GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG 

 

 

44 – Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2018

Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 29 Tachwedd 2018

Sifftio

A fydd angen sifftio yn Senedd y DU?

Oedd

Gweithdrefn:

Negyddol arfaethedig

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Ty'r Cyffredin

11 Rhagfyr 2018

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-deddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Wythnos yn dechrau 10 Rhagfyr 2018

Dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

18 Rhagfyr 2018

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Papur 31

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Nid yw'n ofynnol

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Ddim yn hysbys 

Y weithdrefn

Negyddol neu Gadarnhaol

Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol

Ddim yn hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin

Ddim yn hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-deddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Ddim yn hysbys

Sylwadau

 

Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, a pharagraff 21 o Atodlen 7 i'r Ddeddf.

 

Gwneir y Rheoliadau hyn er mwyn mynd i'r afael â methiannau cyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu'n effeithiol, a diffygion eraill sy'n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â'r Undeb Ewropeaidd.

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud gwelliannau i Reoliad (UE) Rhif 1307/2013 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n sefydlu rheolau ar gyfer taliadau uniongyrchol i ffermwyr o dan gynlluniau cymorth o fewn fframwaith y polisi amaethyddol cyffredin.

 

Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 3 Rhagfyr 2018 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.

Mae'r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith.

Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn ystyried bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 y Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.

 

Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol wedi nodi unrhyw reswm cyfreithiol i geisio cynnig cydsyniad o dan Reol Sefydlog 30A.10 mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.