Mae’r Pwyllgor yn cyflwyno’r adroddiad a ganlyn i’r Cynulliad:
Offerynnau nad ydynt yn cynnwys unrhyw faterion i’w codi o dan
Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
Offerynnau’r weithdrefn penderfyniad negyddol
CLA152 - Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) 2012
Gweithdrefn: Negyddol
Fe’i gwnaed: 19 Mai 2012
Fe’i gosodwyd: 22 Mai 2012
Yn dod i rym: yn unol ag erthygl 1(1)
CLA153 - Gorchymyn Moch Daear (Ardal Reoli) (Cymru) (Dirymu) 2012
Gweithdrefn: Negyddol
Fe’i gwnaed: 23 Mai 2012
Fe’i gosodwyd: 25 Mai 2012
Yn dod i rym: 15 Mehefin 2012
Offerynnau’r weithdrefn penderfyniad cadarnhaol
Dim
Offerynnau’r weithdrefn penderfyniad uwchgadarnhaol
CLA155 - Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012
Gweithdrefn: Uwchgadarnhaol
Fe’i gwnaed: 2012
Fe’i gosodwyd: Ni nodwyd y dyddiad gosod
Yn dod i rym: gweler erthygl 1
Trafododd y Pwyllgor CLA155 - Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 a chytunodd i graffu arno ymhellach yn y cyfarfod a gynhelir ar 25 Mehefin 2012. Hefyd, cytunodd y Pwyllgor i gyfeirio’r Gorchymyn hwn i’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd er mwyn iddo graffu arno ymhellach.
Offerynnau sy’n cynnwys materion i’w codi o dan Reol Sefydlog
21.2 neu 21.3
Offerynnau’r weithdrefn penderfyniad negyddol
CLA151 - The Education (Student Loans) (Repayment) (Amendment) (No.2) Regulations 2012 (Saesneg yn unig)
Gweithdrefn: Negyddol
Fe’u gwnaed: 16 Mai 2012
Fe’u gosodwyd gerbron Senedd y DU:21 Mai 2012
Fe’u gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 21 Mai 2012
Yn dod i rym: 18 Mehefin 2012
Offerynnau’r weithdrefn penderfyniad cadarnhaol
Dim
Busnes arall
Ymchwiliadau pwyllgor: ymchwiliad i sefydlu awdurdodaeth ar wahân i Gymru:
Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth lafar gan Mr Winston Roddick, CB, QC. Cytunwyd y byddai nodyn cyfeirio’n cael ei ddarparu ar gyfer y papur ychwanegol sy’n atodiad i dystiolaeth Winston Roddick ynghylch cyfreithiau gwahanol i Gymru.
Penderfyniad i gyfarfod yn breifat
Yn unol â Rheol Sefydlog 17.42(vi), penderfynodd y Pwyllgor i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod i drafod y dystiolaeth a gyflwynwyd hyd yma ar gyfer yr ymchwiliad i sefydlu awdurdodaeth ar wahân i Gymru.
Eluned Parrott AC
Cadeirydd dros dro y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
11 Mehefin 2012
Atodiad 1
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
(CLA(4)-13-12)
CLA151
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Teitl: The Education (Student Loans) (Repayment) (Amendment) (No.2) Regulations 2012 (Saesneg yn unig)
Gweithdrefn: Negyddol
Mae’r Rheoliadau cyfansawdd hyn, sy’n gymwys i Gymru a Lloegr yn unig (ac eithrio Rheoliad 11 sy’n gymwys i’r Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd) yn diwygio ymhellach y Rheoliadau, The Education (Student Loans) (Repayment) Regulations 2009 (OS 2009/470). Mae’r gwelliannau yn cyflwyno newidiadau i’r system ad-dalu a lefel y llog y bydd benthyciadau dibynnol ar incwm i fyfyrwyr yn ei chronni yn achos unigolion sydd wedi dechrau eu hastudiaethau ar ôl y flwyddyn academaidd 2012/13.
Materion technegol: craffu
O dan Reol Sefydlog 21.2, bydd y Cynulliad yn cael ei wahodd i roi sylw arbennig i’r offeryn hwn:-
Mae’r Rheoliadau hyn wedi’u paratoi yn Saesneg yn unig.
(Rheol Sefydlog 21.2 (ix) nad yw wedi’i wneud neu i’w wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg).
Rhinweddau: craffu
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn ar hyn o bryd.
Eluned Parrott AC
Cadeirydd dros dro y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
11 Mehefin 2012
Mae’r Llywodraeth wedi ymateb fel a ganlyn:
Rheoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) (Diwygio) (Rhif 2) 2012
Bydd y Rheoliadau cyfansawdd hyn yn gymwys i Gymru a Lloegr ac maent yn ddarostyngedig i weithdrefn penderfyniad negyddol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ac yn nau dŷ Senedd y DU. Oherwydd y bydd y Rheoliadau hyn yn ddarostyngedig i graffu gan Senedd y DU, nid ystyrir ei bod hi’n rhesymol ymarferol i’r offeryn hwn gael ei osod, na’i wneud, yn ddwyieithog.