Sylwadau
Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU
o dan adran 8(1), a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb
Ewropeaidd (Ymadael) 2018.
Mae'r Rheoliadau yn diwygio deddfwriaeth uniongyrchol a gedwir
gan yr UE sy'n ymwneud ag ansawdd aer, er mwyn sicrhau ei fod yn
parhau i weithredu'n effeithiol yn dilyn ymadawiad y Deyrnas Unedig
â'r Undeb Ewropeaidd. Mae hyn yn cynnwys mynd i'r afael
â diffygion, megis cyfeiriadau at awdurdodau'r UE (ee y
Comisiwn) yn cael eu disodli gan awdurdodau domestig
cyfatebol.
Mae Cynghorwyr Cyfreithiol yn gwneud y sylwadau canlynol mewn
perthynas â datganiad Llywodraeth Cymru dyddiedig 27 Tachwedd
2018 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn:
-
Mae'r cyfeiriad yn y datganiad i'r gyfraith a gaiff ei diwygio
gan y Rheoliadau yn anghywir. Mae'r Rheoliadau yn diwygio a
diddymu'r ddeddfwriaeth uniongyrchol Ewropeaidd ganlynol a gedwir
yn ôl:-
-
Rheoliad (EC) Rhif 166/2006 Senedd Ewrop a'r Cyngor ynghylch
sefydlu Cofrestr Ewropeaidd Gollwng a Throsglwyddo
Llygryddion
-
Penderfyniad 2004/279/EC ynghylch canllawiau ar gyfer
gweithredu Cyfarwyddeb 2002/3/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor yn ymwneud
ag osôn mewn awyr amgylchynol
-
Penderfyniad 2011/850/UE sy'n gosod rheolau ar gyfer
Cyfarwyddebau 2004/107/EC a 2008/50/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor mewn
perthynas â chyfnewid gwybodaeth o'r ddwy ochr ac adrodd ar
ansawdd aer amgylchynol
-
Penderfyniad 2012/115/UE sy'n gosod rheolau ynghylch y
cynlluniau cenedlaethol trosiannol y cyfeirir atynt yng
Nghyfarwyddeb 2010/75/UE Senedd Ewrop a'r Cyngor ar allyriadau
diwydiannol
-
Penderfyniad 2012/134/UE sy'n sefydlu'r casgliadau technegau
gorau sydd ar gael (BAT) o dan Gyfarwyddeb 2010/75/UE Senedd Ewrop
a'r Cyngor ar allyriadau diwydiannol ar gyfer cynhyrchu
gwydr
-
Penderfyniad 2012/135/UE sy'n sefydlu'r casgliadau technegau
gorau sydd ar gael (BAT) o dan Gyfarwyddeb 2010/75/UE Senedd Ewrop
a'r Cyngor ar allyriadau diwydiannol ar gyfer cynhyrchu haearn a
dur 2
-
Penderfyniad 2012/249/UE ynglŷn â phenderfynu
cyfnodau cychwyn a chau at ddibenion Cyfarwyddeb 2010/75/UE Senedd
Ewrop a'r Cyngor ar allyriadau diwydiannol
-
Penderfyniad 2013/84/UE sy'n sefydlu casgliadau'r technegau
gorau sydd ar gael (BAT) o dan Gyfarwyddeb 2010/75/UE Senedd Ewrop
a'r Cyngor ar allyriadau diwydiannol ar gyfer trin lledr a
chrwyn
-
Penderfyniad 2013/163/UE sy'n sefydlu casgliadau'r technegau
gorau sydd ar gael (BAT) o dan Gyfarwyddeb 2010/75/UE Senedd Ewrop
a'r Cyngor ar allyriadau diwydiannol ar gyfer cynhyrchu sment,
calch a magnesiwm ocsid
-
Penderfyniad 2013/732/UE sy'n sefydlu casgliadau'r technegau
gorau sydd ar gael (BAT) o dan Gyfarwyddeb 2010/75/UE Senedd Ewrop
a'r Cyngor ar allyriadau diwydiannol ar gyfer cynhyrchu
chlor-alcali
-
Penderfyniad 2014/687/UE sy'n sefydlu casgliadau'r technegau
gorau sydd ar gael (BAT) o dan Gyfarwyddeb 2010/75/UE Senedd Ewrop
a'r Cyngor ar gyfer mwydion coed, papur a chardfwrdd
-
Penderfyniad 2014/738/UE sy'n sefydlu casgliadau'r technegau
gorau sydd ar gael (BAT) o dan Gyfarwyddeb 2010/75/UE Senedd Ewrop
a'r Cyngor ar allyriadau diwydiannol, ar gyfer puro mwyn olew a
nwy
-
Penderfyniad 2014/768/UE sy'n sefydlu math, fformat ac amledd
y wybodaeth sydd ar gael gan yr Aelod-wladwriaethau am dechnegau
rheoli allyriadau integredig a gymhwysir mewn purfeydd mwyn olew a
nwy, yn unol â Chyfarwyddeb 2010/75/UE Senedd Ewrop a'r
Cyngor
-
Penderfyniad 2015/6674/UE sy'n sefydlu fformat cyffredin ar
gyfer cyflwyno adroddiadau Aelod-wladwriaeth ar weithredu
Cyfarwyddeb 2004/42/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gyfyngu ar
allyriadau cyfansoddion organig anweddol o ganlyniad i ddefnyddio
toddyddion organig mewn rhai paentiau a farneisiau a chynhyrchion
ailorffen cerbydau
-
Penderfyniad 2015/2119/UE sy'n sefydlu casgliadau'r technegau
gorau sydd ar gael (BAT) o dan Gyfarwyddeb 2010/75/UE Senedd Ewrop
a'r Cyngor ar gyfer cynhyrchu panelau sy'n seiliedig ar
bren
-
Penderfyniad 2016/902/UE sy'n sefydlu casgliadau'r technegau
gorau sydd ar gael (BAT), o dan Gyfarwyddeb 2010/75/UE Senedd Ewrop
a'r Cyngor, ar gyfer systemau trin/rheoli dwr gwastraff a nwy
gwastraff cyffredin yn y sector cemegol
-
Penderfyniad 2016/1023/UE sy'n sefydlu casgliadau'r technegau
gorau sydd ar gael (BAT) o dan Gyfarwyddeb 2010/75/UE Senedd Ewrop
a'r Cyngor ar ddiwydiannau metalau anfferus
-
Penderfyniad 2017/302/UE sy'n sefydlu casgliadau'r technegau
gorau sydd ar gael (BAT) o dan Gyfarwyddeb 2010/75/UE Senedd Ewrop
a'r Cyngor ar gyfer magu dofednod neu foch yn ddwys
-
Penderfyniad 2017/1442/UE sy'n sefydlu casgliadau'r technegau
gorau sydd ar gael (BAT) o dan Gyfarwyddeb 2010/75/UE Senedd Ewrop
a'r Cyngor ar gyfer gweithfeydd ymlosgi mawr
-
Penderfyniad 2017/2117/UE sy'n sefydlu casgliadau'r technegau
gorau sydd ar gael (BAT) o dan Gyfarwyddeb 2010/75/UE Senedd Ewrop
a'r Cyngor ar gyfer cynhyrchu cemegau organig o sylwedd
-
Penderfyniad 2018/1135/UE sy'n sefydlu math, fformat ac amlder
y wybodaeth sydd ar gael gan yr Aelod-wladwriaethau at ddibenion
adrodd ar weithredu Cyfarwyddeb 2010/75/UE Senedd Ewrop a'r Cyngor
ar allyriadau diwydiannol
-
Penderfyniad 2018/1147/UE sy'n sefydlu casgliadau'r technegau
gorau sydd ar gael (BAT) ar gyfer trin gwastraff, o dan Gyfarwyddeb
2010/75/UE Senedd Ewrop a'r Cyngor 3
-
Penderfyniad 2018/1522 sy'n gosod fformat cyffredin ar gyfer
rhaglenni rheoli llygredd aer cenedlaethol o dan Gyfarwyddeb (UE)
2016/2284 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar leihau gollyngiadau
cenedlaethol llygryddion atmosfferig penodol
-
Atodiad 20 i gytundeb yr AEE
2.
Yn ogystal, nid yw'n glir o'r datganiad yr effaith sydd gan y
Rheoliadau ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad a / neu
gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru.
Mae'r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i'r
Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith ac i ba raddau y byddai'r
Rheoliadau hyn yn creu polisi newydd mewn meysydd
datganoledig.
Gan ei fod yn aneglur o ddatganiad Llywodraeth Cymru dyddiedig
27 Tachwedd 2018 yr effaith y gall y Rheoliadau ei chael ar
gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad a / neu gymhwysedd
gweithredol Gweinidogion Cymru, nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol
wedi gallu asesu a oes unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan
baragraff 8 y Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a
Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau
hyn.
Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol wedi nodi unrhyw reswm
cyfreithiol i geisio cynnig cydsyniad o dan Reol Sefydlog 30A.10
mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.
|