GWEINIDOGION Y DU YN GWEITHREDU MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG 

 

 

96 - Rheoliadau Mewnforion Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiad)

(Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd) 2019

Wedi'u gosod yn Senedd y DU: 5 Chwefror 2019

Sifftio

Yn destun gwaith sifftio yn Senedd y DU?

Na

Y weithdrefn:

Cadarnhaol

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

Dd/B

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Nid yw’n hysbys

Dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

Dd/B

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Papur 23

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol (SICM) o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd eu bod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Nid yw’n ofynnol

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Dd/B

Y weithdrefn

Cadarnhaol

Dyddiad trafod gan y Cydbwyllgor ar Offerynnau Statudol

Nid yw'n hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

Nid yw'n hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Nid yw'n hysbys

Sylwadau

 

Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

 

Mae Rheoliadau Mewnforion Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiad) (Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd) 2019 yn diwygio deddfwriaeth Ewropeaidd yn ymwneud â rheolaethau mewnforio ar fwyd a bwyd anifeiliaid, o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig, i sicrhau eu bod yn gweithredu ar ôl i'r DU ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Mae deddfwriaeth mewnforion yn gosod rheolau ar gyfer dilysu cyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid gan awdurdodau cymwys yn y DU megis yr Asiantaeth Safonau Bwyd (FSA).

 

Mae'r offeryn hwn yn diwygio cyfeiriadau at sefydliadau a systemau Ewropeaidd er mwyn bod y ddeddfwriaeth yn cael ei gweithredu yn y DU yn dilyn ar ôl ymadael â'r UE. Y bwriad yw darparu dilyniant i weithredwyr a masnach wrth amddiffyn iechyd y cyhoedd.

 

Nid oes gan y Rheoliadau unrhyw effaith ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad ond byddant yn cryfhau pwerau gweithredol Gweinidogion Cymru drwy drosglwyddo pwerau a dyletswyddau sydd wedi'u rhoi a'u gosod ar hyn o bryd ar y Comisiwn Ewropeaidd i Weinidogion Cymru mewn perthynas â Chymru.

 

Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 6 Chwefror 2019 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn. Rydym yn croesawu'n arbennig eglurder y datganiad hwn, a'r eglurhad clir a roddir ynghylch yr effaith ar bwerau gweithredol Gweinidogion Cymru. 

 

Mae’r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i’r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith.

 

Nid yw Cynghorwyr Cyfreithiol o'r farn bod unrhyw faterion sylweddol yn codi o dan baragraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.