GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG

 

 

Rheoliadau'r Amgylchedd Morol (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2018

Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 20 Tachwedd 2018

Sifftio

A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU?

Bydd

Gweithdrefn:

Negyddol arfaethedig

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

4 Rhagfyr 2018

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

yr wythnos sy'n dechrau ar 3 Rhagfyr 2018

Y dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

5 Rhagfyr 2018

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Papur 14

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Papur 15

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Anhysbys 

Y weithdrefn

Negyddol neu Gadarnhaol

Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Anhysbys

Sylwadau

 

Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, a pharagraff 21(b) o Atodlen 7 i'r Ddeddf.

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud newidiadau i'r ddeddfwriaeth a ganlyn:-

-     Cyfarwyddeb Fframwaith y Strategaeth Forol;

-     Rheoliadau'r Strategaeth Forol 2010;

-     Penderfyniad y Comisiwn (UE) 2017/848;

-     Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009;

-     Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) 2011.

 

Gan fod y rheoliadau hyn yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol, h.y. Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir, mae Llywodraeth Cymru wedi gosod memorandwm cydsyniad offeryn statudol o dan Reol Sefydlog 30A.2.

 

Mae angen y newidiadau hyn i sicrhau bod y ddeddfwriaeth uchod yn parhau i weithredu'n effeithiol ar ôl i'r DU adael yr UE. Mae'r newidiadau'n cynnwys newid cyfeiriadau at Aelod-wladwriaethau i gyfeiriadau at y DU neu gorff priodol yn y DU, newid cyfeiriadau at ddeddfwriaeth Gymunedol neu gyfraith yr UE i gyfeiriadau at gyfraith yr UE a gedwir, a newid o ofynion i hysbysu neu gyflwyno adroddiad i'r Comisiwn i ofynion i gyflwyno adroddiad cyhoeddus. Mae'r newidiadau hefyd yn sicrhau y bydd croesgyfeiriadau at Gyfarwyddeb Fframwaith y Strategaeth Forol, a deddfwriaeth arall yr UE, yn parhau i weithio ar ôl gadael.

 

Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 22 Tachwedd 2018 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.

 

Mae'r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith ac i ba raddau y byddai'r Rheoliadau hyn yn creu polisi newydd mewn meysydd datganoledig.

 

Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn ystyried bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 y Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.

 

Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol wedi nodi unrhyw reswm cyfreithiol i geisio cynnig cydsyniad o dan Reol Sefydlog 30A.10 mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.