Has the requirement for domestic and UEFA licences contributed in any way to improving the infrastructure of WPL clubs, and if so, how?/ A ywr gofyniad i gael trwydded ddomestig a thrwydded UEFA wedi cyfrannu mewn unrhyw ffordd at wella seilwaith clybiau Uwch Gynghrair Cymru ac os felly, sut?

Yn bendant mae trwyddedu (Domestig ac UEFA) wedi bod o fudd cadarnahol ir clybiau tu fewn a thu allan ir Gynghrair Genedlaethol.

 

Yn gyntaf maent wedi gorfodi pob clwb i osod sylafen gadarn iw tanadeiledd, or Academi hyd at y tm cyntaf. Maer criteria yn glir ac yn bendant gyda phob adran yn berthnasol i bob clwb. Maen gosod sail i wneud penderfyniadau.

 

Hoffwn ddiolch ir tm trwyddedu tu fewn ir GBD am eu cefnoageth auparodrwydd i gynorthrwyo wrth fynd ati yn flynyddol i gyrchu at y nod.

 

Y gwerth mwyaf, yn fy marn i, yw sicrhau mai y clybiau uchelgeisiol sydd yn medru elwa o hyn. Wrth ir trwydded gael ei ddefnyddio i dynnur gynghrair lawr i 12 o dimau, dim ond y rhai gydar weledigaeth yn y gorffennol oedd yn medru ateb y gofynion. Felly y clybiau sydd wedi goroesi sydd r cyfleusterau ar tan adeiledd gorau tu fewn i bl-droed yng Nghymru.

 

Maen gosod sail i glybiau tu allau ir Uwch Gynghrair iw anelu amdano. Efallai bod hi nawr yn amser i edrych ar y clybiau yma ac i roi mwy o gyfle iddynt gyrraedd eu nod.

 

Yn gyntaf dylid cael trafodaeth unwaith eto ar y nifer o glybiau sydd yn yr Uwch Gynghrair. Nodwyd yn barod y byddai Clwb Pl Droed Caerfyrddin yn ffafro un clwb ar bymtheg a bod hin amser i ail edrych ar hyn.

 

Yn ail mae yna glybiau sydd yn derbyn y drwydded domestig yn cael ei atal rhag cael mynediad ir Uwch Gynghrair oherwydd mai un clwb or De ac un or Gogledd sydd yn medru cael dyrchafiad. Teimlwn bod clybiaur Gogledd yn fwy uchelgeisol nar rhai yn y De.

 

                   Do you have any views on the FAW Strategic Plan, published in January 2012, and the way in which it relates to the WPL?/ A oes gennych farn ynghylch Cynllun Strategol Cymdeithas Bl-droed Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2012, a sut y maen berthnasol i Uwch Gynghrair Cymru?

Eto mae angen mwy o drafodaeth ar gynnwys y Cynllun Strategol. Credwn fod angen fwy o fewnbwn gan aelodaur Uwch Gynghrair er mwyn bod yna weledigaeth gytn ar gyfer y dyfodol. Nid yw un cyfarfod yn ddigon i greu'r fath sefyllfa.

Credwn yn gryf mewn datblygu ond rhaid cael cytundeb cyffredinol ar y ffordd ymlaen.

                   You say that the Welsh Government should do its bit in supporting our Premier League. What would be the most effective form of support it could provide and what would you wish to see the Government doing in this respect?/ Yr ydych yn dweud y dylai Llywodraeth Cymru wneud ei rhan drwy gefnogi ein Huwch Gynghrair. Beth fyddair gefnogaeth fwyaf effeithiol y gallai ei chynnig a beth yr hoffech weld y Llywodraeth yn ei wneud yn hyn o beth?

Heblaw am arian uniongyrchol rhaid edrych ar gefnogaeth ymarferol i glybiau. Gan mai gwirfoddolwyr sydd yn rhedeg y rhan fwyaf o glybiau'r Uwch Gynghrair nid oes arbenigrwydd, yn aml, wrth chwilio am ffynonellau ariannol ychwanegol.

Roedd ymgais y GBD gyda Grow Your Club yn ganmoladwy ond nid yn ateb y broblem gan nad oedd yn ddigon pendant ei awgrymiadau.

Mae angen rhestr syml o ffynonellau ariannol ar glybiau gyda chymorth ychwanegol ar sut mae llenwir ffurflenni cais er mwyn cyrraedd yn ffynonellau yma.

Rydym yn gobeithio mai'r cam cyntaf ywr cyfarfodydd yma ar hyd y llwybr i sicrhau cymorth. Eto mae angen trafodaeth er mwyn llunio cynllun 5 mlynedd ar gyfer y gynghrair, sut mae ei hymestyn, ei phoblogeiddio ai gwneud yn hyfyw. Ni all y clybiau wneud hyn yn anffodus heb gymorth.

Mae angen cyfarwyddo Cynghorau Sir i geisio cefnogi eu clybiau yn ymarferol. Rhaid canmol Cyngor Sir Gar sydd yn ceisio gwneud hynny.

Pa fewnbwn oedd gan Lywodraeth Cymru ir Cynllun Strategol? Oes angen presenoldeb gwleidydd ar CBD Cymru neu ar banel reoli'r Uwch Gynghrair? Cwestiynau i chi yw'r rhain a diddorol bydd darllen neu glywed yr ymateb

                   Can you expand on your comments that the Welsh Government should support Waless independent position within FIFA? What specific actions should it be taking in this regard and what role does the WPL have to play in safeguarding this status?/ A allwch ymhelaethu ar eich sylwadau y dylai Llywodraeth Cymru gefnogi safle annibynnol Cymru yn FIFA? Pa gamau penodol y dylai fod yn eu cymryd yn hyn o beth a beth yw swyddogaeth Uwch Gynghrair Cymru o ran diogelur statws hwn?

Maer Gemau Olympaidd wedi dod a hyn i sylwr cyfryngau unwaith eto. Yn sicr maen rhaid amddiffyn annibyniaeth Cymru tu fewn i rengoedd FIFA. Nid yw sylwadau cynrychiolydd FA Lloegr wedi bod o gymorth i Gymru ac mae angen adfer y sefyllfa.

Eto rhaid edrych ar y bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a GBD Cymru, oes un yn bodoli. Rhaid sicrhau tryloywder yn y berthynas hon.

Mae Cymru (a Chaerdydd yn benodol) yn elwa o gael tm cenedlaethol. Mae enwau fel Aaron Ramsey a Gareth Bale yn adnabyddus ar draws y byd. Rhaid ei defnyddio i ddenu cefnogaeth ir tm cenedlaethol ond hefyd i ddenu pobl ir brifddinas.

Mae anrhydedd enfawr i Glwb Pl Droed Caerfyrddin cael llwyfannu tair gem ar Barc Waun Dew yn Awst 2013 fel rhan o Bencampwriaeth UEFA i ferched dan 19 oed. Rydym yn barod yn cydweithio gyda'r bwrdd twristiaeth leol ar Cyngor Sir i hysbysebur ardal ar draws Ewrop.

Yn sicr mae Caerdydd yn mynd i elwa wrth i gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2014 nesau.Rheswm economaidd i amddiffyn annibyniaeth ein tm cenedlaethol.

Mae gan yr Uwch Gynghrair rl allweddol tu fewn i hyn. Wrth i ni gystadlu yn Ewrop y nod yw ceisio gwella ein statws tu fewn i UEFA. Wrth ir tm cenedlaethol wella a gobeithio bydd ein canlyniadau yn Ewrop bydd ein ranc tu fewn i UEFA yn codi gan sicrhau lle mwy ffafriol i glybiau a thimau cenedlaethol Cymru.

                   What are your views on the work the FAW and WPL is undertaking with respect to tackling racism and homophobia in football and in reaching out to more diverse footballing communities (such as women, BME people and LGB people)?/ Beth yw eich barn am y gwaith y mae Cymdeithas Bl-droed Cymru ac Uwch Gynghrair Cymru yn ei wneud i fynd ir afael hiliaeth a homoffobia yn y byd pl-droed ac i gyrraedd cymunedau pl-droed mwy amrywiol (megis menywod, pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl lesbiaid, hoyw a deurywiol)?

Mae Clwb Pl Droed Caerfyrddin wedi ymgorffori ymgais y GBD i fynd i afael a hiliaeth a homoffobia yn y byd pl droed. Fel clwb rydym yn croesawu criw Dangoswch y Cerdyn Coch i Hiliaeth yn flynyddol i Barc Waun Dew. Eleni roedd dro 60 ddisgyblion ysgolion cynradd y cylch yn cael eu sylw wedi tynnu at broblemau cymdeithasol.

Maer sesiynau yn rhai bywiog llawn brwdfrydedd. Rwyf wedi gwneud awgrymiadau ar gyfer datblygur cynllun o ran ei strwythur.

Y fantais i ni yw bode in canolfan gymunedol yn nawr yn cael ei chysylltu gan ysgolion nid fell le i chwarae pl droed yn unig ond fel man i fynd i ehangu gwybodaeth ac i drafod pynciau llosg.

Mae dysgu drwy bl droed yn effeithiol. Ceir cymaint o sylw iddo yn y cyfryngau ac maen ffordd effeithiol o drosglwyddo negeseuon cadarnhaol. Maes iw ddatblygun ymhellach efallai.