GWEINIDOGION Y DU SY’N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG
|
|
83 – Rheoliadau Maeth (Diwygio) (Ymadael â’r DU) 2019 Gosodwyd yn Senedd y DU: 8 Chwefror 2019 |
|
Y broses sifftio |
|
A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU? |
Na fydd |
Y weithdrefn: |
Cadarnhaol |
Y dyddiad y bydd y Pwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd yn Nhŷ’r Cyffredin yn eu trafod |
Amh |
Y dyddiad y bydd y Pwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth yn Nhŷ’r Arglwyddi yn eu trafod |
Nid yw’n hysbys |
Y dyddiad y daw’r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU |
Amh |
Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: |
Papur 11 |
Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol) |
Dim angen |
Gweithdrefn graffu |
|
Canlyniad y broses sifftio |
Amh |
Y weithdrefn |
Cadarnhaol |
Y dyddiad y bydd y Cyd-bwyllgor Offerynnau Statudol yn eu trafod |
Nid yw’n hysbys |
Y dyddiad y bydd y Pwyllgor Offerynnau Statudol yn Nhŷ’r Arglwyddi yn eu trafod |
Nid yw’n hysbys |
Y dyddiad y bydd y Pwyllgor Craffu ar Id-ddeddfwriaeth yn Nhŷ’r Arglwyddi yn eu trafod |
Nid yw’n hysbys |
Sylwadau Bwriedir i Lywodraeth Cymru wneud y Rheoliadau o dan adran 8(1) a 23 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, a pharagraff 21 o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno. Diben yr offeryn hwn yw cywiro diffygion yn neddfwriaeth y DU sy'n ymwneud â maeth, a fydd yn codi os bydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd (“UE”) heb gytundeb. Mae'r offeryn hwn yn diwygio'r ddeddfwriaeth ddomestig bresennol, a deddfwriaeth yr UE a ddargedwir, ac mae hefyd yn dirymu rhai darnau o ddeddfwriaeth drydyddol berthnasol yr UE na fydd yn gymwys i’r DU pan fydd yn gadael yr UE. Y meysydd pwnc y mae’r ddeddfwriaeth hon yn ymdrin â nhw yw: honiadau ynghylch maeth ac iechyd a nodir ar fwyd; ychwanegu fitaminau, mwynau a sylweddau penodol eraill at fwydydd; cyfansoddiad a labelu ychwanegion bwyd; cyfansoddiad a labelu bwyd ar gyfer grwpiau penodol; a gwerthu cynhyrchion sy'n cynnwys Kava-kava.
Mae'r Ymgynghorwyr Cyfreithiol yn rhoi’r sylwadau a ganlyn mewn perthynas â datganiad Llywodraeth Cymru dyddiedig 8 Chwefror 2019 am effaith y Rheoliadau hyn:
1. Gosodwyd y rheoliadau hyn yn wreiddiol ar 16 Ionawr 2019 ond fe'u tynnwyd yn ôl wedyn. Gosodwyd fersiwn newydd o'r rheoliadau ar 17 Ionawr 2019. Cafodd y fersiwn hon ei thynnu'n ôl yn ddiweddarach, a gosodwyd y rheoliadau am y trydydd tro ar 30 Ionawr 2019.
2. Gosodwyd datganiad ysgrifenedig gwreiddiol Llywodraeth Cymru ar 18 Ionawr 2019 ond roedd yn cyfeirio, yn ôl pob golwg, at y fersiwn wreiddiol o’r rheoliadau. Trafododd y Pwyllgor y datganiad ar 28 Ionawr 2019 a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog i geisio eglurhad ynghylch rhai materion, gan gynnwys a oedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi cydsyniad i'r rheoliadau a ailosodwyd, rôl Llywodraeth Cymru yn y broses o ail- drafftio'r rheoliadau, os oedd ganddi rôl o gwbl, unrhyw effaith ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad, a’r cyfnod ymgynghori o 11 diwrnod.
3. Diwygiwyd datganiad ysgrifenedig Llywodraeth Cymru a'i ailgyhoeddi ar 29 Ionawr 2019. Y cyfan wnaeth y datganiad hwn oedd cynnwys hyperddolen at y rheoliadau diwygiedig, ac nid oedd yn cynnwys sylwadau ychwanegol, ac roedd hyn yn anfoddhaol ym marn y Pwyllgor. Nodwyd hyn yn glir yn y llythyr a anfonodd y Pwyllgor at y Gweinidog ar 31 Ionawr 2019, a soniwyd hefyd am y materion a drafodwyd yn flaenorol.
4. Cafwyd ymateb gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd ar 7 Chwefror 2019. Ailgyhoeddwyd datganiad ysgrifenedig Llywodraeth Cymru hefyd ar 8 Chwefror 2019.
5. Mae’r datganiad ysgrifenedig presennol, fel y fersiynau blaenorol, yn nodi’r canlynol:
“Mae'r Rheoliadau yn cynnwys darpariaeth sy'n galluogi Gweinidogion Cymru i arfer swyddogaethau mewn perthynas â Chymru yn ddilyffethair. Mae hefyd yn cynnwys darpariaeth lle gallai Gweinidogion Cymru ddarparu cydsyniad i'r Ysgrifennydd Gwladol arfer swyddogaethau mewn perthynas â Chymru ar eu rhan. Byddai swyddogaethau a drosglwyddir â chydsyniad i'r Ysgrifennydd Gwladol yn gyfystyr â swyddogaethau un o Weinidogion y Goron at ddibenion Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae'n bosibl, felly, fod hynny'n ystyriaeth berthnasol yng nghyd-destun cymhwysedd y Cynulliad i ddeddfu yn y meysydd hyn yn y dyfodol.”
6. Gofynnodd y Pwyllgor am ragor o wybodaeth am y hyn. Yn ei hymateb, dyddiedig 7 Chwefror 2019, i lythyr y Pwyllgor, dyddiedig 31 Ionawr 2019, cyfeiriodd y Gweinidog at ei hymateb i’r ymholiadau ynghylch Rheoliadau Hawliau Bridwyr Planhigion (Diwygio etc) (Ymadael â'r UE) 2018. Yma, dywed y Gweinidog:
“Mae Swyddogion Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad â Swyddfa Cymru am y cyfyngiadau anfwriadol ar gymhwysedd y Cynulliad sydd wedi'u creu gan bwerau a roddwyd mewn OSau sy'n gysylltiedig ag ymadael â'r UE ac mewn deddfwriaeth arall sy'n rhoi effaith i baragraffau 8, 10 ac 11 o Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru. Mae swyddogion yn edrych ar y mater yn fanwl ac yn ystyried sut orau i'w ddatrys. Bydd Llywodraeth Cymru yn mynd ati'n rheolaidd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad Cenedlaethol, gan gynnwys y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, am hynt y trafodaethau hynny.”
7. Mewn perthynas â drafftio datganiad ysgrifenedig Llywodraeth Cymru, dyddiedig 8 Chwefror 2019, mae'r gyfraith UE a ganlyn wedi'i chynnwys yn y rhestr o ddeddfwriaeth drydyddol sy’n destun mân ddiwygiadau neu ddiwygiadau technegol er, mewn gwirionedd, maent yn cael ei dirymu gan yr offeryn hwn:
- 2013/63/EU: Penderfyniad Gweithredu'r Comisiwn yn mabwysiadu canllawiau ar roi amodau penodol ar waith mewn perthynas â honiadau ynghylch iechyd a osodwyd yn Erthygl 10 o Reoliad (EC) Rhif 1924/2006 Senedd a Chyngor Ewrop;
- Rheoliad Gweithredu'r Comisiwn (UE) Rhif 489/2012 yn sefydlu rheolau gweithredu ar gyfer cymhwyso Erthygl 16 o Reoliad (EC) Rhif 1925/2006 Senedd a Chyngor Ewrop ynghylch ychwanegu fitaminau a mwynau a sylweddau penodol eraill at fwydydd.
Ar wahân i'r pwyntiau a nodir uchod, mae'r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol sy’n cyd-fynd â'r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith. Nid yw’r Cynghorwyr Cyfreithiol o'r farn bod unrhyw faterion sylweddol yn codi o dan baragraff 8 o'r Memorandwm sy’n cyd-fynd â Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. |