GWEINIDOGION Y DU YN GWEITHREDU MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG
|
|
97 - Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Diwygiad) (Ymadael i â'r UE) 2019 Wedi'u gosod yn Senedd y DU: 5 Chwefror 2019 |
|
Sifftio |
|
Yn destun gwaith sifftio yn Senedd y DU? |
Na |
Y weithdrefn: |
Cadarnhaol |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin |
Dd/B |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Nid yw’n hysbys |
Dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU |
Dd/B |
Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: |
Papur 25 |
Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol (SICM) o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd eu bod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol) |
Nid yw’n ofynnol |
Gweithdrefn graffu |
|
Canlyniad y broses sifftio |
Dd/B |
Y weithdrefn |
Cadarnhaol |
Dyddiad trafod gan y Cydbwyllgor ar Offerynnau Statudol |
Nid yw'n hysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin |
Nid yw'n hysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Nid yw'n hysbys |
Sylwadau
Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.
Mae deddfwriaeth yr UE yn rheoleiddio diogelwch yr holl ddeunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd, a elwir ar y cyd yn ddeunyddiau cyswllt bwyd. Mae hyn yn cynnwys poteli a chynwysyddion plastig, offer cegin, cytleri a llestri.
Amcan y Rheoliadau hyn yw cynnal y cyfreithiau sy'n bodoli eisoes a chywiro elfennau o ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir na fydd modd eu gweithredu sy'n ymwneud â deunyddiau ac eitemau mewn cysylltiad â bwyd. Mae'r offeryn hwn yn dileu, o ddeddfwriaeth yr UE a ddargedwir, y tasgau a'r rolau a glustnodir i'r Comisiwn Ewropeaidd, ei bwyllgorau ac Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop gan na fydd y rhain yn berthnasol mwyach ar ôl i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.
Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 6 Chwefror 2019 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.
Mae’r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i’r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith.
Nid yw Cynghorwyr Cyfreithiol o'r farn bod unrhyw faterion sylweddol yn codi o dan baragraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.
|