GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG 

 

 

75 - Rheoliadau’r Amgylchedd a Bywyd Gwyllt (Swyddogaethau Deddfwriaethol) (Ymadael â’r UE) 2019

Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 8 Ionawr 2019

Sifftio

A fydd angen sifftio yn Senedd y DU?

Na fydd

Gweithdrefn:

Cadarnhaol

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Ty'r Cyffredin

Amh 

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-deddfwriaeth Ty'r Arglwyddi

21/01/2019

Dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

Amh

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Papur 9

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Dim angen 

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Amh 

Y weithdrefn

Cadarnhaol

Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol

Ddim yn hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ty'r Cyffredin

Ddim yn hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-deddfwriaeth Ty'r Arglwyddi

Ddim yn hysbys

Sylwadau

 

Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, a pharagraff 21(b) o Atodlen 7 i'r Ddeddf.

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn trosglwyddo swyddogaethau deddfwriaethol o Gomisiwn yr UE i awdurdodau cyhoeddus yn y DU.  Mae'r swyddogaethau sy'n ymwneud â meysydd polisi datganoledig wedi'u nodi ar hyn o bryd yn Rheoliadau'r UE (ac un Gyfarwyddeb yr UE) sy'n cwmpasu llygryddion organig parhaus, pren, Cofrestr Ewropeaidd ynghylch Gollwng a Throsglwyddo Llygryddion, mercwri ac allyriadau diwydiannol.  O safbwynt meysydd polisi datganoledig yng Nghymru, rhoddir rhai swyddogaethau i Weinidogion Cymru.

 

Mae’r Cynghorwyr Cyfreithiol yn gwneud y sylwadau a ganlyn mewn perthynas â datganiad Llywodraeth Cymru dyddiedig 10 Rhagfyr 2018 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn:

1.    Mae Protocol Nagoya yn ymwneud â mynediad at adnoddau genetig (Rheoliad 511/2014 yr UE).  Dywed Llywodraeth Cymru nad yw'n ymarferol bosibl i Weinidogion Cymru arfer swyddogaethau sy'n ymwneud â Phrotocol Nagoya yn annibynnol ar Lywodraeth y DU.  Felly, rhoddir swyddogaethau ar yr Ysgrifennydd Gwladol yn unig.  Nid yw Llywodraeth Cymru yn cynnig esboniad dros hyn. Rydym yn gwahodd Llywodraeth Cymru i roi rhagor o fanylion.

2.    O ran gweddill Rheoliadau'r UE (a'r un Gyfarwyddeb) sy'n ymwneud â meysydd polisi datganoledig, sef-

·         Llygryddion Organig Parhaus (Rheoliad 850/2004 y CE);

·         Cofrestr Ewropeaidd ynghylch Gollwng a Throsglwyddo Llygryddion (Rheoliad 166/2006 y CE);

·         Mercwri (Rheoliad 2017/852 yr UE); ac

·         Allyriadau Diwydiannol (Cyfarwyddeb 2010/75 yr UE (a ddisgrifir yn natganiad Llywodraeth Cymru fel "mabwysiadu casgliadau BAT"))

dywed Llywodraeth Cymru nad oes "dim effaith ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad".  Fodd bynnag, nid yw'n glir a yw'r honiad hwn yn gywir a gwahoddir esboniad pellach.  Mae ein rhesymu fel a ganlyn. 

3.    Pan roddir swyddogaeth i'r Ysgrifennydd Gwladol mewn maes a ddaw o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gallai hyn gael yr effaith o gyfyngu ar allu'r Cynulliad i ddeddfu yn y maes hwn.

4.    Ni all Deddf y Cynulliad ddileu neu addasu swyddogaeth Gweinidog y Goron sy'n ymwneud (ymhlith pethau eraill) â rheoli llygredd adnoddau dŵr oni bai bod y Gweinidog yn cydsynio (gweler paragraff 11 (1) (c) o Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006).

5.    Os yw'r Rheoliadau hyn yn rhoi swyddogaethau i'r Ysgrifennydd Gwladol sy'n ymwneud â rheoli llygredd o'r fath, yna ni fydd gan y Cynulliad gymhwysedd i gael gwared â'r swyddogaeth honno heb gydsyniad Llywodraeth y DU.   Mae hyn er gwaethaf y ffaith y bydd y swyddogaeth yn gweithredu mewn maes datganoledig.

6.    Rydym yn gofyn am fanylion pellach gan Lywodraeth Cymru ynghylch a oes unrhyw rai o'r swyddogaethau a roddir i'r Ysgrifennydd Gwladol yn ymwneud â rheoli llygredd adnoddau dŵr (neu unrhyw fater arall a restrir ym mharagraff 11 (1) o Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006).  Heb ragor o fanylion, ni allwn gadarnhau cywirdeb honiad Llywodraeth Cymru nad oes unrhyw effaith ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad.

7.    Yn ogystal, mae gwall bach iawn ym mharagraff 10 o ddatganiad Llywodraeth Cymru: dylai ddarllen Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 338/97 (nid 338/1997).

8.    Ar wahân i'r pwyntiau a wneir uchod ym mharagraffau 3 - 6, mae'r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith.  Rydym yn fodlon bod y Rheoliadau yn gwneud cywiriadau yn hytrach na pholisi newydd mewn meysydd datganoledig.  

9.    I gadarnhau'r sefyllfa o ran pwyntiau 3-6 uchod, byddai angen y wybodaeth ychwanegol a ddisgrifir uchod arnom.

10. Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn ystyried bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.