifyddu a dderbynnir yn gyffredinol yn y Deyrnas Unedig.

 

 

 

Enw

Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru

Dyddiad



([1])           2015 dccc 5; gweler y diffiniad o “rheoliadau” yn adran 57(3).