GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG
|
|
Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy a Sgil-gynhyrchionAnifeiliaid (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018 Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 22 Tachwedd 2018 |
|
Sifftio |
|
A fydd angen sifftio yn Senedd y DU? |
Bydd |
Gweithdrefn: |
Negyddol arfaethedig |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Ty'r Cyffredin |
4 Rhagfyr 2018 |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-deddfwriaeth Ty'r Arglwyddi |
4 Rhagfyr 2018 |
Dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU |
10 Rhagfyr 2018 |
Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: |
Papur 29 |
Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol) |
Dim angen |
Gweithdrefn graffu |
|
Canlyniad y broses sifftio |
Ddim yn hysbys |
Y weithdrefn |
Negyddol neu Gadarnhaol |
Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol |
Ddim yn hysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ty'r Cyffredin |
Ddim yn hysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-deddfwriaeth Ty'r Arglwyddi |
Ddim yn hysbys |
Sylwadau
Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU o dan adran 8(1), a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.
Mae'r Rheoliadau hyn yn sicrhau y bydd pum darn canlynol o ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE yn gwbl weithredol pan fydd y DU yn ymadael â’r UE ac yn ymwneud ag atal clefydau anifeiliaid; yn benodol ynghylch rheoli ac atal enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy a'r defnydd o sgil-gynhyrchion anifeiliaid, eu gwaredu, eu rhoi ar y farchnad a'u mewnforio:
Mae enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy a sgil-gynhyrchion anifeiliaid yn feysydd lle mae'r cyfrifoldeb wedi'i ddatganoli ac yn cael eu gweithredu yn y DU drwy is-ddeddfwriaeth ym mhob gwlad gyfansoddol yn y DU. Nid yw'r Rheoliadau'n deddfu unrhyw bolisi newydd.
Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 27 Tachwedd 2018 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn. Mae'r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith.
Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn ystyried bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 y Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.
Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol wedi nodi unrhyw reswm cyfreithiol i geisio cynnig cydsyniad o dan Reol Sefydlog 30A.10 mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.
|