GWEINIDOGION Y DU YN GWEITHREDU MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG
|
|
95 - Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Lefelau Uchaf o Halogiad Ymbelydrol a Ganiateir) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2019 Wedi'u gosod yn Senedd y DU: 4 Chwefror 2019 |
|
Sifftio |
|
Yn destun gwaith sifftio yn Senedd y DU? |
Na |
Y weithdrefn: |
Cadarnhaol |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin |
Dd/B |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Nid yw’n hysbys |
Dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU |
Dd/B |
Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: |
Papur 21 |
Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol (SICM) o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd eu bod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol) |
Nid yw’n ofynnol |
Gweithdrefn graffu |
|
Canlyniad y broses sifftio |
Dd/B |
Y weithdrefn |
Cadarnhaol |
Dyddiad trafod gan y Cydbwyllgor ar Offerynnau Statudol |
Nid yw'n hysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin |
Nid yw'n hysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Nid yw'n hysbys |
Sylwadau
Cynigir bod y Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.
Mae'r Rheoliadau hyn yn cywiro diffygion yn Rheoliad y Cyngor (Euratom) sy'n gosod y lefelau uchaf o halogiad ymbelydrol a ganiateir mewn bwyd a bwyd anifeiliaid yn dilyn damwain niwclear neu unrhyw achos arall o argyfwng radiolegol, o ganlyniad i ymadawiad y DU o'r Undeb Ewropeaidd. Mae'r Rheoliadau yn gymwys i'r DU gyfan.
Ar hyn o bryd, pe bai damwain niwclear neu argyfwng radiolegol, mae'r Comisiwn Ewropeaidd yn gyfrifol am wneud rheoliadau i osod y lefelau uchaf posibl o ymbelydredd a ganiateir mewn bwyd a bwyd anifeiliaid sy'n deillio o'r ardal yr effeithiwyd arni. Ymgynghorir ar hyn o bryd â grŵp o arbenigwyr, a sefydlwyd o dan Erthygl 31 o Gytuniad Euratom, ar gyfer asesu risg i iechyd wrth adolygu'r lefelau uchaf o halogiad ymbelydrol a ganiateir a'u gweithredu.
Yn dilyn gadael yr UE, effaith y Rheoliadau hyn yw bod Gweinidogion Cymru yn gyfrifol am y swyddogaethau hyn mewn perthynas â Chymru. Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 5 Chwefror 2019 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.
Nid yw Cynghorwyr Cyfreithiol o'r farn bod unrhyw faterion sylweddol yn codi o dan baragraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.
|