UK MINISTERS ACTING IN DEVOLVED AREAS 

 

 

Rheoliadau Llongau Masnach a Thrafnidiaeth Arall (Diogelu'r Amgylchedd) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2018

Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 27 Tachwedd 2018

Sifftio

A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU?

Na fydd

Gweithdrefn:

Cadarnhaol

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

Amh.

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Anhysbys

Y dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

Amh.

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Papur 20

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Papur 21

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Amh. 

Y weithdrefn

Cadarnhaol

Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Anhysbys

Sylwadau

 

Bwriedir i'r Rheoliadau gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8 (1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

 

Mae'r Rheoliadau'n diwygio deddfwriaeth ddomestig a chyfraith yr UE a gedwir mewn perthynas â rhai agweddau trafnidiaeth ar ddeddfwriaeth asesiadau effaith amgylcheddol.  Maent hefyd yn diwygio rhai diffygion mân.  Mae'r ddeddfwriaeth yn gwneud cyfeiriadau amrywiol at Aelod-wladwriaethau'r UE a darpariaethau cyfraith yr UE.  Ni fydd modd gweithredu'r cyfeiriadau hynny pan fydd y DU yn ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.  Yn unol â hynny, bydd cyfeiriadau at Aelod-wladwriaethau yn dod yn gyfeiriadau at yr Ysgrifennydd Gwladol.

 

Mae Cynghorwyr Cyfreithiol yn gwneud y sylwadau a ganlyn mewn perthynas â datganiad Llywodraeth Cymru dyddiedig 29 Tachwedd 2018 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn: Nid yw'r datganiad yn esbonio y bydd cyfeiriadau at Aelod-wladwriaethau yn dod yn gyfeiriadau at yr Ysgrifennydd Gwladol. 

Mae'r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith ac i ba raddau y byddai'r Rheoliadau hyn yn creu polisi newydd mewn meysydd datganoledig.

 

Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn ystyried bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.

 

Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol wedi nodi unrhyw reswm cyfreithiol i geisio cynnig cydsyniad o dan Reol Sefydlog 30A.10 mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.