GWEINIDOGION Y DU YN GWEITHREDU MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG 

 

 

89 - Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Diwygiad) (Ymadael â'r UE) 2019

Wedi'u gosod yn Senedd y DU: 31 Ionawr 2019

Sifftio

Yn destun gwaith sifftio yn Senedd y DU?

Na

Y weithdrefn:

Cadarnhaol

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

 

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

 

Dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

Dd/B

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Papur 24

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol (SICM) o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd eu bod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Dd/B

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Dd/B

Y weithdrefn:

Cadarnhaol

Dyddiad trafod gan y Cydbwyllgor ar Offerynnau Statudol

Nid yw'n hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

Nid yw'n hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Nid yw'n hysbys

Sylwadau

 

Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

 

Ar hyn o bryd, caiff y ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â halogion mewn bwyd ei phennu gan yr UE a'i gweithredu yn y DU gan offerynnau statudol.

Mae'r Rheoliadau hyn yn trosglwyddo pŵer deddfwriaethol presennol y Comisiwn Ewropeaidd i Weinidogion Cymru mewn perthynas â Chymru, er mwyn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy'n pennu'r goddefiadau uchaf a ganiateir ar gyfer halogion penodol.

 

Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 4 Chwefror 2019 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.

Mae’r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i’r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith.

 

Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn ystyried bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.