GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG
|
|
Rheoliadau Datblygu Gwledig (Rheolau a Phenderfyniadau) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018 Dyddiad gosod yn Senedd y DU: |
|
Sifftio |
|
A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU? |
Ydy |
Gweithdrefn: |
Negyddol arfaethedig |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin |
11 Rhagfyr 2018 |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Wythnos yn dechrau 10 Rhagfyr 2018 |
Y dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU |
18 Rhagfyr 2018 |
Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: |
Papur 33 |
Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol) |
Nid yw'n ofynnol |
Gweithdrefn graffu |
|
Canlyniad y broses sifftio |
Ddim yn hysbys |
Y weithdrefn |
Negyddol neu Gadarnhaol |
Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol |
Ddim yn hysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin |
Ddim yn hysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Ddim yn hysbys |
Sylwadau
Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.
Mae'r Rheoliadau hyn (ynghyd â Rheoliadau Datblygu Gwledig (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018) yn diwygio cyfres o reoliadau'r UE ac yn gweithredu penderfyniadau sy'n berthnasol i raglenni a ariennir ar hyn o bryd gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD), er mwyn galluogi Rhaglenni Datblygu Gwledig y DU ar gyfer 2014-2020 i barhau i weithredu os bydd senario dim bargen ar ôl i'r DU ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.
Bydd y gwelliannau'n cywiro diffygion yng nghyfraith yr UE a ddargedwir sy'n deillio o'r DU yn ymadael â'r UE ac yn sicrhau y gellir parhau i wneud taliadau i fuddiolwyr o dan y rhaglenni hyn gan ddefnyddio cyllid domestig. Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 3 Rhagfyr 2018 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.
Mae'r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith ac i ba raddau y byddai'r Rheoliadau hyn yn creu polisi newydd mewn meysydd datganoledig.
Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn ystyried bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 y Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.
Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol wedi nodi unrhyw reswm cyfreithiol i geisio cynnig cydsyniad o dan Reol Sefydlog 30A.10 mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.
|