OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2019 Rhif (Cy. )
YMADAEL Â’R UNDEB EWROPEAIDD, CYMRU
CYDRADDOLDEB, CYMRU
Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 11 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16), a pharagraff 1(1) o Atodlen 2 iddi, er mwyn ymdrin â methiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.
Mae rheoliad 2 yn diwygio diffiniadau yn Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2019 Rhif (Cy. )
ymadael â’r undeb ewropeaidd, cymru
CYDRADDOLDEB, CYMRU
Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019
Gofynion sifftio wedi eu bodloni ***
Gwnaed ***
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ***
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1
Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018([1]) (sy’n ymwneud â’r weithdrefn graffu briodol ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 11 o’r Ddeddf honno, a pharagraff 1(1) o Atodlen 2 iddi.
Enwi a chychwyn
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 a deuant i rym ar y diwrnod ymadael([2]).
Diwygio Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011
2. Yn rheoliad 18 (caffael cyhoeddus) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011([3]), ym mharagraff (3), yn lle “y Gyfarwyddeb Sector Cyhoeddus”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015([4])”.
Enw
Prif Weinidog Cymru
Dyddiad