Sylwadau
Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU
yn unol ag adran 8(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018,
a pharagraffau 1 a 7 o Atodlen 4 a pharagraff 21(b) o Atodlen 7 i'r
Ddeddf.
Gwneir yr offeryn hwn gan ddefnyddio pwerau yn Neddf yr Undeb
Ewropeaidd (Ymadael) 20181 ("y Ddeddf Ymadael") er mwyn mynd i'r
afael â diffygion yng nghyfraith yr UE a ddargedwir mewn
perthynas â chemegau a deddfwriaeth organeddau a addaswyd yn
enetig (GMO) sy'n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig (DU)
â'r Undeb Ewropeaidd (UE). Mae'r offeryn hwn yn sicrhau y
bydd rheoliadau cemegau a GMO y DU yn parhau i weithredu'n
effeithiol o'r diwrnod y bydd y DU yn ymadael â'r UE ("Ymadael"). Nid yw'r offeryn hwn yn
gwneud unrhyw newidiadau polisi y tu hwnt i'r bwriad o sicrhau
gweithredoldeb parhaus y ddeddfwriaeth berthnasol.
Fel Rheoliadau Ewropeaidd sy'n gymwys yn uniongyrchol, heb
angen i'w trosi i gyfraith y DU, caiff y Rheoliadau BPR, CLP a PIC
eu dargadw o dan y trefniadau a gynigir yn Adran 3(1) o'r Ddeddf
Ymadael. Mae'r offeryn yn gwneud cywiriadau i'r Rheoliadau hyn gan
ddefnyddio'r pwerau yn y Ddeddf Ymadael.
Oherwydd diwygiadau i'r Rheoliadau CLP a wneir yn yr offeryn
hwn, mae diwygiadau i'w gwneud i ddeddfwriaeth islaw, h.y.
deddfwriaeth sydd 'islaw' y Rheoliad CLP, ond sy'n dibynnu ar
ddosbarthiad perygl, yn llwyr neu'n rhannol, i ddiffinio'r cwmpas a
fwriadwyd ac i weithredu fel 'sbardun' ar gyfer mesurau rheoli risg
ychwanegol. Mae hyn i sicrhau bod y ddeddfwriaeth islaw yn parhau i
ddarparu'r cyfeiriadau priodol ac angenrheidiol at y Rheoliadau CLP
a (lle bo angen) at restr dosbarthu a labelu gorfodol y DU y mae'r
Rheoliadau CLP diwygiedig yn darparu ar eu cyfer.
Mae'r offeryn hwn hefyd yn diwygio rheoliadau perthnasol i
fynd i'r afael â diffygion sy'n deillio o ymadawiad y DU
â'r UE i ganiatáu i'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a
Diogelwch orfodi darpariaethau ac i adennill costau ar gyfer ei
waith.
Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn gwneud y sylwadau a ganlyn
mewn perthynas â datganiad Llywodraeth Cymru dyddiedig 24
Ionawr 2019 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn:
·
Mae'r datganiad yn cyfeirio at yr is-ddeddfwriaeth a ganlyn ar
gyfer ei chywiro: Rheoliadau Cynhyrchion a Chemegau Bioleiddiadol
(Pennu Awdurdodau a Gorfodaeth) (Gogledd Iwerddon) 2013; Rheoliadau
Ffrwydron (Pennu Awdurdodau a Gorfodaeth) (Gogledd Iwerddon) 2015;
Rheoliadau Cynhyrchion Bioleiddiadol (Ffioedd a Thaliadau) (Gogledd
Iwerddon) 2015; a Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig
(Defnydd Cyfyngedig) (Gogledd Iwerddon) 2015. Fodd bynnag, mae
paragraff 4.2 o'r Memorandwm Esboniadol yn nodi bod yr offerynnau
hyn “…apply to Northern Ireland
only…”.
Mae’r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol
i’r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith.
Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn ystyried bod unrhyw
faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 o'r Memorandwm ar
Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin
mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.
|