Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 13A(8) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2019 Rhif (Cy. )

y dreth gyngor, cymru

Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio)  2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 (“y Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig”) a Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013 (“y Rheoliadau Cynllun Diofyn”) a wnaed o dan adran 13A(4) a (5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, ac Atodlen 1B iddi.

Mae’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod bilio yng Nghymru wneud cynllun sy’n pennu’r gostyngiadau sydd i fod yn gymwys i symiau o’r dreth gyngor sy’n daladwy gan bersonau, neu gan ddosbarthiadau o bersonau, y mae’r awdurdod yn ystyried eu bod mewn angen ariannol. Mae’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig hefyd yn nodi’r materion y mae’n rhaid eu cynnwys mewn cynllun o’r fath.

Mae’r Rheoliadau Cynllun Diofyn yn nodi cynllun a fydd yn cael effaith, mewn cysylltiad ag anheddau sydd wedi eu lleoli yn ardal awdurdod bilio, os yw’r awdurdod yn methu â gwneud ei gynllun ei hun.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig a’r Rheoliadau Cynllun Diofyn.

Mae’r diwygiadau i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig a wneir gan reoliadau 4, 6(a)(i) i (v) a 7 yn cynyddu rhai o’r ffigyrau a ddefnyddir wrth gyfrifo a oes gan berson yr hawl i gael gostyngiad ai peidio, a swm y gostyngiad hwnnw. Mae’r ffigyrau uwchraddedig yn ymwneud â didyniadau annibynyddion (sef addasiadau i uchafswm y gostyngiad y mae hawl gan berson i’w gael, er mwyn cymryd i ystyriaeth oedolion sy’n byw yn yr annedd ac nad ydynt yn ddibynyddion y ceisydd); ac â’r swm cymwysadwy mewn perthynas â chais am ostyngiad (sef y swm y cymherir incwm ceisydd ag ef, er mwyn penderfynu swm y gostyngiad y mae hawl gan y ceisydd i’w gael). Gwneir yr un diwygiadau mewn perthynas â’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliadau 12, 14 a 15.

Gwneir y diwygiadau i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig a wneir gan reoliadau 5, 9(b) a 10(a) ac (c) o ganlyniad i fudd-dâl nawdd cymdeithasol newydd o’r enw’r Taliad Cymorth Profedigaeth (TCP) i briodau a phartneriaid sifil sy’n goroesi a wneir yn weddw ar 6 Ebrill 2017 neu ar ôl hynny. Mae’r diwygiadau yn sicrhau y caiff taliadau amrywiol o’r TCP eu diystyru wrth gyfrifo incwm fel bod, yn gyntaf, y taliad uwch cychwynnol ac unrhyw ôl-ddyledion sydd wedi eu cynnwys yn y taliad misol cyntaf yn cael eu trin fel cyfalaf, a diystyriad o 12 mis yn cael ei gymhwyso o’r dyddiad talu, ac yn ail, fel bod taliadau misol llai dilynol (ac eithrio ôl-ddyledion) yn cael eu trin fel incwm a’u diystyru am fis. Gwneir yr un diwygiadau i’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliadau 17(b), 18 a 19(a) ac (c).

Gwneir y diwygiadau i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig a wneir gan reoliadau 9(a) a 10(b) o ganlyniad i newid enw a throsglwyddo swyddogaethau o’r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a wneir gan Orchymyn yr Ysgrifenyddion Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a thros Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol a Throsglwyddo Swyddogaethau (Tir Cyfunddaliad) 2018. Gwneir yr un diwygiadau i’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliadau 17(a) a 19(b).

Bwriad y diwygiad i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig a wneir gan reoliad 8 yw egluro’r amodau cymhwyso ar gyfer diystyriad pan fo ceisydd yn aelod o gwpl. Ei fwriad yw egluro bod rhaid i’r person sy’n gweithio hefyd fod y person sy’n bodloni’r amodau cymhwyso drwy fod y person—

·     sydd â hawl i bremiwm anabledd, neu

·     sy’n derbyn yr elfen gymorth fel rhan o’i ddyfarniad o’r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (LCCh), neu

·     sydd yn y grŵp gweithgaredd perthynol i waith ar gyfer LCCh.

Gwneir yr un diwygiad i’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliad 16.

Caiff y diwygiadau a wneir i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig gan reoliadau 3(b) a 6(b) eu gwneud o ganlyniad i’r ffaith fod Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 ar fin cychwyn mewn perthynas â gwasanaeth maethu o fewn ystyr y Ddeddf honno. Mae’r cynllun a ddefnyddir ar hyn o bryd i gymeradwyo rhieni maeth wedi ei nodi yn Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003 (“Rheoliadau 2003”). Fodd bynnag, mae’n bosibl y caiff y Rheoliadau hynny eu disodli gan Reoliadau pellach a wneir yn unol ag adrannau 87 a 93 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”) yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf. Gwneir y diwygiad er mwyn sicrhau y bydd rhieni maeth a gymeradwyir o dan Reoliadau 2003 neu o dan unrhyw reoliadau a wneir yn unol ag adrannau 87 a 93 o Ddeddf 2014 yn ddarostyngedig i’r ddarpariaeth a wneir yn y Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig mewn cysylltiad â thrin costau gofal plant. Mae rheoliad 13 yn gwneud yr un diwygiad yn y Rheoliadau Cynllun Diofyn.

Mae’r diwygiad i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig a wneir gan reoliad 6(a)(vi) yn egluro’r sefyllfa mewn cysylltiad â didyniadau annibynyddion fel na fydd unrhyw ddidyniad yn digwydd pan na fo annibynnydd yn y grŵpgweithgaredd perthynol i waith ac yn derbyn budd-daliadau penodol, sef cymhorthdal incwm, credyd pensiwn y wladwriaeth, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Cyllid Llywodraeth Leol a Pherfformiad Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

 


Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 13A(8) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2019 Rhif (Cy. )

y dreth gyngor, cymru

Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2019

Gwnaed                                                 ***

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)              

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 13A(4) a (5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992([1]), a pharagraffau 2 i 7 o Atodlen 1B iddi.

Yn unol ag adran 13A(8) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.

Enwi, cychwyn a dehongli

1.(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2019.

(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.

(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â chynllun gostyngiadau’r dreth gyngor a wneir ar gyfer blwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2019 neu ar ôl hynny.

(4) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor” yw cynllun a wneir gan awdurdod bilio yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013([2]), neu’r cynllun sy’n gymwys yn ddiofyn yn rhinwedd paragraff 6(1)(e) o Atodlen 1B i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.

Diwygiadau i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Cyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013

2. Mae Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 10.

3. Yn Atodlen 1 (penderfynu cymhwystra am ostyngiad: pensiynwyr)—

(a)     ym mharagraff 3 (didyniadau annibynyddion: pensiynwyr)—

                            (i)    yn is-baragraff (1)(a) yn lle “£13.10” rhodder “£13.75”;

                          (ii)    yn is-baragraff (1)(b) yn lle “£4.35” rhodder “£4.55”;

                        (iii)    yn is-baragraff (2)(a) yn lle “£205.00” rhodder “£210.00”;

                        (iv)    yn is-baragraff (2)(b) yn lle “£205.00”, “£355.00” ac “£8.70” rhodder “£210.00”, “£365.00” a “£9.15” yn y drefn honno;

                          (v)    yn is-baragraff (2)(c) yn lle “£355.00”, “£440.00” a “£10.95” rhodder “£365.00”, “£450.00” ac “£11.50” yn y drefn honno;

(b)     ym mharagraff 19(8)(k) (trin costau gofal plant: pensiynwyr), yn lle “Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003” rhodder “Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003([3]), neu unrhyw reoliadau a wneir o dan adrannau 87 a 93 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014([4]) sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer cymeradwyo rhieni maeth awdurdodau lleol”.

4. Yn Atodlen 2 (symiau cymwysadwy: pensiynwyr)—

(a)     yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—

                            (i)    yn is-baragraff (1) yn lle “£163.00” a “£176.40” rhodder “£167.25” a “£181.00” yn y drefn honno;

                          (ii)    yn is-baragraff (2) yn lle “£248.80” a “£263.80” rhodder “£255.25” a “£270.60” yn y drefn honno;

                        (iii)    yn is-baragraff (3) yn lle “£248.80” ac “£85.80” rhodder “£255.25” ac “£88.00” yn y drefn honno;

                        (iv)    yn is-baragraff (4) yn lle “£263.80” ac “£87.40” rhodder “£270.60” ac “£89.60” yn y drefn honno;

(b)     yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3), yn yr ail golofn—

                            (i)    yn is-baragraff (1) yn lle “£64.30” ym mhob lle y mae’n digwydd rhodder “£65.85” ac yn lle “£128.60” rhodder “£131.70”;

                          (ii)    yn is-baragraff (2) yn lle “£25.48” rhodder “£26.04”;

                        (iii)    yn is-baragraff (3) yn lle “£62.86” rhodder “£64.19”;

                        (iv)    yn is-baragraff (4) yn lle “£36.00” rhodder “£36.85”.

5. Yn Atodlen 5 (diystyriadau cyfalaf: pensiynwyr)—

(a)     ym mharagraff 21(2)—

                            (i)    ym mharagraff (p) hepgorer “neu;”;

                          (ii)    ym mharagraff (q) yn lle “.” rhodder “; neu”;

                        (iii)    ar ôl paragraff (q) mewnosoder—

(r)  taliad cymorth profedigaeth o dan adran 30 o Ddeddf Pensiynau 2014([5]),”; a

(b)     ar ôl paragraff 28B mewnosoder—

28C. Unrhyw daliad cymorth profedigaeth mewn cysylltiad â’r gyfradd a bennir yn rheoliad 3(2) neu (5) o Reoliadau Taliad Cymorth Profedigaeth 2017([6]) (cyfradd y taliad cymorth profedigaeth), ond am gyfnod o 52 o wythnosau yn unig o ddyddiad cael y taliad.

6. Yn Atodlen 6 (penderfynu cymhwystra am ostyngiad o dan gynllun awdurdod, swm unrhyw ostyngiad, a chyfrifo incwm a chyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—

(a)     ym mharagraff 5 (didyniadau annibynyddion: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—

                            (i)    yn is-baragraff (1)(a) yn lle “£13.10” rhodder “£13.75”;

                          (ii)    yn is-baragraff (1)(b) yn lle “£4.35” rhodder “£4.55”;

                        (iii)    yn is-baragraff (2)(a) yn lle “£205.00” rhodder “£210.00”;

                        (iv)    yn is-baragraff (2)(b) yn lle “£205.00”, “£355.00” ac “£8.70” rhodder “£210.00”, “£365.00” a “£9.15” yn y drefn honno;

                          (v)    yn is-baragraff (2)(c) yn lle “£355.00”, “£440.00” a “£10.95” rhodder “£365.00”, “£450.00” ac “£11.50” yn y drefn honno;

                        (vi)    yn is-baragraff (8) yn lle paragraff (a) rhodder—

(a) nad yw’n aelod o’r grŵp gweithgaredd perthynol i waith, ac sy’n derbyn cymhorthdal incwm, credyd pensiwn y wladwriaeth, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm;;

(b)     ym mharagraff 21(8)(k) (trin costau gofal plant) yn lle “Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003” rhodder “Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003 neu unrhyw reoliadau a wneir o dan adrannau 87 a 93 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer cymeradwyo rhieni maeth awdurdodau lleol”.

7. Yn Atodlen 7 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—

(a)     yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—

                            (i)    yn is-baragraff (1) yn lle “£76.10” ym mhob lle y mae’n digwydd rhodder “£77.90” ac yn lle “£60.25” rhodder “£61.70”;

                          (ii)    yn is-baragraff (2) yn lle “£76.10” rhodder “£77.90”;

                        (iii)    yn is-baragraff (3) yn lle “£119.50” rhodder “£122.35”;

(b)     yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3), yn yr ail golofn—

                            (i)    yn is-baragraff (1) yn lle “£33.55” a “£47.80” rhodder “£34.35” a “£48.95” yn y drefn honno;

                          (ii)    yn is-baragraff (2) yn lle “£64.30” ym mhob lle y mae’n digwydd rhodder “£65.85” ac yn lle “£128.60” rhodder “£131.70”;

                        (iii)    yn is-baragraff (3) yn lle “£62.86” rhodder “£64.19”;

                        (iv)    yn is-baragraff (4) yn lle “£36.00” rhodder “£36.85”;

                          (v)    yn is-baragraff (5) yn lle “£25.48”, “£16.40” a “£23.55” rhodder “£26.04”, “£16.80” a “£24.10” yn y drefn honno;

(c)     yn Rhan 6 (symiau’r elfennau), ym mharagraff 24 (swm yr elfen gymorth), yn lle “£37.65” rhodder “£38.55”.

8. Yn Atodlen 8 (symiau a ddiystyrir wrth gyfrifo enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr), ym mharagraff 18(2)(b), yn lle is-baragraff (iv) rhodder—

                    (iv)  y ceisydd, nad yw’n aelod o gwpl, yn ymgymryd â gwaith am dâl am ddim llai nag 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd, a bod—

(aa)    swm cymwysadwy’r ceisydd yn cynnwys premiwm anabledd o dan baragraff 9 o Atodlen 7 neu’r elfen gymorth o dan baragraff 22 o Atodlen 7; neu

(bb)    y ceisydd yn aelod o’r grŵp gweithgaredd perthynol i waith; neu

                      (v)  y ceisydd yn aelod o gwpl ac o leiaf un aelod o’r cwpl hwnnw yn ymgymryd â gwaith am dâl am ddim llai nag 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd, a bod yr aelod hwnnw o’r cwpl—

(aa)    yn bodloni’r amodau cymhwyso ar gyfer y premiwm anabledd o dan baragraff 9 o Atodlen 7 neu’r elfen gymorth o dan baragraff 22 o Atodlen 7; neu

(bb)    yn aelod o’r grŵp gweithgaredd perthynol i waith.”

9. Yn Atodlen 9 (symiau a ddiystyrir wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—

(a)     ym mharagraff 46(2) ar ôl “Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd” mewnosoder “a Gofal Cymdeithasol”;

(b)     ar ôl paragraff 66 mewnosoder—

67. Unrhyw daliad cymorth profedigaeth o dan adran 30 o Ddeddf Pensiynau 2014 (taliad cymorth profedigaeth) ac eithrio unrhyw daliad o’r fath a ddiystyrir fel cyfalaf o dan baragraff 12(1)(h) neu 65 o Atodlen 10.

10. Yn Atodlen 10 (diystyriadau cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—

(a)     ym mharagraff 12(1)—

                            (i)    ym mharagraff (g) yn lle “,” rhodder “;”;

                          (ii)    ar ôl paragraff (g) mewnosoder—

(h) taliad cymorth profedigaeth o dan adran 30 o Ddeddf Pensiynau 2014,;

(b)     ym mharagraff 43(2) ar ôl “Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd” mewnosoder “a Gofal Cymdeithasol”;

(c)     ar ôl paragraff 64 mewnosoder—

65. Unrhyw daliad cymorth profedigaeth mewn cysylltiad â’r gyfradd a bennir yn rheoliad 3(2) neu (5) o Reoliadau Cymorth Profedigaeth 2017 (cyfradd y taliad cymorth profedigaeth), ond am gyfnod o 52 o wythnosau yn unig o ddyddiad cael y taliad.

Diwygiadau i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013

11. Mae’r cynllun a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013([7]) wedi ei ddiwygio yn unol â rheoliadau 12 i 19.

12. Ym mharagraff 28 (didyniadau annibynyddion: pensiynwyr a phersonau nad ydynt yn bensiynwyr)—

(a)     yn is-baragraff (1)(a) yn lle “£13.10” rhodder “£13.75”;

(b)     yn is-baragraff (1)(b) yn lle “£4.35” rhodder “£4.55”;

(c)     yn is-baragraff (2)(a) yn lle “£205.00” rhodder “£210.00”;

(d)     yn is-baragraff (2)(b) yn lle “£205.00”, “£355.00” ac “£8.70” rhodder “£210.00”, “£365.00” a “£9.15” yn y drefn honno;

(e)     yn is-baragraff (2)(c) yn lle “£355.00”, “£440.00” a “£10.95” rhodder “£365.00”, “£450.00” ac “£11.50”.

13. Ym mharagraff 55(8)(k) (trin costau gofal plant) yn lle “Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003” rhodder “Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003 neu unrhyw reoliadau a wneir o dan adrannau 87 a 93 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer cymeradwyo rhieni maeth awdurdodau lleol”.

14. Yn Atodlen 2 (symiau cymwysadwy: pensiynwyr)—

(a)     yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—

                            (i)    yn is-baragraff (1) yn lle “£163.00” a “£176.40” rhodder “£167.25” a “£181.00” yn y drefn honno;

                          (ii)    yn is-baragraff (2) yn lle “£248.80” a “£263.80” rhodder “£255.25” a “£270.60” yn y drefn honno;

                        (iii)    yn is-baragraff (3) yn lle “£248.80” ac “£85.80” rhodder “£255.25” ac “£88.00” yn y drefn honno;

                        (iv)    yn is-baragraff (4) yn lle “£263.80” ac “£87.40” rhodder “£270.60” ac “£89.60” yn y drefn honno;

(b)     yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3), yn yr ail golofn—

                            (i)    yn is-baragraff (1) yn lle “£64.30” ym mhob lle y mae’n digwydd rhodder “£65.85” ac yn lle “£128.60” rhodder “£131.70”;

                          (ii)    yn is-baragraff (2) yn lle “£25.48” rhodder “£26.04”;

                        (iii)    yn is-baragraff (3) yn lle “£62.86” rhodder “£64.19”;

                        (iv)    yn is-baragraff (4) yn lle “£36.00” rhodder “£36.85”.

15. Yn Atodlen 3 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—

(a)     yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—

                            (i)    yn is-baragraff (1) yn lle “£76.10” ym mhob lle y mae’n digwydd rhodder “£77.90” ac yn lle “£60.25” rhodder “£61.70”;

                          (ii)    yn is-baragraff (2) yn lle “£76.10” rhodder “£77.90”;

                        (iii)    yn is-baragraff (3) yn lle “£119.50” rhodder “£122.35”;

(b)     yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3), yn yr ail golofn—

                            (i)    yn is-baragraff (1) yn lle “£33.55” a “£47.80” rhodder “£34.35” a “£48.95” yn y drefn honno;

                          (ii)    yn is-baragraff (2) yn lle “£64.30” ym mhob lle y mae’n digwydd rhodder “£65.85” ac yn lle “£128.60” rhodder “£131.70”;

                        (iii)    yn is-baragraff (3) yn lle “£62.86” rhodder “£64.19”;

                        (iv)    yn is-baragraff (4) yn lle “£36.00” rhodder “£36.85”;

                          (v)    yn is-baragraff (5) yn lle “£25.48”, “£16.40” a “£23.55” rhodder “£26.04”, “£16.80” a “£24.10” yn y drefn honno;

(c)     yn Rhan 6 (symiau’r elfennau), ym mharagraff 24 (swm yr elfen gymorth), yn lle “£37.65” rhodder “£38.55”.

16. Yn Atodlen 6 (symiau a ddiystyrir wrth gyfrifo enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr), ym mharagraff 18(2)(b), yn lle is-baragraff (iv) rhodder—

                    (iv)  y ceisydd, nad yw’n aelod o gwpl, yn ymgymryd â gwaith am dâl am ddim llai nag 16 yr wythnos ar gyfartaledd, a bod—

(aa)    swm cymwysadwy’r ceisydd yn cynnwys premiwm anabledd o dan baragraff 9 o Atodlen 3 neu’r elfen gymorth o dan baragraff 22 o Atodlen 3; neu

(bb)    y ceisydd yn aelod o’r grŵp gweithgaredd perthynol i waith; neu

                      (v)  y ceisydd yn aelod o gwpl ac o leiaf un aelod o’r cwpl hwnnw yn ymgymryd â gwaith am dâl am ddim llai nag 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd, a bod yr aelod hwnnw o’r cwpl—

(aa)    yn bodloni’r amodau cymhwyso ar gyfer y premiwm anabledd o dan baragraff 9 o Atodlen 3 neu’r elfen gymorth o dan baragraff 22 o Atodlen 3; neu

(bb)    yn aelod o’r grŵp gweithgaredd perthynol i waith.

17. Yn Atodlen 7 (symiau a ddiystyrir wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—

(a)     ym mharagraff 46(2) ar ôl “Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd” mewnosoder “a Gofal Cymdeithasol”;

(b)     ar ôl paragraff 66 mewnosoder—

67. Unrhyw daliad cymorth profedigaeth o dan adran 30 o Ddeddf Pensiynau 2014 (taliad cymorth profedigaeth) ac eithrio unrhyw daliad o’r fath a ddiystyrir fel cyfalaf o dan baragraff 12(1)(h) o Atodlen 9 neu baragraff 65 o Atodlen 9.

18. Yn Atodlen 8 (diystyriadau cyfalaf: pensiynwyr)—

(a)     ym mharagraff 21(2)—

                            (i)    ym mharagraff (p) hepgorer “neu;”;

                          (ii)    ym mharagraff (q) yn lle “.” rhodder “; neu”;

                        (iii)    ar ôl paragraff (q) mewnosoder—

(r)  taliad cymorth profedigaeth o dan adran 30 o Ddeddf Pensiynau 2014.;

(b)     ar ôl paragraff 28B mewnosoder—

28C. Unrhyw daliad cymorth profedigaeth mewn cysylltiad â’r gyfradd a bennir yn rheoliad 3(2) neu (5) o Reoliadau Taliad Cymorth Profedigaeth 2017 (cyfradd y taliad cymorth profedigaeth), ond am gyfnod o 52 o wythnosau yn unig o ddyddiad cael y taliad.

19. Yn Atodlen 9 (diystyriadau cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—

(a)     yn lle paragraff 12(1) rhodder—

(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), unrhyw ôl-ddyled o’r canlynol, neu unrhyw daliad consesiynol a wneir i ddigolledu am ôl-ddyled oherwydd methiant i dalu’r canlynol, ond am gyfnod o 52 o wythnosau yn unig o ddyddiad cael yr ôl-ddyled neu’r taliad consesiynol—

(a)   unrhyw daliad a bennir ym mharagraffau 11, 13 neu 14 o Atodlen 7;

(b)   budd-dal ar sail incwm o dan Ran 7 o DCBNC([8]);

(c)   lwfans ceisio gwaith ar sail incwm;

(d)   unrhyw daliad tai disgresiynol a delir yn unol â rheoliad 2(1) o Reoliadau Cymorth Ariannol Disgresiynol 2001([9]);

(e)   credyd treth gwaith a chredyd treth plant;

(f)   lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm;

(g)   credyd cynhwysol;

(h)   taliad cymorth profedigaeth o dan adran 30 o Ddeddf Pensiynau 2014.;

(b)     ym mharagraff 43(2) ar ôl “Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd” mewnosoder “a Gofal Cymdeithasol”;

(c)     ar ôl paragraff 64 mewnosoder—

65. Unrhyw daliad cymorth profedigaeth mewn cysylltiad â’r gyfradd a nodir yn rheoliad 3(2) neu (5) o Reoliadau Taliad Cymorth Profedigaeth 2017 (cyfradd y taliad cymorth profedigaeth), ond am gyfnod o 52 o wythnosau yn unig o ddyddiad cael y taliad.

 

 

Enw

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru

Dyddiad

 

 



([1])           1992 p. 14.  Amnewidiwyd adran 13A gan adran 10(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 2012 (p. 17) a mewnosodwyd Atodlen 1B gan adran 10(2) o’r Ddeddf honno, ac Atodlen 4 iddi.

([2])           O.S. 2013/3029 (Cy. 301), a ddiwygiwyd gan O.S. 2014/66 (Cy. 6), O.S. 2014/825 (Cy. 83), O.S. 2014/852, O.S. 2015/44 (Cy. 3), O.S. 2015/971, O.S. 2016/50 (Cy. 21), O.S. 2017/46 (Cy. 20) ac O.S. 2018/14 (Cy. 7).

([3])           O.S. 2003/237 (Cy. 35).

([4])           2014 dccc 4.

([5])           2014 p. 19.

([6])           O.S. 2017/410.

([7])           O.S. 2013/3035 (Cy. 303), a ddiwygiwyd gan O.S. 2014/66 (Cy. 6),  O.S. 2014/825 (Cy. 83), O.S. 2014/852, O.S. 2015/44 (Cy. 3),  O.S. 2015/971, O.S. 2016/50 (Cy. 21), O.S. 2017/46 (Cy. 20) ac O.S. 2018/14 (Cy. 7).

([8])           Ystyr “DCBNC” yw Deddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 (p. 4); gweler y diffiniad yn rheoliad 2 o Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 ac ym mharagraff 2 o’r cynllun a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynlluniau Diofyn) (Cymru) 2013.

([9])           O.S. 2001/1167.