GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG 

 

 

73 - Rheoliadau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol (Diwygio etc.) (Ymadael â'r UE) 2018

Gosodwyd yn Senedd y DU: XX Rhagfyr 2018

Sifftio

A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU?

Na fydd

Gweithdrefn:

Cadarnhaol

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

Amh. 

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

 

Dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

Amh.

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Papur 58

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Ddim yn ofynnol 

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Amh. 

Gweithdrefn

Cadarnhaol

Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol

Ddim yn hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin

Ddim yn hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Ddim yn hysbys

Sylwadau:

 

Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 2(2) o Ddeddf 1972, adran 132(1) a (2) o Ddeddf Addysg 2002(c), ac adran 8(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (y Ddeddf), a pharagraff 21(b) o Atodlen 7 i'r Ddeddf.

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Undeb Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2015 ("Rheoliadau 2015"), yn dirymu effaith Rheoliadau Cymunedau Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2007 ("Rheoliadau 2007") mewn perthynas â'r Swistir, ac yn gwneud darpariaethau trosiannol ac arbed, yn unol â'r pwerau a roddir gan adran 8(1) a pharagraff 21 o atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018. Bydd yr offeryn hwn yn dirymu nifer o ddarnau o ddeddfwriaeth uniongyrchol yr Undeb Ewropeaidd a ddargedwir. Mae'r newidiadau hyn yn cael eu gwneud i fynd i'r afael â diffygion sy'n codi yn sgil ymadawiad y Deyrnas Unedig o'r Undeb Ewropeaidd.

Bydd y Rheoliadau hyn yn diweddaru atodlenni yn Rheoliadau 2015 gan ddibynnu ar bwerau yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.

Hefyd, bydd y Rheoliadau hyn yn gwneud mân newidiadau i ddeddfwriaeth sy'n ymwneud ag athrawon ysgol yn Lloegr, yn unol â'r pwerau yn adran 132 o Ddeddf Addysg 2002.

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn sicrhau bod system o gydnabod cymwysterau proffesiynol yn parhau ac y bydd unigolion sy'n cyrraedd y DU ar ôl y diwrnod ymadael â chymwysterau'r Ardal Economaidd Ewropeaidd neu gymwysterau'r Swistir yn gallu cael cydnabyddiaeth o'u cymwysterau. O dan y darpariaethau presennol yn Rheoliadau 2007 a Rheoliadau 2015, cyfrifoldeb yr Aelod-wladwriaeth lle mae'r gweithiwr proffesiynol wedi'i gofrestru ar hyn o bryd yw penderfynu ar lefel cymhwyster yr ymgeisydd, ac ni all y DU anghytuno â'r lefel honno. Mae'r Nodiadau Esboniadol yn nodi ym mharagraff 7.15, pan fydd y DU yn ymadael â'r UE, na fydd bellach yn briodol i ganiatáu i awdurdodau cymwys yr UE benderfynu ar lefel y cymhwyster at ddibenion ei gydnabod yn y DU. Felly, ni fydd yn ofynnol i awdurdod cymwys y DU dderbyn lefel y cymhwyster a ardystiwyd gan Aelod-wladwriaeth arall.

 

Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn gwneud y sylwadau a ganlyn mewn perthynas â datganiad Llywodraeth Cymru dyddiedig 20 Rhagfyr 2018 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn. Mae'r datganiad ond yn nodi bod Rheoliadau'r Undeb Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2015 yn cael eu diwygio. Mae'r offeryn hwn hefyd yn dirymu effeithiau Rheoliadau 2007 o ran y Swistir.  Heblaw hynny, mae'n dirymu nifer o ddarnau o ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir, ac yn gwneud diwygiadau ynghylch athrawon ysgol yn Lloegr. 

 

Mae’r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i’r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith.

 

Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn ystyried bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.

 

Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol wedi nodi unrhyw reswm cyfreithiol i geisio cynnig cydsyniad o dan Reol Sefydlog 30A.10 mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.