GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG 

 

 

77 - Rheoliadau Maeth (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2019

Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 16 Ionawr 2019

Sifftio

A fydd angen sifftio yn Senedd y DU?

Na fydd

Gweithdrefn:

Cadarnhaol

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Ty'r Cyffredin

Amh 

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-deddfwriaeth Ty'r Arglwyddi

21/01/2019

Dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

Amh

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Papur 13

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Dim angen 

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Amh 

Y weithdrefn

Cadarnhaol

Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol

Ddim yn hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ty'r Cyffredin

Ddim yn hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-deddfwriaeth Ty'r Arglwyddi

Ddim yn hysbys

Sylwadau

 

Mae'r Datganiad Ysgrifenedig yn cyfeirio at Reoliadau a osodwyd gerbron Senedd y DU ar 16 Ionawr 2019. Ar ôl hynny cafodd y Rheoliadau eu tynnu yn ôl, a gosodwyd fersiwn newydd o Reoliadau ar 17 Ionawr. Nid yw'n glir pam mae Datganiad Ysgrifenedig Llywodraeth Cymru, a osodwyd ar 18 Ionawr, yn cyfeirio at y Rheoliadau hynny a dynnwyd yn ôl. Codwyd ymholiad gyda swyddogion Llywodraeth Cymru.

 

Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adrannau 8(1) a 23, a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

 

Diben yr offeryn hwn yw unioni diffygion yn neddfwriaeth y DU yn ymwneud â maeth, yn deillio o'r DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd (“UE”), pe bai'r DU yn gadael heb gytuno ar fargen. Mae'r offeryn hwn yn diwygio deddfwriaeth ddomestig bresennol, a deddfwriaeth yr UE ddargedwir, yn ogystal â diddymu rhai darnau o ddeddfwriaeth trydyddol gysylltiedig yr UE na fydd yn gymwys i'r DU mwyach ar ôl gadael.

 

Y meysydd pwnc a gwmpesir gan y ddeddfwriaeth maeth hon yw: honiadau maeth ac iechyd a wneir ar fwyd; ychwanegu fitaminau, mwynau a rhai sylweddau penodol eraill i fwydydd; cyfansoddiad a labelu ychwanegion bwyd; cyfansoddiad a labelu bwyd ar gyfer grwpiau penodol; a gwerthu cynnyrch sy'n cynnwys Kava-kava.

 

Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn gwneud y sylwadau a ganlyn mewn perthynas â datganiad Llywodraeth Cymru dyddiedig 18 Ionawr 2019 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn:

  1. Nid yw'r datganiad yn gwneud yn glir bod y rhestr o gyfraith yr UE a ddargedwir a gaiff ei diwygio gan yr offeryn, fel y'i darperir yn y datganiad, yn rhestr gynhwysfawr. Mae cyfres o gyfraith yr UE a ddargedwir sy'n destun newidiadau mân a thechnegol gan yr offeryn hwn nad ydynt wedi'u cynnwys yn y rhestr yn natganiad Llywodraeth Cymru.
  2. Hefyd, mae cyfraith yr UE a ddargedwir a ganlyn wedi'u cynnwys yn y rhestr o gyfraith yr UE a ddargedwir sy'n cael ei diwygio, pan mewn gwirionedd maent yn cael eu dirymu gan yr offeryn hwn:

-     2013/63/EU: Penderfyniad Gweithredu'r Comisiwn (sy'n cael ei alw yn Rheoliad (EC) 2013/63 mewn camgymeriad yn natganiad Llywodraeth Cymru) - mabwysiadu canllawiau i weithredu amodau penodol ar gyfer honiadau iechyd a osodir yn Erthygl 10 o Reoliad (EC) Rhif 1924/2006 Senedd Ewrop a'r Cyngor;

-     Rheoliad (EU) Rhif 907/2013 gosod rheolau ar gyfer ceisiadau yn ymwneud â defnyddio disgrifyddion cyffredinol (enwau);

-     Rheoliad (EU) 489/2012 a oedd yn sefydlu rheolau gweithredu ar gyfer defnyddio Erthygl 16 o Reoliad (EC) 1925/2006 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ychwanegu fitaminau, mwynau, a sylweddau penodol eraill at fwydydd (er, yn yr achos hwn, mae Cynghorwyr Cyfreithiol yn nodi bod y disgrifiad yn y rhestr yn gwneud yn glir y bydd Rheoliad (EU) Rhif 489/2012 yn cael ei ddirymu).

  1. Yn ogystal, mae gwall yn natganiad Llywodraeth Cymru, yn y rhestr o gyfraith ddiwygiedig yr UE a ddargedwir. Dylai'r pwynt bwled cyntaf nodi Rheoliad (EC) 1924/2006 (nid 1924/2206).
  2. Er bod y Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaeth sy'n galluogi Gweinidogion Cymru i arfer swyddogaethau o ran Cymru yn ddilyffethair, maent hefyd yn cynnwys darpariaeth lle gallai Gweinidogion Cymru roi cydsyniad i'r Ysgrifennydd Gwladol arfer swyddogaethau o ran Cymru ar eu rhan.
  3. Byddai swyddogaethau a drosglwyddir â chydsyniad i'r Ysgrifennydd Gwladol yn gyfystyr â swyddogaethau un o Weinidogion y Goron at ddibenion Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae'n bosibl, felly, fod hynny'n ystyriaeth berthnasol yng nghyd-destun cymhwysedd y Cynulliad i ddeddfu yn y pynciau a amlinellir yn y crynodeb i'r adroddiad hwn yn y dyfodol.
  4.  

Ac eithrio'r pwyntiau a nodir uchod ym mharagraffau 1-5, mae’r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i’r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith.

Nid yw Cynghorwyr Cyfreithiol o'r farn bod unrhyw faterion sylweddol yn codi o dan baragraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.