GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG 

 

 

82 - Rheoliadau Caffael Cyhoeddus (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2019

Gosodwyd yn Senedd y DU: 18 Rhagfyr 2019

Sifftio

A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU?

Na fydd

Gweithdrefn:

Cadarnhaol

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

19 Rhagfyr

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

8 Ionawr

Dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

Amh.

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Papur 21

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Ddim yn ofynnol 

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Amh. 

Y weithdrefn

Cadarnhaol

Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol

Ddim yn hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin

Ddim yn hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Ddim yn hysbys

Sylwadau

 

Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

Gwneir y Rheoliadau hyn er mwyn mynd i'r afael â diffygion yng nghyfraith yr UE a gedwir mewn perthynas â chaffael cyhoeddus sy'n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig (DU) â'r Undeb Ewropeaidd (UE), i sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn parhau i weithredu'n effeithiol ar ôl i'r DU ymaael â'r UE.  

Gosododd Llywodraeth Cymru ddatganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn gan Lywodraeth y DU ar 18 Rhagfyr 2018. Mae’n ymddangos bod y datganiad wedi’i dynnu’n ôl a bod Llywodraeth Cymru bellach wedi gosod datganiad arall mewn perthynas â’r un Rheoliadau. Ni chawson ein hysbysu bod y datganiad gwreiddiol wedi’i dynnu’n ôl, felly rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru roi gwybod pryd a pham y tynnwyd y datganiad yn ôl, a pham y cymerodd tan 25 Ionawr 2019 i osod datganiad cywir.

 

Mae fframwaith cyfreithiol yr UE ar gyfer rheoleiddio caffael cyhoeddus gan awdurdodau cyhoeddus a chyfleustodau yn cynnwys pecyn o gyfarwyddebau (Cyfarwyddebau Caffael yr Undeb Ewropeaidd) sy'n rheoli gweithdrefnau ar gyfer dyfarnu contractau cyhoeddus dros drothwyon ariannol penodedig i gyflenwyr gwaith, nwyddau a gwasanaethau. Eu nod yw sicrhau bod marchnad caffael cyhoeddus yr UE yn agored ac yn gystadleuol a bod cyflenwyr yn cael eu trin yn gyfartal ac yn deg.

 

Gweithredwyd Cyfarwyddebau Caffael yr UE ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon gan Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015, Rheoliadau Contractau Cyfleustodau 2016 a Rheoliadau Contractau Consesiwn 2016 (y Rheoliadau). Mae'r offeryn hwn hefyd yn ymwneud â deddfwriaeth benodol yr UE sy'n uniongyrchol gymwys ym maes caffael cyhoeddus.     

  

Mae'r offeryn hwn yn mynd i'r afael â diffygion yng nghyfraith yr UE a gedwir sy'n codi o ganlyniad i ymadael â'r UE. Mae'n diwygio neu'n dileu darpariaethau na ellir eu gweithredu, sy'n amhriodol neu a fyddai, fel arall, yn atal y ddeddfwriaeth rhag gweithredu'n effeithiol ar ôl y diwrnod ymadael, o fewn ystyr adran 8 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018. Er enghraifft, ni fyddai darpariaethau sy'n ymwneud â chyhoeddi hysbysiadau yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr UE (OJEU) a chyflwyno adroddiadau i'r Comisiwn Ewropeaidd (y Comisiwn) bellach

yn briodol oherwydd eu bod yn gosod gofynion ac yn rhoi swyddogaethau o ran endid o'r UE nad oes ganddynt swyddogaethau o'r fath bellach mewn perthynas â'r DU ar ôl ymadael.

 

Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn gwneud y sylwadau a ganlyn mewn perthynas â datganiad Llywodraeth Cymru dyddiedig 25 Ionawr 2019 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn:

-     Mae'r datganiad yn rhestru'r ddeddfwriaeth sy'n cael ei diwygio gan y Rheoliadau ond nid yw'n nodi pa rai o bwerau deddfwriaethol y Cynulliad neu bwerau gweithredol Gweinidogion Cymru y mae'r offeryn hwn yn effeithio arnynt. Mae'r datganiad yn dweud bod y Rheoliadau yn galluogi swyddogaethau i gael eu harfer gan Swyddfa'r Cabinet mewn perthynas ag Awdurdodau Datganoledig Cymru, naill ai gyda chaniatâd Gweinidogion Cymru neu a arferir ar yr un pryd gyda Gweinidogion Cymru. Fodd bynnag, nid yw'r datganiad yn dweud a yw hyn yn ymwneud â phob swyddogaeth, boed y rheoliadau yn ailddatgan y trefniadau presennol neu a yw'r rhain yn cynrychioli trefniadau newydd o ran sut y gweithredir swyddogaethau mewn perthynas ag Awdurdodau Datganoledig Cymru.

-     Mae'r datganiad yn nodi goblygiadau'n gywir ar gyfer cymhwysedd y Cynulliad yn y dyfodol gan y byddai angen cydsyniad Gweinidog y Goron arnynt o dan Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i wneud unrhyw newidiadau yn y meysydd hyn. Fodd bynnag, os yw'r rhain yn drefniadau newydd, nid yw'n glir pam na wnaeth Llywodraeth Cymru osod SICM fel y gwnaeth mewn perthynas â newidiadau y mae'r rheoliadau hyn yn eu gwneud i Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

-      

Mae'r cynghorwyr cyfreithiol yn argymell y dylid ceisio eglurhad ar y pwyntiau uchod er mwyn gallu craffu'n effeithiol ar y rheoliadau hyn.

 

Gan ei bod yn aneglur o ddatganiad Llywodraeth Cymru,  dyddiedig 25 Ionawr beth fydd effaith bosibl y Rheoliadau ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad a/neu gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru, nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol wedi gallu asesu a oes unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 y Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.

 

Hyd nes daw eglurhad pellach gan Lywodraeth Cymru, nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol wedi canfod unrhyw reswm cyfreithiol i geisio cynnig cydsyniad ar hyn o bryd o dan Reol Sefydlog 30A.10 mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.