GWEINIDOGION Y DU YN GWEITHREDU MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG 

 

 

86 - Rheolaethau Cyfraith Bwyd Cyffredinol (Diwygiadau ac ati) (Ymadael â'r UE) 2019

Wedi'u gosod yn Senedd y DU: 31 Ionawr 2019

Sifftio

Yn destun gwaith sifftio yn Senedd y DU?

Na

Y weithdrefn:

Cadarnhaol

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

 

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

 

Dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

Dd/B

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Papur 18

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol (SICM) o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd eu bod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Dd/B

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Dd/B

Y weithdrefn:

Cadarnhaol

Dyddiad trafod gan y Cydbwyllgor ar Offerynnau Statudol

Nid yw'n hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

Nid yw'n hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Nid yw'n hysbys

Sylwadau

 

Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

 

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n berthnasol i'r DU gyfan, yn gwneud cyfres o ddiwygiadau i ddeddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd sy'n ymwneud â diogelwch bwyd. Mae'r diwygiadau yn cywiro diffygion mewn cyfraith yr UE a gedwir er mwyn sicrhau bod y drefn hon yn gweithredu'n effeithiol yn dilyn ymadawiad y DU â'r UE, ac er mwyn sicrhau bod fframwaith deddfwriaethol yn cael ei gynnal pe bai'r DU yn ymadael â'r UE heb Gytundeb Ymadael.

 

 

 

Mae’r Rheoliadau:

  1. yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 178/2002, sy'n pennu'r egwyddorion lefel uchel ar gyfer rheoli diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid a'r diffiniadau y cyfeirir atynt yn neddfwriaeth y sector bwyd a'r sector bwyd anifeiliaid (ac yn gweithredu Rheoliad 931/2011);
  2. yn diddymu Rheoliad (UE) Rhif 16/2011 sy'n ymwneud â chyfrifoldebau Aelod-wladwriaethau'r UE o dan y System Rhybuddio Cyflym ar gyfer bwyd a bwyd anifeiliaid (system na fydd yn berthnasol i'r DU ar ôl iddo ymadael â'r Undeb Ewropeaidd oni bai bod y mater hwn yn cael ei negodi); ac
  3. yn diwygio Rheoliadau Diogelwch Bwyd a Hylendid (Lloegr) 2013, sy'n gymwys i Loegr yn unig.

 

Yn benodol mewn perthynas â Chymru, mae'r Rheoliadau yn trosglwyddo cyfrifoldebau sydd ar hyn o bryd yn rhan o ddyletswyddau'r Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (y corff sy'n darparu cyngor gwyddonol ar fwyd i'r Comisiwn Ewropeaidd, i Senedd Ewrop ac i Aelod-wladwriaethau'r UE) i'r Asiantaeth Safonau Bwyd, ac yn trosglwyddo cyfrifoldebau sy'n rhan o ddyletswyddau'r Comisiwn Ewropeaidd i Weinidogion Cymru.

 

Mae Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru, dyddiedig 4 Chwefror 2019, ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.

 

[Mae'r Pwyllgor yn croesawu eglurder datganiad Llywodraeth Cymru ynglŷn ag effaith y Rheoliadau hyn ar gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru, a'i ddefnyddioldeb o ran gwaith craffu'r Pwyllgor].

Mae'r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith.

 

Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn ystyried bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a'r cam o Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.