GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG
|
|
50 - Rheoliadau Bridio Anifeiliaid (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2018 Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 29 Tachwedd 2018 |
|
Sifftio |
|
A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU? |
Bydd |
Gweithdrefn: |
Negyddol arfaethedig |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin |
11 Rhagfyr 2018 |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Wythnos yn dechrau 17 Rhagfyr 2018 |
Y dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU |
18 Rhagfyr 2018 |
Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: |
Papur 43 |
Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol) |
Ddim yn ofynnol |
Gweithdrefn graffu |
|
Canlyniad y broses sifftio |
Ddim yn hysbys |
Y weithdrefn |
Negyddol neu Gadarnhaol |
Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol |
Ddim yn hysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin |
Ddim yn hysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Ddim yn hysbys |
Sylwadau
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i Reoliadau'r UE ym maes cyflyrau sootechnegol ac achyddol sy'n ymwneud ag anifeiliaid bridio pur a moch bridio hybrid, a chynhyrchion eginol yr anifeiliaid hyn. Mae'r ddarpariaeth a wneir yn y Rheoliadau yn amcanu i sicrhau bod modd parhau i weithredu deddfwriaeth yr UE a ddargedwir ar ôl i'r DU ymadael â'r UE. Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 4 Rhagfyr 2018 ynglŷn ag effaith y Rheoliadau hyn, ac eithrio'r ffaith y dylai'r cyfeiriad at “Rheoliad y Comisiwn (EC) 2016/1012” yn natganiad Llywodraeth Cymru ymddangos, yn hytrach, fel hyn: “Rheoliad (EU) 2016/1012 Senedd Ewrop a'r Cyngor”, fel y nodir yn y Rheoliadau. Mae’r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i’r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith.
Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn ystyried bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 y Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.
Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol wedi nodi unrhyw reswm cyfreithiol i geisio cynnig cydsyniad o dan Reol Sefydlog 30A.10 mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.
|