2019 Rhif (Cy. )

YMADAEL Â’R UNDEB EWROPEAIDD, CYMRU

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

CYMWYSTERAU PROFFESIYNOL, CYMRU

Rheoliadau Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymwysterau) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16), er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (dccc 2) sy’n ymwneud â rheoleiddio gweithwyr cymdeithasol a rheolwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru ac yn gwneud arbedion a darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â’r diwygiadau hynny.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.


 

2019 Rhif (Cy. )

YMADAEL Â’R UNDEB EWROPEAIDD, CYMRU

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

CYMWYSTERAU PROFFESIYNOL, CYMRU

Rheoliadau Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymwysterau) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019

Gofyniad sifftio wedi ei fodloni                 ***

Gwnaed                                                 ***

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       ***

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2) a (3)

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018([1]) yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (sy’n ymwneud â gweithdrefn graffu briodol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.

 

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymwysterau) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019.

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), daw’r Rheoliadau hyn i rym ar y diwrnod ymadael.

(3) Daw rheoliad 14(2) i rym ar 11.00pm ar 31 Rhagfyr 2020.

(4) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(5) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Deddf 2016” yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016([2]).

RHAN 1

Diwygiadau i ddeddfwriaeth

Diwygiadau i Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

2. Mae Deddf 2016 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

3. Yn adran 66(1) (dehongli Rhannau 3 i 8), hepgorer y diffiniadau o “gwladolyn”, “Gwladwriaeth Ewropeaidd berthnasol”, “person esempt”, “rhan gweithwyr cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad”, “rhan rheolwyr gofal cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad” ac “y Rheoliadau Systemau Cyffredinol”([3]).

4. Yn adran 74 (rheolau: ffioedd)([4]), hepgorer is-adran (3).

5. Yn adran 80 (y gofrestr)([5]), hepgorer is-adrannau (1)(c) a (d), (2)(c) a (d) a (3)(c) a (d).

6. Yn adran 84 (“wedi ei gymhwyso’n briodol”)([6]), hepgorer paragraff (aa)(ii).

7. Yn adran 85 (cymwysterau a geir y tu allan i Gymru – gweithwyr cymdeithasol)([7]), hepgorer is-adran (1).

8. Hepgorer adran 85A (cymwysterau a geir y tu allan i Gymru – rheolwyr gofal cymdeithasol)([8]).

9. Hepgorer adran 90 (gweithwyr cymdeithasol sydd ar ymweliad o Wladwriaethau Ewropeaidd perthnasol)([9]).

10. Hepgorer adran 90A (rheolwyr gofal cymdeithasol sydd ar ymweliad o Wladwriaethau Ewropeaidd perthnasol)([10]).

11. Hepgorer adran 105 (apelau eraill: penderfyniadau a wneir o dan y Rheoliadau Systemau Cyffredinol)([11]).

12. Yn adran 113 (datblygiad proffesiynol parhaus), hepgorer is-adrannau (3) i (5)([12]).

13. Yn adran 164 (ystyr “person cofrestredig” yn Rhan 6)([13])—

(a)     yn lle “y rhan gweithwyr cymdeithasol, mewn rhan ychwanegol” rhodder “y rhan gweithwyr cymdeithasol neu mewn rhan ychwanegol”;

(b)     hepgorer “neu yn y rhan gweithwyr cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad neu’r rhan rheolwyr gofal cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad”.

14.(1)(1) Yn Atodlen 1 (gwasanaethau rheoleiddiedig: diffiniadau), ym mharagraff 7 (gwasanaethau eirioli)—

(a)     yn lle is-baragraff (4)(b) rhodder—

(b) yn unigolyn—

                       (i)  y mae rheoliad 5(1)(a) o Reoliadau Gwasanaethau Cyfreithwyr ac Ymarfer Cyfreithwyr (Dirymu etc.) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/XXX) yn gymwys iddo,

                      (ii)  yr oedd rheoliad 5(1)(b) o’r Rheoliadau hynny yn gymwys iddo ac sy’n dod yn gyfreithiwr Ewropeaidd cofrestredig (yn rhinwedd penderfyniad ar gais yr unigolyn neu ar apêl),

                     (iii)  yr oedd rheoliad 5(1)(c) o’r Rheoliadau hynny yn gymwys iddo ac y caiff ei ataliad dros dro ei derfynu (pa un ai ar apêl neu fel arall), neu

                     (iv)  yr oedd rheoliad 5(1)(d) o’r Rheoliadau hynny yn gymwys iddo ac y mae ei gofrestriad yn gyfreithiwr Ewropeaidd cofrestredig wedi ei adfer.;

(b)     ar ôl is-baragraff (4) mewnosoder—

(4A) Yn is-baragraff (4)(b), mae i “cyfreithiwr Ewropeaidd cofrestredig” yr un ystyr â “registered European lawyer” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau’r Cymunedau Ewropeaidd (Ymarfer Cyfreithwyr) 2000 (O.S. 2000/1119) fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn y diwrnod ymadael.

(2) Yn Atodlen 1, ym mharagraff 7, hepgorer is-baragraff (4)(b) (a’r “neu” cyn hynny) ac is-baragraff (4A) (fel y’i hamnewidir ac y’i mewnosodir gan baragraff (1) o’r rheoliad hwn).

Diwygiad canlyniadol i Ddeddf Iechyd Meddwl 1983

15. Yn adran 130H(7)(b) (eiriolwyr iechyd meddwl annibynnol i Gymru: pwerau a dyletswyddau atodol) o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983([14]), hepgorer “or the visiting European part”.

RHAN 2

Arbedion a darpariaeth drosiannol

Ceisiadau sydd yn yr arfaeth

16.(1)(1) Pan geir cais perthnasol cyn y diwrnod ymadael, mae Deddf 2016 yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas â’r cais (gan gynnwys mewn perthynas ag unrhyw apêl sy’n codi ohono) ar ac ar ôl y diwrnod ymadael fel pe na bai’r diwygiadau a wnaed gan Ran 1 wedi eu gwneud.

(2) Ym mharagraff (1), ystyr “cais perthnasol” yw cais—

(a)     i dderbyn i ran gweithwyr cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad neu’r rhan rheolwyr gofal cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad o’r gofrestr a gedwir o dan adran 80 o Ddeddf 2016,

(b)     i adnewyddu cofrestriad yn y rhannau hynny o’r gofrestr o dan adran 86(2) o Ddeddf 2016,

(c)     i aildderbyn i’r rhannau hynny o’r gofrestr o dan adran 80 o Ddeddf 2016 ar ôl i gofrestriad ddarfod, neu

(d)     i adfer i’r rhannau hynny o’r gofrestr o dan adran 96(2) neu 97(2) o Ddeddf 2016.

Gweithwyr cymdeithasol sydd ar ymweliad a rheolwyr gofal cymdeithasol sydd ar ymweliad: arbed yr hen gyfraith

17.(1)(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan—

(a)     yn union cyn y diwrnod ymadael—

                            (i)    roedd gan berson fudd rheoliad 12 o Reoliadau’r Undeb Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2015([15]) mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau fel gweithiwr cymdeithasol neu reolwr gofal cymdeithasol gan y person hwnnw, a

                          (ii)    roedd adran 90(3) neu 90A(3) o Ddeddf 2016 yn gymwys i’r person, a

(b)     bo’r person yn parhau i gael y budd hwnnw ar neu ar ôl y diwrnod ymadael.

(2) Er gwaethaf y diwygiadau a wnaed gan Ran 1, mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2016 yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas â darparu’r gwasanaethau hynny gan y person hwnnw ar ac ar ôl y diwrnod ymadael, fel yr oeddent yn gymwys cyn y diwrnod hwnnw, yn ddarostyngedig i’r addasiadau a bennir yn rheoliad 18 (dehongli darpariaethau sydd wedi eu harbed)—

(a)     yn adran 66(1) (dehongli Rhannau 3 i 8), y diffiniadau o “gwladolyn”, “Gwladwriaeth Ewropeaidd berthnasol”, “person esempt”, “rhan gweithwyr cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad”, “rhan rheolwyr gofal cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad” ac “y Rheoliadau Systemau Cyffredinol”;

(b)     adran 74(3) (rheolau: ffioedd);

(c)     yn adran 80, is-adrannau (1)(c) a (d), (2)(c) a (d) a (3)(c) a (d) (y gofrestr);

(d)     adran 90 (gweithwyr cymdeithasol sydd ar ymweliad o Wladwriaethau Ewropeaidd perthnasol);

(e)     adran 90A (rheolwyr gofal cymdeithasol sydd ar ymweliad o Wladwriaethau Ewropeaidd perthnasol);

(f)      adran 113(3) i (5) (datblygiad proffesiynol parhaus).

(3) Mae paragraff (2) yn cael effaith tan—

(a)     yn achos person sydd wedi ei gofrestru yn unol ag adran 90(3) neu 90A(3) o Ddeddf 2016, y diwrnod y caiff enw’r person ei ddileu o’r gofrestr o dan adran 90(6) neu 90A(6) o’r Ddeddf honno yn ôl y digwydd;

(b)     yn achos person sy’n cael ei drin fel pe bai wedi ei gofrestru o dan adran 90(4) neu 90A(4) o’r Ddeddf honno, y diwrnod y mae hawlogaeth y person i gael ei gofrestru o dan adran 90(3) neu 90A(3) o Ddeddf 2016 yn peidio yn rhinwedd adran 90(5) neu 90A(5) o’r Ddeddf honno yn ôl y digwydd.

Dehongli darpariaethau sydd wedi eu harbed gan reoliad 17(2)

18. I’r graddau y mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2016 yn parhau i fod yn gymwys yn rhinwedd rheoliad 17(2), maent yn gymwys gyda’r addasiadau a ganlyn—

(a)     yn adran 90 (gweithwyr cymdeithasol sydd ar ymweliad o Wladwriaethau Ewropeaidd perthnasol)—

                            (i)    mae is-adran (1) i’w darllen fel pe bai “ac eithrio’r Deyrnas Unedig” wedi ei hepgor;

                          (ii)    mae is-adran (8) i’w darllen fel pe bai’r diffiniadau a ganlyn wedi eu rhoi yn lle’r diffiniadau o “person esempt” a “y Rheoliadau Systemau Cyffredinol”—

ystyr “person esempt” (“exempt person”) yw—

(a)   person a oedd, yn union cyn y diwrnod ymadael, yn wladolyn o Wladwriaeth Ewropeaidd berthnasol,

(b)   person a oedd, yn union cyn y diwrnod ymadael, yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig ac, ar yr adeg honno, yn ceisio cael mynediad at waith cymdeithasol, neu waith fel rheolwr gofal cymdeithasol, neu’n dilyn y gwaith hwnnw, yn rhinwedd hawl UE orfodadwy, neu

(c)   person nad oedd, yn union cyn y diwrnod ymadael, yn wladolyn o Wladwriaeth Ewropeaidd berthnasol, ond a oedd, ar yr adeg honno, yn rhinwedd hawl UE orfodadwy, â hawlogaeth i beidio â chael ei drin, at ddibenion cael mynediad at waith cymdeithasol neu waith fel rheolwr gofal cymdeithasol a dilyn y gwaith hwnnw, yn llai ffafriol na gwladolyn o Wladwriaeth Ewropeaidd berthnasol,

ac at ddibenion y diffiniad hwn, ystyr “hawl UE orfodadwy” (“enforceable EU right”) yw hawl a gydnabyddir ac sydd ar gael mewn cyfraith ddomestig, yn union cyn y diwrnod ymadael, yn rhinwedd adran 2(1) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68);”;

ystyr “y Rheoliadau Systemau Cyffredinol” (“the General Systems Regulations”) yw Rheoliadau’r Undeb Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2015 (O.S. 2015/2059)

(a)   mewn perthynas ag unrhyw beth a wneir cyn y diwrnod ymadael, fel yr oeddent yn cael effaith ar yr adeg honno;

(b)   fel arall, fel y maent yn cael effaith (a dim ond i’r graddau y maent yn cael effaith), ar neu ar ôl y diwrnod ymadael, mewn perthynas â hawlogaeth a gododd cyn y diwrnod ymadael neu sy’n codi o ganlyniad i rywbeth a wneir cyn y diwrnod ymadael.;

(b)     yn adran 90A (rheolwyr gofal cymdeithasol sydd ar ymweliad o Wladwriaethau Ewropeaidd perthnasol), mae is-adran (1) i’w darllen fel pe bai “ac eithrio’r Deyrnas Unedig” wedi ei hepgor.

Rhybuddion System Wybodaeth y Farchnad Fewnol (IMI)

19.(1)(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan—

(a)     bo person, cyn y diwrnod ymadael, yn cael hysbysiad o benderfyniad a wneir o dan reoliad 67 o Reoliadau’r Undeb Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2015 i anfon rhybudd ynglŷn â’r person, a

(b)     naill ai—

                            (i)    bo’r terfyn amser ar gyfer apelio yn erbyn y penderfyniad o dan adran 105(1)(c) o Ddeddf 2016 yn dod i ben ar neu ar ôl y diwrnod ymadael, neu

                          (ii)    bo apêl yn erbyn y penderfyniad o dan yr adran honno yn cael ei gwneud, ond ni phenderfynir yn derfynol arni, cyn y diwrnod ymadael.

(2) Er gwaethaf y diwygiadau a wnaed gan Ran 1, mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2016 yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas â’r penderfyniad ar ac ar ôl y diwrnod ymadael fel yr oeddent yn gymwys cyn y diwrnod ymadael—

(a)     yn adran 66(1), y diffiniad o “y Rheoliadau Systemau Cyffredinol”;

(b)     yn adran 90(8), y diffiniad o “y Rheoliadau Systemau Cyffredinol”;

(c)     adran 105(1) (ond nid paragraffau (a) a (b) o’r is-adran honno ac yn ddarostyngedig i’r addasiad a bennir ym mharagraff (3) o’r rheoliad hwn).

(3) At ddibenion paragraff (2)(c), mae adran 105(1)(c) o Ddeddf 2016 i’w darllen fel pe bai “Rheoliadau Systemau Cyffredinol (fel yr oeddent yn cael effaith ar yr adeg y gwnaed penderfyniad GCC([16]))” wedi ei roi yn lle “Rheoliadau hynny”.

(4) Wrth waredu apêl yn erbyn y penderfyniad ar neu ar ôl y diwrnod ymadael, mae gan y tribiwnlys (yn lle’r pwerau a bennir yn adran 105(5) o Ddeddf 2016) y pŵer—

(a)     i gadarnhau’r penderfyniad, neu

(b)     os yw’r tribiwnlys yn ystyried y dylai’r rhybudd gael ei dynnu’n ôl neu ei ddiwygio, i gyfarwyddo Gofal Cymdeithasol Cymru i gymryd unrhyw gamau y mae’r tribiwnlys yn meddwl eu bod yn addas i hysbysu’r Comisiwn Ewropeaidd am benderfyniad y tribiwnlys.

 

 

Julie Morgan

Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

Dyddiad

 



([1])   2018 p. 16.

([2])   2016 dccc 2.

([3])   Mewnosodwyd y diffiniadau “rhan gweithwyr cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad” a “rhan rheolwyr gofal cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad” gan O.S. 2016/1030, rheoliad 121(2).

([4])   Amnewidiwyd “rhan gweithwyr cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad neu’r rhan rheolwyr gofal cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad” gan O.S. 2016/1030, rheoliad 123.

([5])   Gwnaed diwygiadau perthnasol gan O.S. 2016/1030, rheoliad 127(2), (3) a (4).

([6])   Gwnaed diwygiadau perthnasol gan O.S. 2016/1030, rheoliad 129(2) a (3).

([7])   Mewnosodwyd “- gweithwyr cymdeithasol” ym mhennawd yr adran gan O.S. 2016/1030, rheoliad 131(2).

([8])   Mewnosodwyd gan O.S. 2016/1030, rheoliad 133.

([9])   Gwnaed diwygiadau perthnasol gan O.S. 2016/1030, rheoliad 135.

([10]) Mewnosodwyd gan O.S. 2016/1030, rheoliad 137.

([11]) Gwnaed diwygiadau perthnasol gan O.S. 2016/1030, rheoliad 139.

([12]) Gwnaed diwygiadau perthnasol gan O.S. 2016/1030, rheoliad 141.

([13]) Amnewidiwyd “rhan gweithwyr cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad neu’r rhan rheolwyr gofal cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad” gan O.S. 2016/1030, rheoliad 143(2).

([14]) 1983 p. 20; mewnosodwyd adran 130H gan Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 (mccc 7), adran 34. Diwygiwyd is-adran (7)(b) o adran 130H gan Ddeddf 2016, Atodlen 3, paragraff 39.

([15]) O.S. 2015/2059.

([16]) Gweler adran 67(3) o Ddeddf 2016 am y diffiniad o Ofal Cymdeithasol Cymru (“GCC”).