GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG 

 

 

63 - Rheoliadau Plaleiddiaid a Gwrteithiau (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â'r UE) 2019

Gosodwyd yn Senedd y DU: 18 Rhagfyr 2018

Sifftio

A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU?

Bydd

Gweithdrefn:

Negyddol arfaethedig

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

8 Ionawr 2019

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Wythnos yn cychwyn 7 Ionawr 2019

Dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

15 Ionawr 2019

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Papur 48

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Ddim yn ofynnol

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Ddim yn hysbys 

Gweithdrefn

Negyddol neu Gadarnhaol

Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol

Ddim yn hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin

Ddim yn hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Ddim yn hysbys

Sylwadau

 

Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU o dan adran 8(1), a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

 

Er mwyn sicrhau y bydd cynhyrchion diogelu planhigion yn parhau i gael eu rheoli'n effeithiol ar ôl ymadael â’r UE, a hefyd i sicrhau y bydd gan y DU fframwaith rheoleiddio gweithredol ar ôl ymadael â'r UE, mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r canlynol drwy wneud mân gywiriadau iddynt:

Rheoliadau Diogelwch Deunydd Amoniwm Nitrad (Cynnwys Nitrogen Uchel) 2003

Rheoliadau Plaleiddiaid (Lefelau Uchaf Gweddillion) (Cymru a Lloegr) 2008

Rheoliadau Cynhyrchion Diogelu Planhigion 2011

Rheoliadau Cynhyrchion Diogelu Planhigion (Ffioedd a Thaliadau) 2011

Rheoliadau Cynhyrchion Diogelu Planhigion (Defnydd Cynaliadwy) 2012    

Mae'r offeryn hwn hefyd yn trosglwyddo swyddogaethau o dan ddeddfwriaeth plaleiddiaid yr UE i Weinidogion Cymru.

 

Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn gwneud y sylwadau a ganlyn mewn perthynas â datganiad Llywodraeth Cymru dyddiedig 18 Rhagfyr 2018 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn:

Mae datganiad Llywodraeth Cymru ym mharagraff 4 yn dweud, "Mae'r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaethau sy'n galluogi Gweinidogion Cymru i arfer swyddogaethau ar y cyd â phartïon gan gynnwys yr Ysgrifennydd Gwladol."

Fodd bynnag, o ganlyniad i'r gwelliannau a wneir gan yr offeryn hwn, bydd Gweinidogion Cymru eu hunain yn gallu arfer swyddogaethau mewn perthynas â phlaleiddiaid. Yn ogystal, mae paragraff 7:10 o Femorandwm Esboniadol Llywodraeth y DU yn datgan:

“Currently, the Secretary of State is the competent authority in respect of both England and Wales for Regulation (EC) No 1107/2009 and Directive 2009/128/EC, and the designated national authority for Regulation (EC) No 396/2005. Pesticides is a devolved matter under the Government of Wales Act 2006. Therefore in preparation for exit day, the instrument makes amendments to domestic legislation to designate Welsh Ministers as the competent authority in relation to Wales for the purposes of Regulation (EC) No 1107/2009 and Directive 2009/128/EC, and as designated national authority for the purposes of Regulation (EC) No 396/2005. It also amends the Plant Protection Products (Fees and Charges) Regulations 2011 to allow the Welsh Ministers to charge fees in respect of their functions as competent authority and designated national authority. This is in line with the government’s approach to EU exit and devolution, and in order to facilitate both UK-wide decision making with consent and independent exercise of powers as necessary.”

 

Mae’r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i’r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith.

 

Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn ystyried bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.

 

Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol wedi nodi unrhyw reswm cyfreithiol i geisio cynnig cydsyniad o dan Reol Sefydlog 30A.10 mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.