GWEINIDOGION Y DU YN GWEITHREDU MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG 

 

 

Rheoliadau Rheolau Darpariaethau Cyffredin y Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd etc. (Diwygio etc.) (Ymadael â'r UE) 2018 Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 21 Tachwedd 2018

Sifftio

A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU?

Bydd

Gweithdrefn:

Negyddol arfaethedig

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

wythnos yn dechrau 3 Rhagfyr 2018

Y dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

6 Rhagfyr 2018

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Papur 25

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Dim angen 

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Anhysbys 

Y weithdrefn

Negyddol neu Gadarnhaol

Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Anhysbys

Sylwadau

 

Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, a pharagraff 21(b) o Atodlen 7 i'r Ddeddf honno.

 

Mae'r offeryn hwn yn mynd i'r afael â’r ffaith nad yw cyfraith yr UE sydd wedi'i dargadw yn gweithredu'n effeithiol a hefyd â diffygion eraill sy'n deillio o ymadawiad y DU â'r UE. Mae'n ymdrin â chywiriadau sy'n dechnegol o ran eu natur ac nad ydynt yn gwneud unrhyw newidiadau polisi arwyddocaol.

Mae'r cywiriadau hyn, yn hytrach, yn addasu Rheoliadau'r UE sydd wedi'u dargadw i gynnwys telerau (cytunedig) newydd i sicrhau y bydd rhaglenni Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD) a Chronfa'r Môr a Physgodfeydd Ewrop (EMFF) yr UE sydd eisoes yn bodoli yn parhau i gael eu cyllido am weddill rhaglen 2014 i 2020, os na fydd cytundeb o ran Brexit. Yr OS hwn yw ail Offeryn Statudol cywiro'r DU sydd wedi'i gynnwys yn rhan o'r pecyn ehangach i gywiro'r Polisi Amaethyddol Cyffredin.

 

Mae Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 26 Tachwedd 2018 am effaith y Rheoliadau hyn.

 

Mae'r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol ar y Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith ac i ba raddau y byddai'r Rheoliadau hyn yn rhoi polisi newydd ar waith mewn meysydd datganoledig.

 

Nid yw Cynghorwyr Cyfreithiol yn ystyried bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 o’r Memorandwm sy’n mynd gyda Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.

 

Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol wedi nodi unrhyw reswm cyfreithiol i geisio cynnig cydsyniad o dan Reol Sefydlog 30A.10 mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.