GWEINIDOGION Y DU YN GWEITHREDU MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG 

 

 

94 - Rheoliadau'r Rheolaethau Swyddogol ar gyfer Bwyd, Bwyd

Anifeiliaid ac Iechyd a Lles Anifeiliaid (Diwygio ac ati.) (Ymadael

â'r UE) 2019

Wedi'u gosod yn Senedd y DU: 4 Chwefror 2019

Sifftio

Yn destun gwaith sifftio yn Senedd y DU?

Na

Y weithdrefn:

Cadarnhaol

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

Dd/B

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Nid yw’n hysbys

Dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

Dd/B

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Papur 19

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol (SICM) o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd eu bod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Nid yw’n ofynnol

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Dd/B

Y weithdrefn

Cadarnhaol

Dyddiad trafod gan y Cydbwyllgor ar Offerynnau Statudol

Nid yw'n hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

Nid yw'n hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Nid yw'n hysbys

Sylwadau

 

Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8 (1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio cyfraith yr UE a ddargedwir yn ymwneud â rheolaethau swyddogol ar fwyd a bwyd anifeiliaid er mwyn sicrhau y gellir ei gweithredu ar ôl i'r DU ymadael â'r UE. Bwriedir i'r Rheoliadau ddiogelu iechyd y cyhoedd, iechyd a lles anifeiliaid wrth ddarparu parhad i weithredwyr busnes a masnach. Mae deddfwriaeth y rheolaethau swyddogol yn pennu rheolau a safonau gweithredol ar gyfer dilysu cyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid gan awdurdodau cymwys yn y Deyrnas Unedig, megis yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA). Mae'r offeryn hwn yn diwygio cyfeiriadau at sefydliadau a systemau'r UE fel y gellir gweithredu'r ddeddfwriaeth yn y Deyrnas Unedig ar ôl ymadael â'r UE.

 

Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 5 Chwefror 2019 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.

 

Mae’r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i’r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith.

Nid yw Cynghorwyr Cyfreithiol o'r farn bod unrhyw faterion sylweddol yn codi o dan baragraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.

 

Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol wedi nodi unrhyw reswm cyfreithiol i geisio cynnig cydsyniad o dan Reol Sefydlog 30A.10 mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.