GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG 

 

 

70 - Rheoliadau Gwastraff (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â'r UE) (Rhif 2) 2019

Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 18 Rhagfyr 2018

Sifftio

A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU?

Bydd

Gweithdrefn:

Negyddol arfaethedig

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

15 Ionawr 2019

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-deddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Yr wythnos sy’n dechrau ar

Y Dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

17 Ionawr 2019

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Papur 52

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Nid yw'n ofynnol

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Ddim yn hysbys 

Y weithdrefn

Negyddol neu Gadarnhaol

Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol

Ddim yn hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin

Ddim yn hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-deddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Ddim yn hysbys

Sylwadau

 

Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

 

Mae'r offeryn hwn yn diwygio 12 o reoliadau gwastraff domestig, sy'n gweithredu cyfarwyddebau Ewropeaidd gwahanol sy'n ymwneud â rheoli gwastraff i sicrhau bod y gyfundrefn wastraff yn gallu parhau i weithredu'n effeithiol ar ôl i'r DU adael yr UE. Ni chaiff unrhyw safonau amgylcheddol eu dileu na’u diwygio.

Mae'r addasiadau yn angenrheidiol i destun y ddeddfwriaeth ddomestig, gan ddileu neu ddiwygio cyfeiriadau at gyfarwyddebau'r UE a thelerau cysylltiedig yr UE, er mwyn sicrhau bod y ddeddfwriaeth gwastraff yn parhau i weithredu fel y’i bwriedir ar ôl ymadael â’r UE drwy sicrhau bod y fframweithiau diogelu a rheoleiddio presennol yn cael eu cadw a'u bod yn parhau i weithio yn yr un modd ar ôl i’r DU adael yr UE.

 

Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 19 Rhagfyr 2018 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.

 

Mae'r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith.

 

Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn ystyried bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 o’r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.

 

Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol wedi nodi unrhyw reswm cyfreithiol i geisio cynnig cydsyniad o dan Reol Sefydlog 30A.10 mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.