GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG
|
|
Rheoliadau Ansawdd Aer (Diwygio Rheoliadau Domestig) (Ymadael â’r UE) 2018 Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 22 Tachwedd 2018 |
|
Sifftio |
|
A fydd angen sifftio yn Senedd y DU? |
Bydd |
Gweithdrefn: |
Negyddol arfaethedig |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Ty'r Cyffredin |
4 Rhagfyr 2018 |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-deddfwriaeth Ty'r Arglwyddi |
wythnos yn dechrau 3 Rhagfyr 2018 |
Dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU |
10 Rhagfyr 2018 |
Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: |
Papur 32 |
Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol) |
Dim angen |
Gweithdrefn graffu |
|
Canlyniad y broses sifftio |
Ddim yn hysbys |
Y weithdrefn |
Negyddol neu Gadarnhaol |
Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol |
Ddim yn hysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ty'r Cyffredin |
Ddim yn hysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-deddfwriaeth Ty'r Arglwyddi |
Ddim yn hysbys |
Sylwadau
Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU o dan adran 8(1), a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.
Mae'r Rheoliadau yn diwygio deddfwriaeth ddomestig sy'n gweithredu deddfwriaeth ansawdd aer yr UE i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn weithredol ar ôl i'r DU ymadael â'r UE.
Mae Cynghorwyr Cyfreithiol yn gwneud y sylwadau canlynol mewn perthynas â datganiad Llywodraeth Cymru dyddiedig 27 Tachwedd 2018 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn: 1. Mae'r datganiad yn crynhoi'n anghywir y ddeddfwriaeth sy'n cael ei diwygio gan y Rheoliadau. Mae'r ddeddfwriaeth a ddiwygiwyd fel a ganlyn: -
2. Er bod Rheoliadau Cynhyrchion Cyfansawdd Organig Ymfflamychol mewn Paentiau, Farnisau a Chyfarpar Ailorffen Cerbydau 2012 a Rheoliadau Terfynau Uchaf Allyriadau Cenedlaethol 2018 yn berthnasol i'r DU, dim ond rheoliadau 3 (a), 23, 24, 25 (4) a 32 o'r Rheoliadau Safonau Ansawdd Aer 2010 sy'n gymwys i Gymru. Dim ond rheoliad 32 a gaiff ei ddiwygio gan y Rheoliadau hyn. Nid yw hyn yn glir o ddatganiad Llywodraeth Cymru.
3. Yn ogystal, nid yw'n glir o'r datganiad yr effaith sydd gan y Rheoliadau ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad a / neu gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru. Mae'r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith ac i ba raddau y byddai'r Rheoliadau hyn yn creu polisi newydd mewn meysydd datganoledig.
Gan ei fod yn aneglur o ddatganiad Llywodraeth Cymru dyddiedig 27 Tachwedd 2018 yr effaith y gall y Rheoliadau ei chael ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad a / neu gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru, nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol wedi gallu asesu a oes unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 y Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.
Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol wedi nodi unrhyw reswm cyfreithiol i geisio cynnig cydsyniad o dan Reol Sefydlog 30A.10 mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.
|