2019 Rhif (Cy. )

Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru a Lloegr

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Diogelu’r Arfordir, Cymru

Diogelu’r Amgylchedd, Cymru

RHEOLI PERYGL LLIFOGYDD, CYMRU

DŴR, Cymru a Lloegr

Rheoliadau Llifogydd a Dŵr (Diwygio) (Cymru a Lloegr) (Ymadael â’r UE) 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir ym mharagraff 1(1) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16), er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill yng nghyfraith yr UE a ddargedwir sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio is-ddeddfwriaeth ym maes diogelu’r amgylchedd, dŵr a llifogydd.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.


 

2019 Rhif (Cy. )

Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru a Lloegr

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Diogelu’r Arfordir, Cymru

Diogelu’r Amgylchedd, Cymru

RHEOLI PERYGL LLIFOGYDD, CYMRU

DŴR, Cymru a Lloegr

Rheoliadau Llifogydd a Dŵr (Diwygio) (Cymru a Lloegr) (Ymadael â’r UE) 2019

Gofynion sifftio wedi eu bodloni                ***

Gwnaed                                                 ***

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       ***

Yn dod i rym                                           ***

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018([1]).

Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno (sy’n ymwneud â gweithdrefn graffu briodol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llifogydd a Dŵr (Diwygio) (Cymru a Lloegr) (Ymadael â’r UE) 2019 a deuant i rym ar y diwrnod ymadael.

(2) Mae i ddiwygiad a wneir gan y Rheoliadau hyn yr un rhychwant a chymhwysiad â’r ddarpariaeth sy’n cael ei diwygio.

Diwygio Rheoliadau Tir Halogedig (Cymru) 2006

2. Yn rheoliad 3 o Reoliadau Tir Halogedig (Cymru) 2006([2])—

(a)     ailrifer y paragraff presennol yn baragraff (1) o’r rheoliad hwnnw;

(b)     yn is-baragraff (b)(ii) o baragraff (1) (fel y’i hailrifwyd), yn lle’r geiriau o “ardaloedd gwarchodedig” hyd at y diwedd (ond nid y “neu” terfynol), rhodder “ardaloedd gwarchodedig dyfroedd pysgod cregyn neu ddyfroedd ymdrochi, nid yw’r dyfroedd hynny yn bodloni’r amcanion amgylcheddol sy’n gymwys iddynt fel y nodir yn y cynllun rheoli basn afon perthnasol o dan Ran 6 o Reoliadau’r Amgylchedd Dŵr (Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2017([3])”.

(c)     ar ôl paragraff (1) (fel y’i hailrifwyd), mewnosoder—

(2) Yn y rheoliad hwn—

(a)   mae i “dŵr ymdrochi” yr un ystyr ag a roddir i “bathing water” yn Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013([4]);

(b)   ystyr “ardal warchodedig dyfroedd pysgod cregyn” yw crynofa ddŵr a ddynodir o dan reoliad 9 o Reoliadau’r Amgylchedd Dŵr (Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2017.

Diwygio Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Silwair, Slyri ac Olew Tanwydd Amaethyddol) (Cymru) 2010

3. Yn rheoliad 2(3) o Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Silwair, Slyri ac Olew Tanwydd Amaethyddol) (Cymru) 2010([5]), hepgorer y geiriau o “ac sy’n cael ei chydnabod” hyd at y diwedd.

Gorchymyn Llifogydd ac Erydu Arfordirol Atodol (Cymru) 2011

4. Yn erthygl 3 o Orchymyn Llifogydd ac Erydu Arfordirol Atodol (Cymru) 2011([6])—

(a)     ym mharagraff (3), yn lle “alluogi’r Deyrnas Unedig i gydymffurfio â’i rhwymedigaethau o dan y canlynol” rhodder “alluogi cydymffurfiaeth â’r ddeddfwriaeth([7]) a weithredai”;

(b)     yn lle paragraff (4)(a) rhodder—

(a) mae i “amcanion amgylcheddol” yr un ystyr ag a roddir i “environmental objectives” yn Rheoliadau’r Amgylchedd Dŵr (Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2017;.

Diwygio Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2013

5.(1) Mae Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2013([8]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 6—

(a)     ailrifer y paragraff presennol yn baragraff (1) o’r rheoliad hwnnw;

(b)     ar ôl paragraff (1) (fel y’i hailrifwyd), mewnosoder—

(2) Ym mharagraff (1), yn y diffiniad o “rhanddirymiad” (“derogation”) mae’r cyfeiriad at baragraff 2(b) o Atodiad III i Gyfarwyddeb y Cyngor 91/676/EEC([9]) i’w ddarllen fel pe bai’r trydydd is-baragraff wedi ei hepgor.

(3) At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at Gyfarwyddeb yr UE i’w ddarllen fel pe bai unrhyw gyfeiriad yn y Gyfarwyddeb honno at aelod-wladwriaeth mewn darpariaeth sy’n gosod rhwymedigaeth ar aelod-wladwriaeth, neu sy’n rhoi disgresiwn iddi, yn gyfeiriad at yr awdurdod a oedd, yn union cyn y diwrnod ymadael, yn gyfrifol am gydymffurfiaeth â’r rhwymedigaeth honno, neu am arfer y disgresiwn hwnnw, yng Nghymru.

(4) Ym mharagraff (3), ystyr yr “awdurdod” yw Corff Adnoddau Naturiol Cymru neu Weinidogion Cymru.

(3) Yn rheoliad 11—

(a)     ym mharagraff (2)(b), yn lle “Cyfarwyddeb y Cyngor 98/83/EC ar ansawdd dŵr a fwriedir ar gyfer ei yfed gan bobl”, rhodder “Reoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2017([10]) a Rheoliadau Cyflenwi Dŵr (Ansawdd Dŵr) 2018([11])”;

(b)     ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(4) Ym mharagraff (3)(a), mae’r cyfeiriad at Atodiad I i Gyfarwyddeb y Cyngor 91/676/EEC i’w ddarllen fel pe bai—

(a)   pob cyfeiriad ynddo at Erthygl 5 o’r Gyfarwyddeb honno yn gyfeiriadau at reoliadau 12, 13 a 14 i 46 o’r Rheoliadau hyn;

(b)   ym mhwynt A, paragraff 1, “a concentration of nitrates greater than 50mg/l” wedi ei roi yn lle’r geiriau o “more than” hyd at “Directive 75/440/EEC”.

(4) Yn rheoliad 47, ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(4) Fel rhan o’r adolygiad a gynhelir o dan y rheoliad hwn, rhaid i Weinidogion Cymru adolygu sefyllfa gyffredinol rhanddirymiadau a roddir o dan reoliad 13A yn erbyn—

(a)   meini prawf gwrthrychol, gan gynnwys—

                       (i)  presenoldeb, mewn parthau perygl nitradau dynodedig—

(aa)    tymhorau tyfu hir,

(bb)    cnydau sy’n amsugno lefel uchel o nitrogen, a

(cc)    priddoedd sydd â gallu eithriadol o uchel i ddadnitreiddio, a

                      (ii)  y dŵr glaw net mewn parthau perygl nitradau dynodedig;

(b)   yr amcanion a ganlyn—

                       (i)  lleihau llygredd dŵr a achosir neu a ysgogir gan nitradau o ffynonellau amaethyddol, a

                      (ii)  atal llygredd pellach o’r fath.

(5) Ar ôl rheoliad 48, mewnosoder—

Adroddiad gweithredu

48A.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru lunio adroddiad ar weithredu’r Rheoliadau hyn ar gyfer pob cyfnod perthnasol.

(2) Rhaid i adroddiad o dan baragraff (1) gynnwys—

(a)   manylion unrhyw gamau a gymerwyd i hybu arfer amaethyddol da;

(b)   y map a adneuwyd o dan reoliad 7(2), gyda datganiad sy’n rhoi manylion natur unrhyw ddiwygiadau i’r parth perygl nitradau dynodedig ers diwedd y cyfnod adrodd blaenorol, a’r rhesymau dros y diwygiadau hynny;

(c)   crynodeb o’r canlyniadau monitro o dan reoliad 11;

(d)   crynodeb o’r adolygiad diweddaraf a gynhaliwyd o dan reoliad 47.

(3) Rhaid cyhoeddi unrhyw adroddiad o dan baragraff (1)—

(a)   mewn unrhyw fodd y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol;

(b)   erbyn diwrnod olaf y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daw’r cyfnod perthnasol i ben.

(4) Yn y rheoliad hwn, ystyr “cyfnod perthnasol” yw’r cyfnod o bedair blynedd sy’n dechrau ag 1 Ionawr 2016 a phob cyfnod dilynol o bedair blynedd.

Diwygio Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2017

6.(1) Mae Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2017([12]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 2—

(a)     ailrifer y paragraff presennol yn baragraff (1) o’r rheoliad hwnnw;

(b)     ar ôl paragraff (1) (fel y’i hailrifwyd), mewnosoder—

(2) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at Gyfarwyddeb yr UE neu Gyfarwyddeb Euratom i’w ddarllen fel pe bai unrhyw gyfeiriad yn y Gyfarwyddeb honno at aelod-wladwriaeth mewn darpariaeth sy’n gosod rhwymedigaeth ar aelod-wladwriaeth, neu sy’n rhoi disgresiwn iddi, yn gyfeiriad naill ai at Weinidogion Cymru neu at yr awdurdod lleol gan ddibynnu ar ba un oedd, yn union cyn y diwrnod ymadael, yn gyfrifol am gydymffurfiaeth â’r rhwymedigaeth honno, neu am arfer y disgresiwn hwnnw, o ran Cymru.

(3) Yn rheoliad 6, ar ôl paragraff (5) mewnosoder—

(6) At ddibenion paragraff (4)(c), mae cyfeiriad at Erthyglau 7(1) ac 8 o Gyfarwyddeb 2000/60/EC([13]) i’w ddarllen yn unol â’r addasiadau a ganlyn—

(a)   fel pe bai unrhyw gyfeiriad at Atodiad 5 o’r Gyfarwyddeb honno yn gyfeiriad at yr Atodiad hwnnw fel y’i diwygiwyd gan Ran 1 o Atodlen 5 i Reoliadau’r Amgylchedd Dŵr (Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2017([14]);

(b)   yn Erthygl 8, fel pe bai—

                       (i)  ym mharagraff 1, y mewnoliad olaf wedi ei hepgor;

                      (ii)  ym mharagraff 2, y frawddeg gyntaf wedi ei hepgor;

                     (iii)  paragraff 3 wedi ei hepgor.

(4) Yn lle rheoliad 12(6), rhodder —

(6) Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi, mewn unrhyw fodd y maent yn ystyried ei fod yn briodol, sail unrhyw benderfyniad o dan baragraff (3) a’r ddogfennaeth a ddarperir o dan baragraff (5) sy’n ategu’r penderfyniad.

(5) Ar ôl rheoliad 23, mewnosoder—

Cyflwyno Adroddiad

23A.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru lunio a chyhoeddi adroddiad ar ansawdd dŵr a fwriedir ar gyfer ei yfed gan bobl, gyda’r nod o hysbysu defnyddwyr.

(2) Rhaid i adroddiad o dan baragraff (1)—

(a)   cael ei gyhoeddi mewn unrhyw fodd y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol;

(b)   cynnwys, o leiaf, wybodaeth am yr holl gyflenwadau dŵr unigol sy’n—

                       (i)  mwy na 1,000m³ y diwrnod ar gyfartaledd, neu

                      (ii)  gwasanaethu mwy na 5,000 o bersonau;

(c)   cwmpasu cyfnod o dair blwyddyn galendr.

(3) Rhaid i’r adroddiad cyntaf o dan y rheoliad hwn gwmpasu’r blynyddoedd 2017, 2018 a 2019 a rhaid iddo gael ei gyhoeddi erbyn 31 Rhagfyr 2021.

(4) Rhaid i adroddiadau dilynol o dan y rheoliad hwn gael eu cyhoeddi fesul ysbeidiau nad ydynt yn fwy na thair blynedd.

(5) Rhaid i unrhyw adroddiad a gyhoeddir o dan baragraff (1) hefyd fod ar gael ar wefan yr Arolygiaeth Dŵr Yfed.

Diwygio Rheoliadau Cyflenwi Dŵr (Ansawdd Dŵr) 2018

7.(1) Mae Rheoliadau Cyflenwi Dŵr (Ansawdd Dŵr) 2018([15]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 2, ar ôl paragraff (5) mewnosoder—

(6) In these Regulations, a reference to an EU or Euratom Directive is to be read as if any reference in that Directive to a member State in a provision imposing an obligation on, or providing a discretion to, a member State were to either the Welsh Ministers or local authority depending on which, immediately before exit day, was responsible for compliance with that obligation, or exercise of that discretion, in respect of England or Wales..

(3) Yn rheoliad 6(15), yn lle “communicate the grounds for the notification to the European Commission” rhodder “publish, in such manner as the Welsh Ministers consider appropriate, the grounds for the notification”.

(4) Yn rheoliad 9, ar ôl paragraff (12) mewnosoder—

(13) For the purposes of paragraph (11)(c), a reference to Articles 7(1) and 8 of Directive 2000/60/EC is to be read with the following modifications—

(a)   as if any reference to Annex 5 of that Directive were a reference to that Annex as modified by Part 1 of Schedule 5 to the Water Environment (Water Framework Directive) (England and Wales) Regulations 2017([16]);

(b)   in Article 8, as if—

                       (i)  in paragraph 1, the final indent were omitted;

                      (ii)  in paragraph 2, the first sentence were omitted;

                     (iii)  paragraph 3 were omitted.

(5) Yn rheoliad 23—

(a)     ym mharagraff (7) yn lle “further departure” rhodder “further two departures”;

(b)     hepgorer paragraffau (9) a (10).

(6) Yn rheoliad 31—

(a)     hepgorer paragraff 2(a);

(b)     ym mharagraff (2)(b), hepgorer “of an EEA state or Turkey”;

(c)     hepgorer paragraff (3)(b);

(d)     hepgorer paragraff (15).

(7) Yn rheoliad 39(1)(h), hepgorer “and (9) respectively”.

(8) Ar ôl rheoliad 39 mewnosoder—

Reporting

39A.—(1The Welsh Ministers must publish a report on the quality of water intended for human consumption, with the objective of informing consumers.

(2) A report under paragraph (1) must—

(a)   be published in such manner as the Welsh Ministers consider appropriate;

(b)   include, as a minimum, information on all individual supplies of water that—

                       (i)  exceed 1,000m³ a day as an average, or

                      (ii)  serve more than 5,000 persons;

(c)   cover a period of three calendar years.

(4) The first report under this regulation must cover the years 2017, 2018 and 2019 and be published by 31st December 2021.

(5) Subsequent reports under this regulation must be published at intervals not exceeding three years.

(6) Any report published under paragraph (1) must also be made available on the Drinking Water Inspectorate’s website.”

 

Enw

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

 

Dyddiad



(1)           2018 p. 16.

([2])           O.S. 2006/2989 (Cy. 278), a ddiwygiwyd gan O.S. 2012/283 (Cy. 47). Mae offerynnau diwygio eraill ond nid oes yr un ohonynt yn berthnasol.

([3])           O.S. 2017/407.

([4])           O.S. 2013/1675, a ddiwygiwyd gan O.S. 2018/575. Mae offerynnau diwygio eraill ond nid oes yr un ohonynt yn berthnasol.

([5])           O.S. 2010/1493 (Cy. 136), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([6])           O.S. 2011/2829 (Cy. 302), yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2013/755 (Cy. 90) a 2018/1216 (Cy. 249).

([7])           Mae’r ddeddfwriaeth a weithredai’r Gyfarwyddeb Cynefinoedd yn cynnwys O.S. 2017/1012. Mae’r ddeddfwriaeth a weithredai’r Gyfarwyddeb Adar Gwyllt yn cynnwys Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (p. 69) ac O.S. 2017/1012. Mae’r ddeddfwriaeth a weithredai’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr yn cynnwys O.S. 2003/3245, 2004/99 a 2017/407.

([8])           O.S. 2013/2506 (Cy. 245), yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2015/2020 (Cy. 308) a 2018/1216 (Cy. 249).

([9])           OJ Rhif L 375, 31.12.1991, t.1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1137/2008 (OJ Rhif L 311, 21.11.2008, t. 1).

([10])         O.S. 2017/1041 (Cy. 270), a ddiwygiwyd gan O.S. 2018/647 (Cy. 121).

([11])          O.S. 2018/647 (Cy. 121).

([12])         O.S. 2017/1041 (Cy. 270), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([13])         O.J. Rhif L 327, 22.12.2000, t. 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2014/101/EU (OJ Rhif L 311, 31.10.2014, t.32).

([14])         O.S. 2017/407, a ddiwygiwyd gan O.S. 2018/942.

([15])         O.S. 2018/647 (Cy. 121).

([16])         O.S. 2017/407, a ddiwygiwyd gan O.S. 2018/942.