GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG 

 

 

74 - Rheoliadau Sylweddau sy’n Teneuo’r Osôn a Nwyon Tŷ Gwydr wedi’u Fflworeiddio a (Diwygiadau etc.) (Ymadael â’r UE) 2018

Gosodwyd yn Senedd y DU: XX Rhagfyr 2018

Sifftio

A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU?

Na fydd

Gweithdrefn:

Cadarnhaol

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

Amh. 

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

 

Dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

Amh.

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Papur 60

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Ddim yn ofynnol 

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Amh. 

Gweithdrefn

Cadarnhaol

Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol

Ddim yn hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin

Ddim yn hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Ddim yn hysbys

Sylwadau

 

Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU o dan adran 8 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, a pharagraff 21 o Atodlen 7 i'r Ddeddf.

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn mynd i'r afael â diffygion yng nghyfraith yr UE a ddargedwir sy'n ymwneud â chyfyngiadau ar y defnydd o sylweddau sy'n teneuo'r osôn a nwyon tŷ gwydr wedi’u fflworeiddio i sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn parhau i weithredu'n effeithiol pan fydd y DU yn gadael yr UE, oni cheir cytundeb ymadael.

 

Mae'r offeryn hwn yn trosglwyddo pwerau a swyddogaethau o'r Sefydliadau Ewropeaidd (gan gynnwys y Comisiwn Ewropeaidd ac Asiantaeth yr Amgylchedd Ewropeaidd) i'r Ysgrifennydd Gwladol, ac i Weinidogion datganoledig a chyrff rheoleiddio priodol y DU, fel bod y gofynion a nodir mewn Rheoliadau penodol yr UE sy'n ymwneud â sylweddau sy'n teneuo'r osôn a nwyon tŷ gwydr wedi’u fflworeiddio yn gallu parhau i weithredu yn y DU ar ôl iddi adael yr UE, oni cheir cytundeb ymadael.

 

Diben hyn yw cynnal yr un deilliannau amgylcheddol a lleihau'r aflonyddwch i fusnesau, trwy gadw gofynion rhai o Reoliadau'r UE sy'n ymwneud â sylweddau sy'n teneuo'r osôn a nwyon tŷ gwydr wedi’u fflworeiddio yng nghyfraith y DU wrth gywiro diffygion gweithredu. Bydd hefyd yn cynnal y cyfraniad y mae Rheoliadau'r UE yn ei wneud i fodloni cyllidebau carbon domestig y DU o dan Ddeddf Newid Hinsawdd y DU 2008.

 

Drwy gydsynio i Lywodraeth y DU wneud y Rheoliadau hyn yn y meysydd a ddatganolwyd i Gymru, ymddengys bod Llywodraeth Cymru yn caniatáu i gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad gael ei gyfyngu yn y dyfodol.

Yn ôl y datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru ar 21 Rhagfyr 2018:

“Mae'r swyddogaethau a drosglwyddir i'r Ysgrifennydd Gwladol yn gyfystyr â swyddogaethau un o Weinidogion y Goron at ddibenion Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.  Mae paragraff 11 o Atodlen 7B yn cyfyngu ar gymhwysedd y Cynulliad i ddileu neu addasu swyddogaethau Gweinidogion y Goron heb gydsyniad y Gweinidog perthnasol o Lywodraeth y DU, pan fo'r swyddogaeth yn swyddogaeth cymwys wedi'i ddatganoli sy'n cynnwys swyddogaeth y mae modd ei hymarfer ar y cyd/yn gydamserol i unrhyw raddau.   Byddai hyn yn golygu bod unrhyw Fil gan y Cynulliad yn y dyfodol i geisio addasu (dileu

neu newid) y swyddogaethau hyn, yn gallu golygu y bydd gofyn ymgynghori â Llywodraeth y DU.”   

O ystyried hynny, efallai y bydd yr Aelodau'n dymuno ystyried ysgrifennu at Bwyllgor Craffu ar Ddeddfwriaeth Sylfaenol Tŷ'r Arglwyddi i wneud sylwadau.

 

Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 21 Rhagfyr 2018 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.

 

Mae'r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith ac i ba raddau y byddai'r Rheoliadau hyn yn creu polisi newydd mewn meysydd datganoledig.