56 - GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG 

 

 

Rheoliadau Hawliau Bridwyr Planhigion (Diwygio etc.) (Ymadael â'r UE) 2018

Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 5 Rhagfyr 2018 

Sifftio

A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU?

Bydd

Gweithdrefn:

Negyddol arfaethedig

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

18 Rhagfyr 2018

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

W/C 17 Rhagfyr 2018

Y dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

7 Ionawr 2019

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Papur 49

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Ddim yn ofynnol

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Ddim yn hysbys 

Y weithdrefn

Negyddol neu Gadarnhaol

Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol

Ddim yn hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin

Ddim yn hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Ddim yn hysbys

Sylwadau

 

 

Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, a pharagraff 21 o Atodlen 7 i'r Ddeddf honno.

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud ystod o ddiwygiadau i ddeddfwriaeth ym maes hawliau amrywogaethau planhigion ("PVR") o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd. Mae PVR yn fath o eiddo deallusol a grëwyd yn benodol i warchod amrywogaethau newydd o blanhigion.

 

Mae Confensiwn yr Undeb Ryngwladol yn 1991 ar gyfer Gwarchod Amrywogaethau Newydd o Blanhigion (y "Confensiwn UPOV") yn rhoi sylfaen ryngwladol i ddiogelu PVR. Mae'r DU a'r UE ill dau wedi llofnodi'r Confensiwn UPOV yn annibynnol ar ei gilydd.

 

Mae Deddf Amrywogaethau Planhigion 1997 yn gweithredu rhwymedigaethau'r DU o dan y Confensiwn UPOV ac yn darparu ar gyfer diogelu PVR yn y DU. Mae Rheoliad y Cyngor EC 2100/94 ar PVR Cymunedol a'i reoliadau gweithredu yn pennu un system ar gyfer diogelu PVR yn yr UE. Mae'r Rheoliad hwnnw hefyd yn sefydlu'r Swyddfa Amrywogaeth Planhigion Cymunedol (y "CPVO") er mwyn gweithredu system yr UE.

 

Ni fydd gan y CPVO unrhyw swyddogaeth yn y DU yn dilyn ei ymadawiad â'r UE, ac ni fydd y DU yn cydnabod unrhyw PVR a bennwyd gan CPVO. Gwneir y Rheoliadau hyn felly i sicrhau bod PVR yn cael ei ddiogelu'n barhaus yn y DU os cafodd ei bennu'n PVR gan y CPVO cyn 29 Ionawr 2019.

 

Effaith y Rheoliadau fydd diogelu PVR cyfredol yr UE fel pe bai wedi cael ei bennu o dan Ddeddf Amrywogaethau Planhigion 1997. Mae'r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn cynnwys dirymu cyfres o gyfreithiau'r UE a ddargedwir yn y maes hwn, darparu ar gyfer PVR cyfredol yr UE sydd mewn grym yn y DU, gwneud darpariaethau pontio ar gyfer ceisiadau cyfredol ar gyfer PVR yr UE, a diwygio Deddf Amrywogaethau Planhigion 1997 ynghyd ag is-ddeddfwriaeth ddomestig i fynd i'r afael â bylchau yn y gyfraith sy'n deillio o ymadawiad y DU â'r UE.

 

Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn gwneud y sylwadau a ganlyn mewn perthynas â datganiad Llywodraeth Cymru dyddiedig 10 Rhagfyr 2018 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.

  1. Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 572/2008 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1238/95 o ran lefel y ffi flynyddol a'r ffioedd sy'n ymwneud ag
  2. archwiliadau technegol, sy'n daladwy i'r CPVO, a'r dull o dalu, nas cyfeirir ato yn natganiad Llywodraeth Cymru;
  3. Mae datganiad Llywodraeth Cymru yn dweud bod y Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliad Gweithredu (UE) 2017/1454, a oedd yn pennu'r fformat technegol i Aelod-wladwriaethau gyflwyno adroddiad. Fodd bynnag, ni chaiff y Rheoliad hwnnw ei ddirymu gan y Rheoliadau hyn;
  4. Mae datganiad Llywodraeth Cymru yn dweud bod y Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliad Gweithredu (UE) 2016/145 a oedd yn mabwysiadu fformat y ddogfen sy'n gweithredu fel tystiolaeth ar gyfer y drwydded a ddyroddwyd gan awdurdodau cymwys yr Aelod-wladwriaethau. Fodd bynnag, ni chaiff y Rheoliad hwnnw ei ddirymu gan y Rheoliadau hyn;
  5. Mae datganiad Llywodraeth Cymru yn dweud bod y Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (UE) 2018/968 a oedd yn nodi'r fethodoleg ar gyfer cynnal asesiadau risg ar gyfer rhywogaeth oresgynnol estron. Fodd bynnag, ni chaiff y Rheoliad hwnnw ei ddirymu gan y Rheoliadau hyn; ac
  6. Rydym yn nodi sylwadau Llywodraeth Cymru bod y Rheoliadau hyn yn gosod swyddogaethau ar y Rheolwr PVR, ac y byddai swyddogaethau o'r fath yn ymwneud â pharagraff 10 o Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Mae gan y Cynulliad gymhwysedd deddfwriaethol ym maes eiddo deallusol sy'n ymwneud ag amrywogaethau o blanhigion a hadau. Fodd bynnag, os byddai'r Cynulliad yn dymuno deddfu i addasu neu ddileu un o swyddogaethau Rheolwr PVR, sy'n awdurdod cyhoeddus at ddibenion paragraff 10 o Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, bydd arno angen cydsyniad Llywodraeth y DU i wneud hynny.

 

Mae'r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith ac i ba raddau y byddai'r Rheoliadau hyn yn creu polisi newydd mewn meysydd datganoledig.

 

Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn ystyried bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 y Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.

 

Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol wedi nodi unrhyw reswm cyfreithiol i geisio cynnig cydsyniad o dan Reol Sefydlog 30A.10 mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.

 

Fodd bynnag, o ystyried bod y Rheoliadau hyn yn diwygio Deddf Amrywogaethau Planhigion 1997, byddai'n dda gennym gael eglurhad gan Lywodraeth Cymru ynghylch ei rheswm dros beidio â chyflwyno memorandwm cydsyniad offeryn statudol ar gyfer y Rheoliadau hyn.