GWEINIDOGION Y DU YN GWEITHREDU MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG
|
|
93 - Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid a Addaswyd yn Enetig (Diwygio ac ati.) (Ymadael â'r UE) 2019 Wedi'u gosod yn Senedd y DU: 4 Chwefror 2019 |
|
Sifftio |
|
Yn destun gwaith sifftio yn Senedd y DU? |
Na |
Y weithdrefn: |
Cadarnhaol |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin |
Dd/B |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Nid yw’n hysbys |
Dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU |
Dd/B |
Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: |
Papur 17 |
Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol (SICM) o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd eu bod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol) |
Nid yw’n ofynnol |
Gweithdrefn graffu |
|
Canlyniad y broses sifftio |
Dd/B |
Y weithdrefn |
Cadarnhaol |
Dyddiad trafod gan y Cydbwyllgor ar Offerynnau Statudol |
Nid yw'n hysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin |
Nid yw'n hysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Nid yw'n hysbys |
Sylwadau
Bwriedir i’r Rheoliadau gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio cyfraith yr UE a ddargedwir i gywiro diffygion sy’n deillio o ymadawiad y DU â’r UE: Rheoliad (CE) Rhif 1829/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor Ewropeaidd ar fwyd a bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig (GM); Rheoliad (CE) Rhif 641/2004 ar reolau manwl ar gyfer ceisiadau i awdurdodi bwyd a bwyd anifeiliaid GM newydd, rhoi gwybod am y cynhyrchion GM presennol a phresenoldeb digwyddiadol neu na ellir ei osgoi o ddeunydd GM sydd wedi cael gwerthusiad risg ffafriol; a 68 Penderfyniad gan y Comisiwn sy’n awdurdodi rhoi bwyd a/neu fwyd anifeiliaid GM ar y farchnad, neu sy’n tynnu’n ôl awdurdodaeth o’r fath, ac sy’n darparu’r trefniadau pontio a fydd yn eu lle pan fydd y DU yn ymadael â’r UE. Mae’r offeryn hwn hefyd yn dirymu Rheoliad (CE) Rhif 1981/2006 ar reolau manwl ar labordy ymchwil y Gymuned ar gyfer organebau GM, a fydd yn ddiangen yn sgil ymadawiad y DU â’r UE.
Bydd y Rheoliadau yn gwneud cywiriadau technegol fel dileu cyfeiriadau at sefydliadau’r UE ac Aelod-wladwriaethau eraill. Byddant hefyd yn newid y cyfeiriad at gofrestr yr UE o fwyd/bwyd anifeiliaid GM awdurdodedig i fod yn gyfeiriad at gofrestr weinyddol yn y DU, gan ddiffinio ‘trydydd gwledydd’ fel unrhyw wlad y tu allan i’r DU.
Bydd y gwelliannau mwyaf sylweddol yn: · trosglwyddo cyfrifoldebau sy’n perthyn i Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (EFSA) i’r “Awdurdod Diogelwch Bwyd” (yr ASB yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, a Safonau Bwyd yr Alban). Ar gyfer bwyd a bwyd anifeiliaid GM, bydd hyn yn cynnwys cynnal asesiadau risg a llunio safbwyntiau gwyddonol ar geisiadau am ganiatâd bwyd/bwyd anifeiliaid GM; · diwygio cyfeiriadau at labordai GM a rhwydweithiau labordai i gyfeirio at Labordy Cyfeirio y DU; · trosglwyddo swyddogaethau’r Comisiwn Ewropeaidd i Weinidogion Cymru mewn perthynas â Chymru er mwyn eu galluogi i, neu fynnu eu bod yn: o pennu a yw bwyd neu fwyd anifeiliaid yn dod o fewn cwmpas y gyfraith UE berthnasol sy’n cael ei chadw; o penderfynu a ddylid cymeradwyo ceisiadau ar gyfer rhoi organebau GM newydd ar y farchnad; o addasu, atal neu ddiddymu awdurdodiadau mewn amgylchiadau eithriado; a o gwneud rheoliadau i ddiwygio elfennau nad ydynt yn hanfodol o gyfraith yr UE a ddargedwir, er enghraifft i ystyried datblygiadau newydd mewn gwyddoniaeth, a gwneud rheoliadau i ragnodi rheolau manwl sy’n ymwneud â cheisiadau, a cheisiadau adnewyddu, awdurdodi bwyd/bwyd anifeiliaid GM. o Bydd y Rheoliadau hyn hefyd yn cywiro awdurdodiadau bwyd/bwyd anifeiliaid GM unigol yr UE a ddargedwir i sicrhau eu bod yn parhau’n ddilys yng nghyd-destun y DU, ac y gallant barhau i gael eu rhoi ar farchnad y DU ar ôl ymadael â’r UE.
Mae’r Cynghorwyr Cyfreithiol yn gwneud y sylwadau a ganlyn mewn perthynas â datganiad Llywodraeth Cymru dyddiedig 5 Chwefror 2019 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn: · nid yw’r datganiad yn crybwyll bod y Rheoliadau’n diwygio’r penderfyniadau a ganlyn: o Penderfyniad y Comisiwn 2007/702/EC; o Penderfyniad y Comisiwn 2010/419/EU; a o Phenderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (UE) 2016/1685. o Mae’r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i’r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith.
Nid yw Cynghorwyr Cyfreithiol o’r farn bod unrhyw faterion sylweddol yn codi o dan baragraff 8 o’r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn.
Nid yw’r Cynghorwyr Cyfreithiol wedi nodi unrhyw reswm cyfreithiol i geisio cynnig cydsyniad o dan Reol Sefydlog 30A.10 mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn.
|