OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2019 Rhif (Cy. )
YMADAEL Â’R UNDEB EWROPEAIDD, CYMRU
anifeiliaid, cymru
IECHYD ANIFEILIAID
Rheoliadau Da Byw (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio is-ddeddfwriaeth, sy’n gymwys o ran Cymru, ym meysydd cofnodi, adnabod a symud da byw.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2019 Rhif (Cy. )
YMADAEL Â’R UNDEB EWROPEAIDD, CYMRU
ANIFEILIAID, CYMRU
IECHYD ANIFEILIAID
Rheoliadau Da Byw (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019
Gofynion sifftio wedi eu bodloni ***
Gwnaed ***
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ***
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018([1]) yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (sy’n ymwneud â gweithdrefn graffu briodol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.—(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Da Byw
(Cofnodion, Adnabod a Symud) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael
â’r UE) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar y diwrnod ymadael.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007
2.—(1)(1) Mae Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru)
2007([2]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1), ym mharagraff (a) o’r diffiniad o “pasbort gwartheg” yn lle “yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban o dan Erthygl 6(1) o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000” rhodder “o dan Atodlen 3 i’r Rheoliadau hyn, neu’r mesur cyfatebol yn Lloegr neu’r Alban”.
(3) Yn rheoliad 10(3)(f), yn lle “â chynrychiolydd o’r Comisiwn Ewropeaidd neu unrhyw berson arall” rhodder “ag unrhyw berson”.
(4) Yn Atodlen 1, hepgorer paragraff 8.
(5) Ym mharagraff 4 o Atodlen 2, yn y teitl ac yn is-baragraff (1), hepgorer “arall”.
Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2011
3.—(1)(1) Mae Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru)
2011([3]) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 8(2)(c), yn lle “masnachu neu allforio o fewn y Gymuned” rhodder “allforio”.
(3) Yn erthygl 10, yn lle “masnachu neu allforio o fewn y Gymuned” rhodder “allforio”.
Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2015
4.—(1)(1) Mae Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a
Symud) (Cymru) 2015([4]) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 2(1), yn y diffiniadau o “allforio”, “marc adnabod” a “dull adnabod”, hepgorer “arall”.
(3) Yn erthygl 32, yn y teitl ac ym mharagraffau (1) a (2), hepgorer “arall”.
(4) Yn erthygl 38(1)(g), hepgorer “â chynrychiolydd o’r Comisiwn Ewropeaidd gydag ef sy’n gweithredu at ddibenion Erthygl 12 o Reoliad y Cyngor, neu fynd”.
(5) Yn erthygl 41(d), hepgorer “arall”.
Enw
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
Dyddiad