GWEINIDOGION Y DU SY’N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG
|
|
90 - Rheoliadau Bwydydd wedi’u Rhewi’n Gyflym (Diwygiad) (Ymadael â’r UE) 2019 Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 31 Ionawr 2018 |
|
Sifftio |
|
A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU? |
Bydd |
Gweithdrefn: |
Negyddol arfaethedig |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ’r Cyffredin |
Nid yw’n hysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ’r Arglwyddi |
Nid yw’n hysbys |
Dyddiad y daw’r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU |
19 Ionawr 2019 |
Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: |
Papur 26 |
Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol) |
Nid yw’n ofynnol |
Gweithdrefn graffu |
|
Canlyniad y broses sifftio |
Nid yw’n hysbys |
Y weithdrefn |
Negyddol neu Gadarnhaol |
Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol |
Nid yw’n hysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ’r Cyffredin |
Nid yw’n hysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ’r Arglwyddi |
Nid yw’n hysbys |
Sylwadau
Bwriedir i’r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud mân welliant i ddeddfwriaeth uniongyrchol yr Undeb Ewropeaidd a ddargedwir, mewn perthynas â bwydydd wedi’u rhewi’n gyflym. Mae’r gwelliant yn egluro bod y gyfraith yr UE a ddargedwir yn gymwys yn y DU yn unig, ac nid yn Aelod-wladwriaethau’r UE.
Mae’r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â’r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 4 Chwefror ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.
Mae’r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i’r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith.
Nid yw Cynghorwyr Cyfreithiol o’r farn bod unrhyw faterion sylweddol yn codi o dan baragraff 8 o’r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn.
|