GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG
|
|
62 - Rheoliadau Plaleiddiaid (Lefelau Uchaf Gweddillion) (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2019 Gosodwyd yn Senedd y DU: 18 Rhagfyr 2018 |
|
Sifftio |
|
A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU? |
Na fydd |
Gweithdrefn: |
Cadarnhaol |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin |
Amh. |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Ddim yn hysbys |
Dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU |
Amh. |
Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: |
Papur 46 |
Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol) |
Ddim yn ofynnol |
Gweithdrefn graffu |
|
Canlyniad y broses sifftio |
Amh. |
Gweithdrefn |
Cadarnhaol |
Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol |
Ddim yn hysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin |
Ddim yn hysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Ddim yn hysbys |
Sylwadau
Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.
Mae'r offeryn hwn yn un o dri a fydd yn gwneud cywiriadau i'r gyfundrefn rheoleiddio cynnyrch diogelu planhigion yr UE sydd wedi'i drawsnewid, fel ei bod yn parhau i weithredu'n effeithiol ar ôl i'r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r offeryn yn gwneud cywiriadau i Reoliad (EC) Rhif 396/2005 i sicrhau y bydd y trefniadau effeithiol a rheolaethau cadarn, sy'n llywodraethu lefel y gweddillion a ganiateir mewn bwyd, yn parhau i weithredu yn y DU ar ôl ymadael â'r UE. Mae'r offeryn yn gwneud diwygiadau i ddeddfwriaeth ym maes plaleiddiaid, ac yn benodol, mae'n diwygio deddfwriaeth sy'n ymwneud â'r lefelau uchaf a ganiateir o weddillion plaleiddiaid. Mae Rhan 2 yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 396/2005 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar y lefelau uchaf o blaleiddiaid mewn bwyd neu ar fwyd, a bwyd sy'n tarddu o blanhigion ac anifeiliaid, a deddfwriaeth ategol uniongyrchol arall yr UE a ddargedwir. Mae Rhan 3 yn dirymu deddfwriaeth uniongyrchol yr Undeb Ewropeaidd a ddargedwir na fydd yn gymwys bellach ar ôl y diwrnod ymadael.
Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 18 Rhagfyr 2018 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn, ond maent am dynnu sylw'r Pwyllgor at y datganiad a ganlyn: “Mae plaleiddiaid yn fater lle y mae gan y Cynulliad Cenedlaethol gymhwysedd deddfwriaethol ond nid oes gan Weinidogion Cymru unrhyw swyddogaethau. Mae'r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaethau sy'n galluogi Gweinidogion Cymru i arfer swyddogaethau o ran Cymru yn ddilyffethair ac i Weinidogion Cymru roi cydsyniad i'r Ysgrifennydd Gwladol arfer swyddogaethau o ran Cymru. Maent hefyd yn cynnwys darpariaethau sy'n galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol i arfer swyddogaethau ar ei ben ei hun ond rhaid cael cydsyniad yr Awdurdodau Datganoledig mewn perthynas â thiriogaethau datganoledig.
Byddai swyddogaethau a drosglwyddir â chydsyniad i'r Ysgrifennydd Gwladol yn gyfystyr â swyddogaethau un o Weinidogion y Goron at ddibenion Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae'n bosibl, felly, fod hynny'n ystyriaeth berthnasol yng nghyd-destun cymhwysedd y Cynulliad i ddeddfu yn y meysydd hyn yn y dyfodol. Mae swyddogaethau a drosglwyddir i'r Ysgrifennydd Gwladol yn unig, ond y gellir eu harfer â chydsyniad yr Awdurdodau Datganoledig yn unig mewn perthynas â thiriogaethau datganoledig, yn cynnwys swyddogaethau Gweinidog y Goron at ddibenion Atodlen 7B o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Pe bai'r Cynulliad yn cyflwyno Bil yn y dyfodol i geisio dileu neu addasu'r swyddogaethau hyn, gallai hynny olygu y bydd gofyn ymgynghori â Llywodraeth y DU.”
Mae’r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i’r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith. Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn ystyried bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.
Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol wedi nodi unrhyw reswm cyfreithiol i geisio cynnig cydsyniad o dan Reol Sefydlog 30A.10 mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.
|