GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG
|
|
57 - Rheoliadau Marchnata Hadau a Deunyddiau Lluosogi Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru a Lloegr) (Ymadael â’r UE) 2018 Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 5 Rhagfyr 2018 |
|
Sifftio |
|
A fydd angen sifftio yn Senedd y DU? |
Bydd |
Gweithdrefn: |
Negyddol arfaethedig |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Ty'r Cyffredin |
18 Rhagfyr 2018 |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-deddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
W/C 17 Rhagfyr 2018 |
Dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU |
7 Ionawr 2019 |
Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: |
Papur 51 |
Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol) |
Nid yw'n ofynnol |
Gweithdrefn graffu |
|
Canlyniad y broses sifftio |
Ddim yn hysbys |
Y weithdrefn |
Negyddol neu Gadarnhaol |
Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol |
Ddim yn hysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin |
Ddim yn hysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-deddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Ddim yn hysbys |
Sylwadau
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio nifer o reoliadau domestig sy’n ymwneud â marchnata hadau a deunyddiau lluosogi planhigion. Yn benodol, mae’r Rheoliadau yn gwneud llawer o ddiwygiadau i Reoliadau Marchnata Deunyddiau Planhigion Llysieuol 1995, Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Lluosogi Planhigion Addurniadol 1999, a diwygiadau i dair cyfres arall o reoliadau sy’n gymwys i Loegr yn unig.
Effaith y Rheoliadau hyn yw galluogi rheoliadau domestig i barhau i weithredu ar ôl ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd. Mae’r Rheoliadau yn cynnwys darpariaethau trosiannol ac yn gwneud gwelliannau technegol, ac nid ydynt yn gweithredu polisi newydd.
Mae Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru, dyddiedig 10 Rhagfyr 2018, ynghylch effaith y Rheoliadau hyn. Mae'r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith.
Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn ystyried bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 y Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.
Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol wedi nodi unrhyw reswm cyfreithiol dros ofyn am gynnig cydsyniad o dan Reol Sefydlog 30A.10 mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.
|