GWEINIDOGION Y DU SY’N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG
|
|
51 - Rheoliadau Darpariaethau Cyffredin y Cronfeydd Strwythurol a’r Cronfeydd Buddsoddi Ewropeaidd (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018 Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 29 Tachwedd 2018 |
|
Sifftio |
|
A fydd angen sifftio yn Senedd y DU? |
Bydd |
Gweithdrefn: |
Negyddol arfaethedig |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Ty’r Cyffredin |
11 Rhagfyr 2017 |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-deddfwriaeth Ty’r Arglwyddi |
w/c 10 Rhagfyr 2018 |
Dyddiad y daw’r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU |
18 Rhagfyr 2018 |
Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: |
Papur 45 |
Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol) |
Nid yw’n ofynnol |
Gweithdrefn graffu |
|
Canlyniad y broses sifftio |
Ddim yn hysbys |
Y weithdrefn |
Negyddol neu Gadarnhaol |
Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol |
Ddim yn hysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ’r Cyffredin |
Ddim yn hysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-deddfwriaeth Tŷ’r Arglwyddi |
Ddim yn hysbys |
Sylwadau
Mae’r offeryn hwn yn mynd i’r afael â methiannau cyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol, a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y DU â’r UE. Mae’n ymdrin â chywiriadau sy’n dechnegol eu natur ac nad ydynt yn gwneud unrhyw newidiadau polisi sylweddol, yn hytrach mae cywiriadau yn addasu Rheoliadau’r UE a ddargedwir i ymgorffori termau newydd (y cytunwyd arnynt) i sicrhau y bydd rhaglenni Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD) a Chronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop (EMFF) yn parhau i gael eu hariannu ar gyfer gweddill y rhaglen 2014 i 2020, os nad oes dim bargen.
Mae Cynghorwyr Cyfreithiol yn nodi nad yw datganiad Llywodraeth Cymru dyddiedig 4 Rhagfyr 2018 yn sôn bod yr offeryn hefyd yn diwygio darpariaethau sy’n caniatáu i raglenni a ariennir ar hyn o bryd gan Gronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop barhau i gael arian os nad oes dim bargen.
Mae’r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i’r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith.
Nid yw’r Cynghorwyr Cyfreithiol yn ystyried bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 y Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn.
Nid yw’r Cynghorwyr Cyfreithiol wedi nodi unrhyw reswm cyfreithiol dros ofyn am gynnig cydsyniad o dan Reol Sefydlog 30A.10 mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn.
|