GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG 

 

 

71 - Rheoliadau Marchnata Hadau a Deunyddiau Lluosogi Planhigion (Diwygio etc.) (Ymadael â'r UE) 2018

Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 20 Rhagfyr 2018

Sifftio

A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU?

Bydd

Gweithdrefn:

Negyddol arfaethedig

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

15 Ionawr 2019

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-deddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Yr wythnos sy’n dechrau ar

Y dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

8 Ionawr 2019

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Papur 55

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Nid yw'n ofynnol

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Ddim yn hysbys 

Y weithdrefn

Negyddol neu Gadarnhaol

Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol

Ddim yn hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin

Ddim yn hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-deddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Ddim yn hysbys

Sylwadau

 

Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1), a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Hadau (Rhestrau Cenedlaethol o Amrywogaethau) 2001 ('Rheoliadau 2001') a chyfraith yr UE a ddargedwir ar farchnata hadau. Mae'r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn mynd i'r afael â materion ymarferoldeb fel y gall Rheoliadau 2001 a chyfraith yr UE a ddargedwir barhau i weithredu ar ôl ymadael. Mae'r Rheoliadau hyn i sicrhau parhad y cyflenwad hadau yn y DU.

 

Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 20 Rhagfyr 2018 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.

Mae'r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith.

Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn ystyried bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 o’r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.

 

Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol wedi nodi unrhyw reswm cyfreithiol i geisio cynnig cydsyniad o dan Reol Sefydlog 30A.10 mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.