GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG
|
|
Rheoliadau'r Amgylchedd Morol (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2018 Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 20 Tachwedd 2018 |
|
Sifftio |
|
A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU? |
Bydd |
Gweithdrefn: |
Negyddol arfaethedig |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin |
4 Rhagfyr 2018 |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
yr wythnos sy'n dechrau ar 3 Rhagfyr 2018 |
Y dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU |
5 Rhagfyr 2018 |
Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: |
Papur 14 |
Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol) |
Papur 15 |
Gweithdrefn graffu |
|
Canlyniad y broses sifftio |
Anhysbys |
Y weithdrefn |
Negyddol neu Gadarnhaol |
Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol |
Anhysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin |
Anhysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Anhysbys |
Sylwadau
Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, a pharagraff 21(b) o Atodlen 7 i'r Ddeddf.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud newidiadau i'r ddeddfwriaeth a ganlyn:- - Cyfarwyddeb Fframwaith y Strategaeth Forol; - Rheoliadau'r Strategaeth Forol 2010; - Penderfyniad y Comisiwn (UE) 2017/848; - Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009; - Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) 2011.
Gan fod y rheoliadau hyn yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol, h.y. Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir, mae Llywodraeth Cymru wedi gosod memorandwm cydsyniad offeryn statudol o dan Reol Sefydlog 30A.2.
Mae angen y newidiadau hyn i sicrhau bod y ddeddfwriaeth uchod yn parhau i weithredu'n effeithiol ar ôl i'r DU adael yr UE. Mae'r newidiadau'n cynnwys newid cyfeiriadau at Aelod-wladwriaethau i gyfeiriadau at y DU neu gorff priodol yn y DU, newid cyfeiriadau at ddeddfwriaeth Gymunedol neu gyfraith yr UE i gyfeiriadau at gyfraith yr UE a gedwir, a newid o ofynion i hysbysu neu gyflwyno adroddiad i'r Comisiwn i ofynion i gyflwyno adroddiad cyhoeddus. Mae'r newidiadau hefyd yn sicrhau y bydd croesgyfeiriadau at Gyfarwyddeb Fframwaith y Strategaeth Forol, a deddfwriaeth arall yr UE, yn parhau i weithio ar ôl gadael.
Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 22 Tachwedd 2018 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.
Mae'r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith ac i ba raddau y byddai'r Rheoliadau hyn yn creu polisi newydd mewn meysydd datganoledig.
Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn ystyried bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 y Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.
Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol wedi nodi unrhyw reswm cyfreithiol i geisio cynnig cydsyniad o dan Reol Sefydlog 30A.10 mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.
|