2019 Rhif (Cy. )

YMADAEL Â’R UNDEB EWROPEAIDD, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid ac Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio deddfwriaeth ym maes iechyd anifeiliaid.  Maent yn diwygio deddfwriaeth ddomestig sy’n gwneud darpariaeth i orfodi—

(a)     Rheoliad Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (EC) Rhif 999/2001 sy’n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a dileu enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy penodol,

(b)     Rheoliad Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (EC) Rhif 1069/2009 sy’n gosod rheolau iechyd ynglŷn â sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynyhyrchion sy’n dod o anifeiliaid na fwriedir i bobl eu bwyta, ac

(c)     Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 142/2011 sy’n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1069/2009.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

2019 Rhif (Cy. )

YMADAEL Â’R UNDEB EWROPEAIDD, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid ac Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

Gofynion sifftio wedi eu bodloni                ***

Gwnaed                                                 ***

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       ***

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2)              

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018([1]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (sy’n ymwneud â gweithdrefn graffu briodol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid ac Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019.

(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar y diwrnod ymadael.

(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Gorfodi) (Cymru) 2014

2.Yn Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Gorfodi) (Cymru) 2014([2]), hepgorer rheoliad 10(6).

Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2018

3.(1)(1) Mae Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2018([3]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn Atodlen 2, hepgorer paragraffau 5(2)(c) a 5(2)(d).

(3) Yn Atodlen 6—

(a)     ym mharagraff 9(6), hepgorer “o drydedd wlad”;

(b)     ym mharagraff 12(4), hepgorer “o drydedd wlad”;

(c)     ym mharagraff 13(3), hepgorer “o drydedd wlad”;

(d)     ym mharagraff 15—

                            (i)    yn y pennawd, hepgorer “i drydydd gwledydd”;

                          (ii)    yn is-baragraff (1), yn lle “i drydedd wlad brotein” rhodder “protein”;

                        (iii)    yn is-baragraff (2), yn lle “i drydedd wlad gynhyrchion” rhodder “cynhyrchion”;

                        (iv)    yn is-baragraff (3), yn lle “i drydedd wlad brotein” rhodder “protein”.

(4) Yn Atodlen 7—

(a)     ym mharagraff 1, hepgorer “a osodir ar yr Aelod-wladwriaeth”;

(b)     ym mharagraff 8(3)—

                            (i)    ar ddiwedd paragraff (a), mewnosoder “neu”;

                          (ii)    ar ddiwedd paragraff (b), yn lle “; neu” rhodder “.”;

                        (iii)    hepgorer paragraff (c).

(c)     ym mharagraff (9)(3)(b)—

                            (i)    ar ddiwedd is-baragraff (i), mewnosoder “neu”;

                          (ii)    ar ddiwedd is-baragraff (ii), yn lle “; neu” rhodder “.”;

                        (iii)    hepgorer is-baragraff (iii);

(d)     ym mharagraff 15, hepgorer “At ddibenion pwynt 10.1 a phwynt 10.2 o Atodiad V,”.

(5) Yn Atodlen 8—

(a)     ym mharagraff 1, yn y pennawd ac yn is-baragraff (1), hepgorer “i drydydd gwledydd”;

(b)     ym mharagraff 2, yn y pennawd ac yn is-baragraff (1), hepgorer “i drydydd gwledydd”.

 

 

 

 

 

 

 

Enw

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

Dyddiad



([1])   2018 p. 16.

([2])   O.S. 2014/517 (Cy. 60)

([3])   O.S. 2018/968 (Cy. 195)