GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG 

 

 

72 - Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ymadael â'r UE) 2019

Gosodwyd yn Senedd y DU: 20 Rhagfyr 2018

Sifftio

A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU?

Na fydd

Gweithdrefn:

Cadarnhaol

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

Amh. 

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

 

Dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

Amh.

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Papur 56

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Ddim yn ofynnol 

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Amh. 

Gweithdrefn

Cadarnhaol

Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol

Ddim yn hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin

Ddim yn hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Ddim yn hysbys

Sylwadau

 

Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

 

Mae Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC ("y Gyfarwyddeb Iechyd Planhigion") yn sefydlu cyfundrefn iechyd planhigion yn yr UE sy'n gosod rheolaethau ar gyfer mewnforio deunydd planhigion i'r UE ac mae'n darparu ar gyfer masnachu a symud deunydd planhigion o fewn Aelod-wladwriaethau'r UE a rhyngddynt.

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn nodi'r sail y gall y DU weithredu marchnad fewnol ar gyfer deunydd planhigion a reoleiddir pe bai'r DU yn gadael yr UE heb gytundeb. Gwneir hyn trwy ddarparu rhestr gyffredin o blâu a deunydd planhigion a reoleiddir ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon sy'n adlewyrchu'r plâu a'r deunydd planhigion a gaiff eu rheoleiddio ar hyn o bryd o dan y Gyfarwyddeb Iechyd Planhigion.

Mae'r Rheoliadau hefyd yn amlinellu diwygiadau i fynd i'r afael â diffygion yn neddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir sy'n ymwneud ag iechyd planhigion, sy'n cynnwys rhanddirymiadau iechyd planhigion yr UE (i'w galluogi i barhau i gael eu defnyddio yn unol â'r arferion presennol) a phenderfyniadau brys o ran iechyd planhigion yr UE (i sicrhau bod bioddiogelwch y DU yn parhau i gael ei ddiogelu).

 

Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn gwneud y sylwadau a ganlyn mewn perthynas â datganiad Llywodraeth Cymru dyddiedig 20 Rhagfyr 2018 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.

  • Yn y rhestr o ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir sy'n cael eu dirymu, mae datganiad Llywodraeth Cymru yn cynnwys 'Penderfyniad Gweithredu gan y Comisiwn 2013/413/EU yn awdurdodi Aelod-wladwriaethau i ddarparu ar gyfer rhanddirymu darpariaethau penodol yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC mewn perthynas â thatws, ac eithrio tatws y bwriedir eu plannu, sy'n tarddu o ranbarthau Akkar a Bekaa yn Lebanon'. Fodd bynnag, nid yw'r penderfyniad hwnnw wedi'i restru yn y Rheoliadau fel un sy'n cael ei ddirymu. O'r herwydd, nid yw'n glir pam mae Llywodraeth Cymru wedi ei gynnwys yn y datganiad.

 

Mae’r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i’r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith.

 

Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn ystyried bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.

 

Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol wedi nodi unrhyw reswm cyfreithiol i geisio cynnig cydsyniad o dan Reol Sefydlog 30A.10 mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.