Cynulliad Cenedlaethol Cymru |
National Assembly for Wales |
Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau |
Economy, Infrastructure and Skills Committee |
Datblygu Trafnidiaeth Cymru yn y dyfodol |
The future development of Transport for Wales |
EIS(5) FDTfW14 |
|
Ymateb gan Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru |
Evidence from Older People’s Commissioner for Wales |
Diolch i chi am y cyfle i ymateb i'ch ymgynghoriad ynghylch röl Trafnidiaeth Cymru yn y dyfodol o ran darparu polisi trafnidiaeth, yn benodol yn gysylltiedig å'r cyfrifoldebau ychwanegol y dylai eu hysgwyddo a sut ddylai'r rhain integreiddio å röl Llywodraeth Cymru, Ilywodraeth leol ac awdurdodau trafnidiaeth rhanbarthol newydd.
Yn aml, ystyrir trafnidiaeth gyhoeddus a chymunedol fel elfen hanfodol gan bobl h9n, gan ddarparu mynediad at wasanaethau a chyfleusterau allweddol, yn enwedig i'r rhai syn byw mewn cymunedau gwledig. Hefyd, mae trafnidiaeth gyhoeddus a chymunedol yn gwneud cyfraniad sylweddol at iechyd a Iles pobl h9n, gan eu helpu i gynnal eu hannibyniaeth yn hirach a chymryd rhan mewn bywyd cymunedol.
Mae fy swyddfa i wedi cael cyfarfod gyda Thrafnidiaeth Cymru yn ddiweddar fel rhan o l i ffrwd waith integredig yn darparu trafnidiaeth ymatebol i alw, sy'n rhan o'i adolygiad o wasanaethau bws ledled Cymru. Mae'r profiad O'r gwaith hwn hyd yma wedi bod yn un o gydweithredu a bod yn agored, sydd wedi galluogi aelodau i rannu syniadau arloesol a helpu fel sail i ffordd integredig a chydweithredol ymlaen.
Bydd dull O'r fath o weithredu'n hanfodol yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod os ydym am wella trafnidiaeth gyhoeddus yn y ffyrdd a amlinellir yn ymgynghoriad Papur Gwyn Llywodraeth Cymru, 'Gwella trafnidiaeth gyhoeddus'[i], ac rydw i'n teimlo y bydd gan Drafnidiaeth Cymru röl allweddol i'w chwarae mewn gwireddu'r cynlluniau hynny.
Byddai cyfrifoldebau ar lefel Cyd-awdurdod Trafnidiaeth genedlaethol, yn gweithio ochr yn ochr ä'r Awdurdodau Trafnidiaeth Rhanbarthol newydd, yn ffordd resymegol ymlaen er mwyn elwa o sgiliau a phrofiad Trafnidiaeth Cymru. Byddai'r Cyd-awdurdod Trafnidiaeth a'r Awdurdodau Trafnidiaeth Rhanbarthol newydd yn elwa'n fawr o wybodaeth ac arbenigedd Trafnidiaeth Cymru'n gysylltiedig ä goruchwylio cynllunio rhwydwaith, caffael, rhyddfreinio, diweddaru a chanoli swyddogaeth swyddfa gefn a systemau tocynnau, a hwyluso gwaith partneriaeth.
Hefyd gallai profiad Trafnidiaeth Cymru o waith partneriaeth gydag awdurdodau Ileol arwain at fanteision eraill, fel sicrhau bod cynigion trafnidiaeth gyhoeddus yn cyd-fynd å chynlluniau a chynigion Ileol o dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, gan helpu i sicrhau bod pobl h9n yn gallu defnyddio llwybrau i gerddwyr a llwybrau eraill at safleoedd bws hwylus yn ddiogel a gyda hyder.