GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG 

 

 

31 - Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin a’r Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (Diwygio Etc.) (Ymadael â’r UE) 2018

Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 21 Hydref 2018

Sifftio

A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU?

Bydd

Gweithdrefn:

Negyddol arfaethedig

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

4 Rhagfyr 2018

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

wythnos yn dechrau 3 Rhagfyr 2018

Y dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

6 Rhagfyr 2018

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Papur 25

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Dim angen

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Anhysbys 

Y weithdrefn

Negyddol neu Gadarnhaol

Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Anhysbys

Sylwadau

 

Cynigir bod y Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) o, a pharagraff 21 o Atodlen 7 i, Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

 

Mae'r Rheoliadau yn diwygio'r tri rheoliad domestig ar wahân (dau yn ymwneud â Lloegr yn unig), ac yn dirymu un, yn ymwneud â gweithredu Polisi Amaethyddol Cyffredin (“PAC”) yr Undeb Ewropeaidd, a hefyd yn diwygio un Gorchymyn yn ymwneud â'r Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth, er mwyn sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn gweithredu'n barhaus yn dilyn y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. I'r graddau y mae'r Rheoliadau hyn yn ymwneud â Chymru, mae'r Rheoliadau hyn:

  • yn diwygio Gorchymyn Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth 2008, i wneud newidiadau technegol a hefyd i gael gwared ar ardoll cig coch y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth ar anifeiliaid sy'n cael eu mewnforio o weddill y byd ar gyfer cigydda tymor byr. Mae hyn yn sicrhau triniaeth gyfartal rhwng yr UE a gweddill y byd ar ôl gadael yr UE;
  • diwygio Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Rheoli a Gorfodi, Trawsgydymffurfio, Craffu ar Drafodiadau ac Apelau) 2014 i wneud nifer o newidiadau technegol fel diwygio cyfeiriadau at gronfeydd Ewropeaidd na fydd y DU yn gallu cael mynediad iddynt ar ôl gadael yr UE, cael gwared ar hawliau cynrychiolwyr y Comisiwn Ewropeaidd i fynd i mewn i'r safleoedd, a mân ddiwygiadau eraill; a
  • dirymu Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Awdurdod Cymwys a Chorff Cydgysylltu) 2014, a fydd yn ddiangen ar ôl gadael yr UE.

Mae'r memorandwm esboniadol sy'n cyd-fynd â'r Rheoliadau hyn yn nodi bod y Rheoliadau yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod y rhai sy'n rhan o gynllun PAC yn parhau i gael eu talu ar ôl gadael yr UE.

 

Mae Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 26 Tachwedd 2018 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.

Mae'r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith ac i ba raddau y byddai'r Rheoliadau hyn yn deddfu polisi newydd mewn meysydd datganoledig.

 

Nid yw Cynghorwyr Cyfreithiol o'r farn bod unrhyw faterion sylweddol yn codi o dan baragraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.

 

Nid yw Cynghorwyr Cyfreithiol wedi nodi unrhyw reswm cyfreithiol i geisio am gynnig cydsyniad o dan Reol Sefydlog 30A.10 mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.