GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG 

 

 

80 - Rheoliadau Cemegion (Iechyd a Diogelwch) ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Defnydd Cyfyngedig) (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2019

Gosodwyd yn Senedd y DU: 21 Ionawr 2019

Sifftio

A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU?

Na fydd

Gweithdrefn:

Cadarnhaol

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

Amh. 

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

04/02/2019

Dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

Amh.

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Papur 17

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Ddim yn ofynnol 

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Amh. 

Y weithdrefn

Cadarnhaol

Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol

Ddim yn hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin

Ddim yn hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Ddim yn hysbys

Sylwadau

 

Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, a pharagraffau 1 a 7 o Atodlen 4 a pharagraff 21(b) o Atodlen 7 i'r Ddeddf.

Gwneir yr offeryn hwn gan ddefnyddio pwerau yn Neddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 20181 ("y Ddeddf Ymadael") er mwyn mynd i'r afael â diffygion yng nghyfraith yr UE a ddargedwir mewn perthynas â chemegau a deddfwriaeth organeddau a addaswyd yn enetig (GMO) sy'n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig (DU) â'r Undeb Ewropeaidd (UE). Mae'r offeryn hwn yn sicrhau y bydd rheoliadau cemegau a GMO y DU yn parhau i weithredu'n effeithiol o'r diwrnod y bydd y DU yn ymadael â'r UE ("Ymadael"). Nid yw'r offeryn hwn yn gwneud unrhyw newidiadau polisi y tu hwnt i'r bwriad o sicrhau gweithredoldeb parhaus y ddeddfwriaeth berthnasol.

Fel Rheoliadau Ewropeaidd sy'n gymwys yn uniongyrchol, heb angen i'w trosi i gyfraith y DU, caiff y Rheoliadau BPR, CLP a PIC eu dargadw o dan y trefniadau a gynigir yn Adran 3(1) o'r Ddeddf Ymadael. Mae'r offeryn yn gwneud cywiriadau i'r Rheoliadau hyn gan ddefnyddio'r pwerau yn y Ddeddf Ymadael.

Oherwydd diwygiadau i'r Rheoliadau CLP a wneir yn yr offeryn hwn, mae diwygiadau i'w gwneud i ddeddfwriaeth islaw, h.y. deddfwriaeth sydd 'islaw' y Rheoliad CLP, ond sy'n dibynnu ar ddosbarthiad perygl, yn llwyr neu'n rhannol, i ddiffinio'r cwmpas a fwriadwyd ac i weithredu fel 'sbardun' ar gyfer mesurau rheoli risg ychwanegol. Mae hyn i sicrhau bod y ddeddfwriaeth islaw yn parhau i ddarparu'r cyfeiriadau priodol ac angenrheidiol at y Rheoliadau CLP a (lle bo angen) at restr dosbarthu a labelu gorfodol y DU y mae'r Rheoliadau CLP diwygiedig yn darparu ar eu cyfer.

Mae'r offeryn hwn hefyd yn diwygio rheoliadau perthnasol i fynd i'r afael â diffygion sy'n deillio o ymadawiad y DU â'r UE i ganiatáu i'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch orfodi darpariaethau ac i adennill costau ar gyfer ei waith.

Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn gwneud y sylwadau a ganlyn mewn perthynas â datganiad Llywodraeth Cymru dyddiedig 24 Ionawr 2019 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn:

·         Mae'r datganiad yn cyfeirio at yr is-ddeddfwriaeth a ganlyn ar gyfer ei chywiro: Rheoliadau Cynhyrchion a Chemegau Bioleiddiadol (Pennu Awdurdodau a Gorfodaeth) (Gogledd Iwerddon) 2013; Rheoliadau Ffrwydron (Pennu Awdurdodau a Gorfodaeth) (Gogledd Iwerddon) 2015; Rheoliadau Cynhyrchion Bioleiddiadol (Ffioedd a Thaliadau) (Gogledd Iwerddon) 2015; a Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Defnydd Cyfyngedig) (Gogledd Iwerddon) 2015. Fodd bynnag, mae paragraff 4.2 o'r Memorandwm Esboniadol yn nodi bod yr offerynnau hyn “…apply to Northern Ireland only…”.

 

Mae’r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i’r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith.

 

Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn ystyried bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.