GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG
|
|
47 - Rheoliadau Cludo Sylweddau Ymbelydrol (Ymadael â'r EU) 2018 Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 29 Tachwedd 2018 |
|
Sifftio |
|
A fydd angen sifftio yn Senedd y DU? |
Oedd |
Gweithdrefn: |
Negyddol arfaethedig |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Ty'r Cyffredin |
11 Rhagfyr 2018 |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-deddfwriaeth Ty'r Arglwyddi |
Wythnos yn dechrau 10 Rhagfyr 2018 |
Dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU |
18 Rhagfyr 2018 |
Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: |
Papur 37 |
Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol) |
Nid yw'n ofynnol |
Gweithdrefn graffu |
|
Canlyniad y broses sifftio |
Ddim yn hysbys |
Y weithdrefn |
Negyddol neu Gadarnhaol |
Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol |
Ddim yn hysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ty'r Cyffredin |
Ddim yn hysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-deddfwriaeth Ty'r Arglwyddi |
Ddim yn hysbys |
Sylwadau
Mae'r offeryn statudol hwn yn cywiro methiannau cyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu o fewn Rheoliad 1493/93 Euratom ('y Rheoliad') ar gludo sylweddau ymbelydrol rhwng Aelod-wladwriaethau'r UE. Mae'r Rheoliad yn ei gwneud yn ofynnol i gludo sylweddau ymbelydrol rhwng Aelod-wladwriaethau gael ei reoli a'i ddogfennu. Ar y diwrnod ymadael (29 Mawrth 2019), bydd y Rheoliad yn dod yn gyfraith yr UE a ddargedwir yn awtomatig o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 ond ni fydd yn ymarferol. Mae'r offeryn statudol hwn yn dirymu'r Rheoliad ac yn ei ddisodli gyda darpariaethau tebyg fel bod methiannau a ddargedwir yn cael eu cywiro ac y gall y Rheoliadau barhau i weithredu fel y mae nhw nawr hyd y bo modd.
Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 3 Rhagfyr 2018 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn. Mae'r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith.
Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn ystyried bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 y Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.
Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol wedi nodi unrhyw reswm cyfreithiol i geisio cynnig cydsyniad o dan Reol Sefydlog 30A.10 mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.
|