GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG 

 

 

Rheoliadau Protocol 1 i Gytundeb yr AEE (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018

Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 29 Tachwedd 2018

Sifftio

A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU?

Bydd

Gweithdrefn:

Negyddol arfaethedig

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Ty'r Cyffredin

11 Rhagfyr 2018

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

wythnos yn dechrau10 Rhagfyr 2018

Dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

18 Rhagfyr 2018

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Papur 43

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Dim angen

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Ddim yn hysbys 

Y weithdrefn

Negyddol neu Gadarnhaol

Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol

Ddim yn hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ty'r Cyffredin

Ddim yn hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Ddim yn hysbys

Sylwadau

 

Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

 

Mae'r offeryn hwn yn gwneud diwygiadau cyfreithiol technegol cyfyngedig i Brotocol 1 i'r Cytundeb AEE, mecanwaith y mae cyfraith yr UE yn cael ei chymhwyso iddo ar hyn o bryd ac yn EFTA yr AEE. Ar ddiwrnod gadael, bydd Protocol 1 yn mudo i'r llyfr statud domestig ac yn dod yn rhan o'r corff newydd o gyfraith ddomestig a elwir yn 'ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a gedwir' ("RDEUL").

 

Er mwyn sicrhau bod Protocol 1 yn gweithredu'n iawn ar ôl gadael, mae'r offeryn hwn yn gwneud nifer o ddiwygiadau iddo i egluro bod Protocol 1 yn berthnasol i gyfraith yr UE yn unig, a ymgorfforir yn yr Atodiadau AEE, sy'n ffurfio rhan o RDEUL; bod unrhyw rwymedigaeth sy'n ddyledus i unrhyw Wladwriaethau'r UE, eu hendidau cyhoeddus, eu hymrwymiadau neu unigolion, neu unrhyw hawl a roddir iddynt, hefyd yn ddyledus i EFTA yr AEE neu ei roi arnynt, eu hasiantaethau cymwys, endidau cyhoeddus, ymgymeriadau neu unigolion; a bod rhai darpariaethau segur yn cael eu dileu.

 

Mae'r diwygiadau i Brotocol 1 yn egluro bod Protocol 1, gan ei fod yn rhan o gyfraith ddomestig, yn berthnasol i gyfraith yr UE yn unig, wedi'i ymgorffori yn yr Atodiadau AEE, sy'n ffurfio rhan o RDEUL. Mae hyn yn golygu na fydd Protocol 1 yn gosod rhwymedigaethau mwyach ar wladwriaethau neu o fewn gwladwriaethau EFTA, y Comisiwn, Awdurdod Goruchwylio'r AEE neu'r Cydbwyllgor gan nad yw RDEUL yn gallu gorfodi rhwymedigaethau ar unrhyw drydydd parti y tu allan i'r DU.

 

Mae Cynghorwyr Cyfreithiol yn gwneud y sylwadau canlynol mewn perthynas â datganiad Llywodraeth Cymru dyddiedig 30 Tachwedd 2018 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn:

Mae paragraff 10.2 y Memorandwm Esboniadol yn nodi, yn unol â'r Cytundeb Rhynglywodraethol ar Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 ("EUWA"), yr ymgynghorwyd â Llywodraeth Cymru ynghylch y Rheoliadau hyn. Rhoddodd Llywodraeth Cymru ganiatâd i lywodraeth y DU, mewn llythyr gan Mark Drakeford AC dyddiedig 27 Tachwedd 2018. Er gwaethaf y gofyniad i ymgynghori, nid yw datganiad Llywodraeth Cymru yn nodi pa bwerau deddfwriaethol y Cynulliad neu bwerau gweithredol Gweinidogion Cymru y mae'r offeryn hwn yn effeithio arnynt. Mewn gwirionedd, ymddengys bod yr offeryn yn ymwneud â meysydd nad ydynt wedi eu datganoli. Mae cynghorwyr cyfreithiol yn argymell y dylid ceisio eglurhad ynghylch pa bwerau datganoledig yr effeithir arnynt.

 

Er bod datganiad Llywodraeth Cymru yn nodi nad oes unrhyw wahaniaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar y polisi ar gyfer cywiro, nid yw'r datganiad yn dangos i ba raddau y mae'r offeryn hwn yn effeithio ar feysydd datganoledig, ac i ba raddau roedd angen caniatâd gan Lywodraeth Cymru. Yr unig beth ddywed y datganiad yw bod caniatâd wedi'i roi am resymau effeithlonrwydd, hwylustod ac oherwydd natur dechnegol y gwelliannau.

 

Mae'r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith.

 

Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn ystyried bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 y Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.

 

Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol wedi nodi unrhyw reswm cyfreithiol i geisio cynnig cydsyniad o dan Reol Sefydlog 30A.10 mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.